Rhybuddion am law trwm i Gymru am y dyddiau nesaf

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybudd ar gyfer Cymru gyfan mewn grym o nos Iau tan y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybuddion am law trwm wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Cymru gyfan dros y dyddiau nesaf.

Bu'r cyntaf o'r rhybuddion hynny mewn grym ar gyfer rhannau o siroedd Ceredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys ddydd Mercher.

Bydd rhybudd melyn arall mewn grym o 21:00 nos Iau a thrwy gydol dydd Gwener, a hynny ar gyfer Cymru gyfan.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 70mm o law disgyn mewn rhai mannau, ac y gallai stormydd ddatblygu yn y de.

"Mae'r rhain yn symiau sylweddol," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

Mae llifogydd yn bosib, meddai, a fyddai'n gallu effeithio ar y ffyrdd, gwasanaethau trafnidiaeth ac yn achosi toriadau pŵer.

Pynciau cysylltiedig