Terfyn 20mya newydd i effeithio ar amser ymateb 999 - heddlu

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20mya
Disgrifiad o’r llun,

Bydd terfyniadau cyflymder yn newid o 30mya i 20mya o 17 Medi, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau

Bydd terfyn 20mya newydd Cymru yn effeithio ar gyflymder teithio'r heddlu wrth ymateb i argyfyngau, yn ôl e-bost sydd wedi'i ryddhau.

Dywedodd uwch swyddog Heddlu De Cymru y bydd y terfyn cyflymder newydd yn "dylanwadu" ar ba mor gyflym y gall yr heddlu deithio ac y gallai effeithio ar y ffordd y maen nhw'n ymateb.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn poeni y gallai bywydau gael eu colli oherwydd amseroedd ymateb brys arafach.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd y ddeddf newydd yn atal gwasanaethau brys rhag mynd y tu hwnt i derfynau cyflymder.

Yn y cyfamser, gwadodd Heddlu De Cymru eu bod wedi awgrymu y gallai hyn gael effaith andwyol.

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg y bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd yn cael ei gyfyngu i gyflymder uchaf o 40 yn hytrach na 50 ar ffyrdd 20mya.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae polisi'r gwasanaeth yn golygu bod ei yrwyr wedi'u cyfyngu i 20mya dros y terfyn - sy'n golygu y bydd ganddynt gyflymder uchaf arafach ar alwadau brys yn yr ardaloedd fydd â'r terfyn cyflymder newydd.

Ond dywedodd yr ymddiriedolaeth ambiwlans nad oedd y cyflymder uchaf bob amser yn bosib.

Bydd y terfyn newydd yn dod i rym ar 17 Medi ar bob ffordd sydd ar hyn o bryd yn 30mya, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau.

Y bwriad yw y bydd y newid yn helpu i leihau nifer yr anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffyrdd.

Dywedodd gwasanaeth tân gogledd Cymru eu bod yn disgwyl y byddai'r polisi yn debygol o achosi ychydig o oedi i amseroedd ymateb.

'Dylanwadu ar gyflymder teithio i alwadau brys'

Yn yr e-bost - y cafodd y Ceidwadwyr Cymreig afael ynddo - fe ddywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis: "Bydd goblygiadau'r terfyn cyflymder newydd o 20mya a newid y ddeddfwriaeth bresennol yn cael effaith ar sut rydym ni o fewn y pedwar heddlu yng Nghymru a chithau fel gwasanaethau brys, yn cyflawni eich busnes craidd o wasanaethu cymunedau Cymru."

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn dylanwadu ar y cyflymder y gall ein hymatebwyr deithio i alwadau brys ac y gallai gael effaith ar sut rydym yn ymateb neu'n anfon ein staff i ddigwyddiadau."

Cafodd y neges ei hanfon at y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a phedwar llu heddlu Cymru, meddai Heddlu De Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar: "Mae Llafur yn honni mai [nod] y polisi yma yw achub bywydau.

"Ond gyda'r heddlu'n cyfaddef y bydd yn effeithio ar amseroedd ymateb ac nad oes gwaith wedi ei wneud i fesur effaith ar wasanaethau golau glas - yn groes i achub bywydau, rwy'n ofni y bydd bywydau'n cael eu colli mewn gwirionedd."

Mynnodd atal y broses o gyflwyno'r cynllun 20mya.

Mewn ymateb i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth pan ofynnwyd am "astudiaethau a data a gasglwyd i'r effaith negyddol y bydd y cyfyngiad 20mya" yn ei gael ar amseroedd ymateb.

"Mae gan yr heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans ganiatâd i fynd y tu hwnt i derfynau cyflymder yn ystod eu dyletswyddau ymateb brys, ac nid yw hyn yn newid gyda'r newid terfyn cyflymder rhagosodedig i 20mya," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Felly, nid ydym yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdano."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Ceidwadwyr dywedodd Mr Travis eu bod "wedi eu cymryd o e-bost hirach a mwy cynhwysfawr felly yn ymddangos allan o gyd-destun".

"Nid ydym wedi awgrymu ar unrhyw adeg y byddai'n cael effaith negyddol ar amseroedd ymateb.

"Rydym wedi argymell y dylai asiantaethau ystyried eu polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant i sicrhau nad yw newidiadau mewn deddfwriaeth yn effeithio'n andwyol ar y cyhoedd.

"Mae'r newidiadau arfaethedig wedi bod yn destun ymgynghoriad gydag adnoddau pwrpasol yn gweithio i gefnogi'r newidiadau mewn deddfwriaeth."

Dywedodd nad yw swyddogion sydd â'r lefel uchaf o hyfforddiant yn cael eu cyfyngu ar y cyflymder y gallan nhw ei ddefnyddio i ymateb i argyfyngau.

Ychwanegodd: "Nid yw llawer o ffyrdd yn caniatáu i unrhyw gerbyd deithio ar gyflymder uchel, diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth.

"Bydd gyrwyr heddlu sydd â lefel is o hyfforddiant yn gyrru i gyflymder uchaf o 20mya uwchlaw'r terfyn cyflymder sydd wedi ei osod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae polisi gwasanaeth ambiwlans Cymru yn golygu bod gan ei yrwyr derfyn uchaf o 40mya mewn ardaloedd 20mya, o'i gymharu â 50mya mewn ardaloedd 30mya.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Er bod criwiau ambiwlans yn cael mynd y tu hwnt i derfynau cyflymder yn ystod eu dyletswyddau brys, rydym yn ymwybodol o ddiogelwch criwiau a defnyddwyr eraill y ffyrdd ac yn dal i gyfarwyddo terfynau diogel.

"Ar y sail honno, mae ein polisi yn ei gwneud yn ofynnol i griwiau yrru ar uchafswm o 20mya uwchlaw'r terfyn cyflymder sydd wedi ei osod, gan gydnabod mewn ardaloedd trefol lle ceir tagfeydd, nad yw'r cyflymder uchaf hwn bob amser yn bosib o ystyried ffactorau diogelwch ac amgylcheddol."

Dywedodd yr ymddiriedolaeth ei bod yn disgwyl i staff "bob amser allu cyfiawnhau'r cyflymder a'r modd y maen nhw'n gyrru'r cerbyd".

"Fel gwasanaeth ambiwlans, rydym yn croesawu unrhyw fenter sydd â'r potensial i leihau marwolaethau, anafiadau difrifol a niwed ar ein ffyrdd o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, a byddwn yn parhau i adolygu unrhyw effaith bosib y terfyn cyflymder newydd."

'Ychydig o oedi'

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bolisi tebyg wrth ymateb i argyfyngau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Dim ond lle mae'n ddiogel ac yn rhesymol i wneud hynny y mae'r polisi hwn yn caniatáu i griwiau fynd y tu hwnt i'r terfyn cyflymder hyd at 20mya.

"Mae ein criwiau'n gweld yn rheolaidd yr effeithiau dinistriol y gall gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd eu cael, gan gynnwys mewn ardaloedd trefol lle mae pobl a cherbydau'n agos i'w gilydd.

"Rydym felly'n falch o gefnogi ein partneriaid i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd terfynau cyflymder i gadw pawb yn ddiogel."

Dywedodd Paul Jenkinson, pennaeth ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae lleihau'r cyflymder i 20mya yn debygol o arwain at ychydig o oedi yn ein hamseroedd ymateb i ddigwyddiadau.

"Fodd bynnag, o ystyried yr eithriad o'r cyfyngiadau cyflymder yn y gyfraith gall peiriannau tân fynd yn uwch na'r terfyn cyflymder."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw newid y terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20mya yn effeithio ar y ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i'r heddlu, y gwasanaeth tân ac ambiwlans fynd y tu hwnt i'r terfynau cyflymder yn ystod dyletswyddau ymateb brys."