Carcharu athro a gafodd ryw sawl tro gyda disgybl

Ieuan BartlettFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Ieuan Bartlett yn euog i 12 o gyhuddiadau o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae athro 29 oed a gafodd ryw sawl tro gyda disgybl wedi cael dedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar.

Roedd Ieuan Bartlett wedi cyfaddef 12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn gan berson mewn swydd gyfrifol, ac un o feddu ar luniau anweddus o blentyn 16 oed, cyn mynd trwy ail achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Ar un achlysur, aeth yr athro o'r Eglwys Newydd, Caerdydd, i gartref y ferch trwy ddrws ochr er mwyn osgoi cael ei weld ar gamera'r drws ffrynt.

Clywodd y llys ei fod hefyd wedi rhoi pwysau ar y ferch i anfon lluniau anweddus o'i hun ato pan doedd hi ddim eisiau gwneud hynny.

Dywedodd y Barnwr Lucy Crowther wrtho ei fod wedi dylanwadu "a thargedu'n benodol plentyn arbennig o fregus".

Dywedodd y ferch wrth y llys ei bod "yn meddwl mai cariad fydde fe a byddwn ni gyda'n gilydd" ond ei bod erbyn hyn wedi dod i "sylweddoli gymaint y bu'n fy rheoli ac yn fy mychanu".

Clywodd y llys bod y ferch wedi troi at Bartlett am gefnogaeth yn y lle cyntaf, a'i fod wedi ei meithrin perthynas gyda hi dros gyfnod o fisoedd, gan sicrhau ei hymddiriedaeth ynddo.

Dywedodd y ferch ei bod yn teimlo, ymhen fawr o dro, ei fod yn fflyrtio gyda hi.

Ar un achlysur, roedd wedi cofleidio a chusanu'r ferch, a dywedodd y barnwr bod hithau'n "teimlo rheidrwydd i'ch cusanu chi".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enw Ieuan Bartlett ar y gofrestr troseddwyr rhyw weddill ei oes

Yn ystod cyfarfodydd dilynol, byddai Bartlett yn trafod rhyw gyda'r ferch ac yn rhoi pwysau arni i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Dywedodd y barnwr bod y ferch "wedi perfformio gweithredoedd rhyw arnoch sef yr union beth yr oeddech chi wedi paratoi'r ffordd ar ei gyfer".

Ychwanegodd: "Byddech chi wedi bod yn grac pe tai hi wedi dweud na."

'Trafferth ymddiried mewn pobl'

Clywodd y llys bod Bartlett wedi cael rhyw gyda'r ferch heb ddefnyddio condom, a'u bod wedi cael rhyw sawl tro, gan gynnwys ar un achlysur yng nghartref y ferch tra roedd ei rhieni i ffwrdd.

Aeth trwy ddrws ochr er mwyn osgoi ymddangos ar gamera cloch y drws blaen.

Roedd wedi dweud wrth y ferch i ddweud dim wrth neb am yr hyn oedd yn digwydd rhag y risg o gael ei charcharu ei hun.

Roedd hefyd wedi dweud celwydd ynghylch ei fywyd personol er mwyn iddi ymddiried ynddo.

Daeth y troseddau i'r amlwg wedi i un o ffrindiau'r ferch weld negeseuon ganddo ar ei ffôn. Dywedodd wrth ei mam ac fe gafodd yr heddlu eu galw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

Mewn datganiad yn amlinellu effaith y troseddu arni, dywedodd y ferch bod ei hyder wedi ei danseilio.

Dywedodd ei bod yn cael trafferthion gan gredu bod "pob dyn fel Ieuan", ac "yn sylweddoli ei fod yn fy nefnyddio".

Ychwanegodd: "Rwyf wastad wedi cael trafferthion iechyd meddwl a nawr mae'n waeth. Rwy'n cael trafferth ymddiried mewn pobl a chredu beth maen nhw'n ei ddweud."

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, bydd enw Bartlett ar y gofrestr troseddwyr rhyw weddill ei oes, ac mae gorchymyn yn ei atal rhag cysylltu gyda'r ferch.

Pynciau cysylltiedig