Cyn-ymosodwr Caerdydd, Kevin Campbell, wedi marw

Kevin CampbellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Kevin Campbell yn chwarae i wyth clwb yn ystod ei yrfa gan ddisgleiro fel blaenwr i dimau Arsenal ac Everton

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-ymosodwr tim pêl-droed Caerdydd, Kevin Campbell, wedi marw yn 54 oed wedi salwch byr.

Bu'n chwarae i wyth clwb yn ystod ei yrfa gan ddisgleiro fel blaenwr i dimau Arsenal ac Everton.

Fe sgoriodd 148 gôl mewn 542 gêm - un o'r rheiny i Gaerdydd yn rowndiau gogynderfynol cystadleuaeth Cwpan Premier Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Nghaerfyrddin yn 2007.

'Lyfli o foi'

Fe wnaeth y Parchedig Euron Hughes o Lanuwchllyn ei gyfarfod pan ddaeth i Ddolgellau yn ystod gêm i gofio am fachgen ifanc o'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Euron Hughes a Kevin Campbell yn ystod ei ymweliad â Dolgellau

Fel cefnogwr selog i dîm Everton dywedodd Mr Hughes ei fod yn ddyn hyfryd a'i "fod wedi achub y tîm".

"Yn 1998 daeth Super Kev ar fenthyg a mwy neu lai ar ben ei hun achub y clwb a sgorio naw gôl mewn saith gêm," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roeddwn yno i'w weld o'n sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb a'i hatrick yn erbyn West Ham yr un tymor.

"Ar ôl arwyddo yn barhaol fe sgoriodd y winner yn Anfield - atgofion fydd yn para am byth.

"Roedd e'n lyfli o foi. Un o'r hogia ac amser ganddo i bawb."

Mae clybiau Everton ac Arsenal wedi rhoi teyrngedau iddo gan ddweud eu bod yn drist iawn o glywed am farwolaeth Mr Campbell wedi salwch mor fyr.