'Gallwn fod wedi taro bachgen pe bawn dros 20mya'

Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wyn Rees o Landudoch yn gyrru yn yr ardal pan fu'n ffodus i beidio taro bachgen 12 oed gan ei fod yn gyrru'n ddigon araf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Benfro yn dweud y gallai fod wedi lladd bachgen 12 oed os oedd yn gyrru dros 20mya.

Roedd Wyn Rees o Landudoch yn gyrru yn yr ardal pan wnaeth y plentyn groesi’r ffordd yn dal ei gacen pen-blwydd.

Yn ôl Wyn, yr unig reswm y llwyddodd i stopio oedd oherwydd bod y terfyn cyflymder wedi’i ostwng i 20mya.

Mae'r ardal yn rhan o gynllun peilot ers 2021 cyn i ddeddf Llywodraeth Cymru i ostwng terfynau ffyrdd 30mya ddod i rym fis nesaf.

“O'n i’n gyrru ac oedd gŵr wedi parcio ar ochr yr heol. Fe wnaeth e arwyddo i fi allu mynd ond wnaeth y bachgen bach feddwl bod yr arwydd iddo fe, a gamodd e allan i’r heol o du ôl y ceir oedd wedi parcio ar yr ochr.

“Lwcus o ni’n 20mya a llwyddais i stopio cyn i fi fwrw fe.

"Byddai pethau yn wahanol iawn os fydden i ‘di bod yn gyrru 30mya. Fe fydden i 'di bwrw y plentyn yn bendant.

”Roedd e’n sioc i fi, ond yn fwy o sioc i fam y plentyn oedd ar ochr arall yr heol.

”Yn ardaloedd mewn pentrefi fel Llandudoch gyda nifer o dai, fi’n credu'n bendant bod 20mya yn syniad da.”

Mae mam y bachgen yn dweud ei fod yn hynod lwcus fod Wyn yn gyrru 20mya.

"Fe wnaeth Wyn fedru stopio ond troedfedd i ffwrdd o'r bachgen a wnaeth popeth ddigwydd mor gyflym. O'n i wir wedi fy ysgwyd.”

Pa ffyrdd fydd yn cael eu heffeithio?

Mae ugain o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd ar draws Cymru bob wythnos, yn ôl data diweddaraf yr heddlu.

O 17 Medi, 20mya fydd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio fel rhai sydd â goleuadau stryd wedi'u gosod heb fod yn fwy na 200 llath (tua 180m) oddi wrth ei gilydd.

Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o gerddwyr.

Mae’r terfyn cyflymder newydd eisoes wedi’i gyflwyno mewn rhai mannau, lle’r oedd yn arfer bod yn 30mya, fel rhan o gynllun peilot sydd ar waith ers 2021.

Y rhain yw Llandudoch yn Sir Benfro, Sant-y-brid ym Mro Morgannwg, Llanelli, Bwcle yn Sir y Fflint, Caerdydd, Cilffriw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Y Fenni a Glannau Hafren yn Sir Fynwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma le y bu bron i'r bachgen gael ei daro

Mae Dr David Hanna, ymgynghorydd argyfwng pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn croesawu’r polisi, gan ddweud y bydd yn “helpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau a difrifoldeb yr anafiadau".

Dywedodd fod plant mewn mwy o berygl o anafiadau difrifol nag oedolion.

“Mae gan blant llai o ymwybyddiaeth o’r ffyrdd nag oedolion a gall fod yn anodd ei weld.

"Maen nhw hefyd yn dueddol o gael eu taro’n uwch ar y corff nag oedolion oherwydd eu taldra llai, ac yn fwy tebygol o ddioddef o anafiadau difrifol o ganlyniad.”

Serch hynny, nid yw pob gyrrwr yng Nghymru yn cefnogi’r newid, gyda rhai yn protestio drwy glymu rhubanau coch i’w ceir.

Martin Bailey o Fwcle yn Sir y Fflint yw un ohonyn nhw.

“Dydyn ni ddim yn credu bod angen i’r terfyn cyflymder gael eu cyflwyno i bob heol.

“Ni’n eithaf hapus gyda 20mya ar heolydd mewn ardaloedd preswyl, ond ni’n credu dylai’r prif ffyrdd aros yn 30mya.

“Mae ganddon ni ddeiseb sydd gyda dros 62,000 o lofnodion, ni 'di bod yn gweithio gyda’r Llywodraeth a’r cyngor lleol i dreial codi ymwybyddiaeth.

“Doedd na ddim cyfathrebu ynglŷn â hyn, doedd neb eisiau gwrando arnon ni fel cymuned ynglŷn â beth yw barn ni am y cynlluniau.

“Fi’n gallu gweld pam bod e’n bwysig i osod y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl, ond beth dydw i ddim yn deall yw pam mae’r Llywodraeth yn annog pobl fregus ar y priffyrdd.

"Dylai’r heolydd yna fod ar gyfer ceir yn unig, nid plant.”

'Poblogaidd yn gyffredinol'

Mae pryderon hefyd wedi'u codi y bydd y terfyn newydd yn effeithio ar gyflymder teithio'r heddlu i argyfyngau.

Ond dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, fod tystiolaeth o dramor yn awgrymu y byddai'r polisi yn cael ei dderbyn dros amser.

Fe ddywedodd: “Pan edrychwn yn fyd-eang ar y dystiolaeth, gallwn weld bod y newidiadau hyn, er eu bod yn aml yn gallu bod yn anodd i'w gweithredu, yn boblogaidd iawn ymhlith cymunedau yn gyffredinol.

“Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn erbyn moduro, mae hyn yn ymwneud â bod yn wlad foduro sy’n fwy diogel.”

Mae data o ardaloedd Cymru sy'n treialu'r terfyn cyflymder o 20mya yn dangos bod nifer y gyrwyr sy'n cydymffurfio wedi codi o 45% ar ddechrau'r cynllun i 64%.

Bellach mae gan lawer o ardaloedd yn Llundain gyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl, tra bod yr Alban yn bwriadu dilyn arweiniad Cymru a gwneud y polisi’n genedlaethol erbyn 2025.

Dywedodd Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ar Amgylchedd Iechyd Cyhoeddus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai’r newid mewn polisi gael effaith fawr ar wasanaeth iechyd Cymru oherwydd “gostyngiad o tua 40% yn nifer y damweiniau”.

“Mae hynny’n golygu bod llai o bobl yn dod drwy ddrysau unedau damweiniau ac achosion brys a bydd damweiniau ac anafiadau sy’n digwydd yn tueddu i fod yn llai difrifol."

Ychwanegodd: “Mae llawer o fanteision iechyd ehangach” gan gynnwys annog mwy o bobl i gerdded a beicio a chynhyrchu llai o lygredd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond yn gwella ansawdd bywyd, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel, tra’n helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol.

“Nid yw newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20mya yn effeithio ar y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i’r heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans fynd y tu hwnt i derfynau cyflymder yn ystod dyletswyddau ymateb brys.”

Pynciau cysylltiedig