Diweithdra Cymru'n cyrraedd y lefel uchaf yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra yng Nghymru bellach wedi cyrraedd lefel sy'n uwch nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth y ffigyrau diweddaraf ddangos bod y gyfradd ddiweithdra bellach wedi cyrraedd 4.8% yn y tri mis rhwng Chwefror ac Ebrill 2023.
Roedd hynny'n gynnydd bychan ar ffigyrau fis diwethaf, a dim ond Gorllewin Canolbarth Lloegr sydd bellach â chyfradd yr un mor uchel.
Mae cyfradd ddiweithdra gyfartalog y DU yn 3.8%, tra bod y gyfradd ar ei hisaf yng Ngogledd Iwerddon (2.4%).
Llai o swyddi
Am yr ail fis yn olynol Cymru oedd yr ardal ble gwelwyd y cynnydd uchaf mewn diweithdra, ac mae'r gyfradd bellach wedi cynyddu 1.3 pwynt canran mewn blwyddyn.
Roedd 11,000 yn llai o swyddi yng Nghymru erbyn mis Mawrth eleni, o'i gymharu gyda thri mis ynghynt.
Cymru hefyd welodd y cwymp mwyaf yng nghyfradd y rheiny sydd mewn gwaith, a'r cynnydd mwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf mewn faint sy'n anweithredol yn economaidd.
Mae hynny'n cynnwys pobl sydd o fewn oedran gweithio, ond sydd ddim yn chwilio am waith - yn bennaf myfyrwyr a phobl sydd â salwch neu anabledd.
Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething ei fod yn bryderus am y ffigyrau, ond bod ffigyrau eraill yn dangos twf.
"Rydyn ni'n poeni ai blip yw hwn neu ddechreuad patrwm go iawn," meddai mewn cynhadledd i'r wasg.
"Mae'n ymddangos fel bod 'na golled swyddi wedi bod.
"Mae yna her barhaus go iawn pan mae'n dod at ddiffyg gweithgaredd economaidd, ac mae hynny'n bryder gwirioneddol i ni."
Ond ychwanegodd fod data treth PAYE, sy'n dangos y rheiny sy'n cael eu cyflogi yn hytrach na phobl hunangyflogedig, yn "dangos twf".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies AS, bod y sefyllfa yng Nghymru'n "siomedig" wrth i'r darlun dros y DU wella.
"Mae llywodraeth Lafur wedi rheoli Cymru ers 25 mlynedd, gan reoli'r economi," meddai.
"Ac er bod Cymru wedi cwympo i waelod y DU o ran pobl mewn gwaith, mae'r sefyllfa'n gwaethygu gyda Chymru'n colli swyddi er bod amodau economaidd yn gwella."