Rhybudd melyn am stormydd i rannau o'r gogledd

Rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd melyn i ben am 23:59 nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl stormydd a chyfnodau o law trwm mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru brynhawn dydd Iau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau fydd mewn grym rhwng 12:00 dydd Iau, tan 23:59.

Fe allai'r tywydd garw arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr yn ogystal ag effeithio ar gyflenwadau trydan.

Fe allai hyd rhwng 25-30mm o law ddisgyn mewn awr neu ddwy, gyda hyd at 50mm yn bosib mewn mannau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i saith o siroedd yng Nghymru - Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy, Powys a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig