Cyngor Môn yn colli apêl dros godi 33 o dai fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr cynllunio wedi gwyrdroi penderfyniad gan Gyngor Môn i wrthod datblygiad o 33 o dai fforddiadwy.
Fis Mai y llynedd fe gafodd cais i adeiladu'r cartrefi yng Ngwalchmai ei wrthod gan gynghorwyr sir yr ynys oherwydd pryderon fod y safle tu allan i ffin ddatblygu'r pentref.
Gan honni ei fod yn "or-ddatblygiad", roedd cwestiynau hefyd dros yr effaith ar wasanaethau lleol.
Ond wedi i'r datblygwyr lansio apêl mae arolygwr cynllunio o PEDW - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru - wedi dod i'r casgliad fod y datblygiad yn dderbyniol.
Roedd aelodau o Bwyllgor Cynllunio Môn wedi mynd yn groes i swyddogion y cyngor wrth wrthod y cais y llynedd, gydag adran dai yr awdurdod o'r farn bod angen 50 eiddo fforddiadwy yn ardal Trewalchmai i gwrdd â'r gofyn.
Cwestiynu'r angen am ddatblygiad mor fawr wnaeth llawer o drigolion lleol, gyda Chyngor Cymuned Trewalchmai yn datgan gwrthwynebiad unfrydol i'r cynllun.
Cafodd dros 100 llythyr o wrthwynebiad hefyd eu hanfon i'r awdurdod, yn ogystal â'r ddau gynghorydd sir lleol - Neville Evans a Douglas Fowlie - yn siarad yn erbyn y cais.
Ond yn sgil yr apêl a gwrandawiad cyhoeddus, penderfyniad arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru oedd caniatáu'r cais a gwyrdroi gwrthodiad y cyngor.
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
Yn ôl AMP Construction, a wnaeth y cais ar gyfer y datblygiad ar gae ar Stryd y Goron yng Ngwalchmai, mae "galw arbennig am eiddo dwy a thair ystafell wely" yn yr ardal.
Y llynedd dywedodd un o berchnogion y safle bod yr angen am y 33 tŷ fforddiadwy "wedi ei brofi".
Ychwanegodd Alan Griffiths, a gafodd ei fagu yng Ngwalchmai, bod "wir angen" tai fforddiadwy yng nghalon yr ynys, lle mae'r iaith ar ei chryfaf.
Ond barn Grŵp Gwarchod Gwalchmai oedd nad oedd y cynllun yn un addas, gan honni y "byddai ychwanegiad o 10% i boblogaeth y pentref yn achosi mwy o bwysau ar yr isadeiledd".
Wedi ei benodi gan weinidogion Llywodraeth Cymru, barn yr arolygydd cynllunio Ian Stevens oedd fod y cais yn un derbyniol.
Wrth nodi ei fod yn "fodlon bod angen lleol am y datblygiad arfaethedig wedi’i adnabod yng Ngwalchmai," ychwanegodd: "Rwy’n fodlon bod yr angen am dai fforddiadwy yn y pentref yn llawer uwch na’r cyflenwad hyd yma.
"Byddai meddianwyr yn y dyfodol sydd â chysylltiadau lleol â’r pentref yn cael blaenoriaeth, gan gyfrannu drwy hynny at leihau’r bwlch rhwng y galw a’r cyflenwad lleol.
"Ar ôl ystyried yr holl faterion eraill a godwyd, deuaf i’r casgliad y dylid caniatáu’r apêl."
Bydd y cyngor hefyd yn gorfod talu costau achos yr apêl i'r ymgeisydd.
'Siomedig iawn'
Penderfynodd Cyngor Môn i beidio darparu sylw yn sgil ymholiad gan BBC Cymru.
Ond dywedodd Maldwyn Owen, aelod o Grŵp Gwarchod Gwalchmai, ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r penderfyniad.
"'Da ni'n dal i gwestiynu’r ffigyrau yn nhermau lefel y galw oddi fewn y pentref ei hun," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae'n ergyd i'r gymuned yn nhermau gymaint o wrthwynebiad sydd wedi bod yn lleol a byddwn yn ystyried ein hopsiynau rŵan."