Mirain Iwerydd: Profiad 'anhygoel' yn Coachella
- Cyhoeddwyd
O sgwrsio gyda Paris Hilton i weld rhai o sêr pop mwya’r byd yn perfformio, mae’r cyflwynydd Mirain Iwerydd newydd fod yng ngŵyl Coachella yn California.
Mae hi wedi rhannu ei phrofiad o fynd i un o’r gwyliau cerddoriaeth mwyaf enwog yn y byd gyda Cymru Fyw.
Felly sut beth yw Coachella?
Meddai Mirain: “S’dim geiriau ‘da fi really, i ddisgrifio pa mor fawr oedd yr holl beth. Dwi’n trio meddwl am well ansoddair na anhygoel ond dyna’r unig un sy’n dod i’r meddwl yn syth ar ôl treulio tridiau yna.
“Mae pob dim jest yn anferth, pawb jest yna i fwynhau a oeddech chi wir yn gallu teimlo’r buzz 'ma’ o amgylch y lle achos ges i gyfle i weld gymaint o artistiaid a cherddorion jest hollol, hollol wych.
“Mae lot ohonyn nhw yn fath o artistiaid ti byth yn meddwl ti’n mynd i weld yn fyw. ’Nes i gael y cyfle i weld nhw’n perfformio so mae hwnna mor, mor cŵl.”
Ymhlith yr artistiaid i Mirain fwynhau oedd Olivia Dean, Lauren Hill, The Fugees, Renneèe Rapp a Blur.
Ac mi oedd ambell i seren o fyd teledu yno hefyd, yn ôl Mirain: “’Nes i bwmpio mewn i Paris Hilton hefyd!
“’Nes i ddweud ‘helo’ i Paris Hilton a 'nath hi ofyn i fi o ble ges i fy nghamera so fi wedi cael chat gyda Paris Hilton tra fi wedi bod mas 'ma! Dwi’n meddwl bod Paris yn trio aros yn relevant ond oedd o yn cŵl cael cwrdd â hi.
“Oedd cwpl o ferched 'nes i siarad hefo tra o’n i yn gwylio’r acts ac oedden nhw’n dweud oedd Taylor Swift yn cerdded o gwmpas y lle ond welais i ddim lot o bobl enwog. O’n i ddim really yna i celeb sbotio - o’n i jest moyn sugno’r awyrgylch.”
Gŵyl yng nghanol yr anialwch yn Palm Springs yw Coachella.
Yn ôl Mirain: “Yr unig ffordd alla’i ddisgrifio fe yw bod e fel Glastonbury ar steroids!
“Yr unig wyliau eraill dwi wedi bod i yng Nghymru yw Tafwyl a’r 'Steddfod ond yn y bôn maen nhw bron iawn yr un peth mewn un ffordd achos mae’n gyfle i bobl ddod at ei gilydd, mwynhau cerddoriaeth, mwynhau bod yng nghwmni ei gilydd.
“Mae hynny yn mynd i ddigwydd unrhyw le ble mae 'na lot o bobl gyda cherddoriaeth dda, cwmni da a bwyd da a weden i mae pawb yn mynd i gael amser da.”
Mae Mirain yno ar ran cwmni gwallt cyrliog Cymreig o’r enw Olew.
Meddai: “Mae’n bwysig bod pobl yn gwybod am Gymru. Mae dod yma wedi bod yn brofiad anhygoel ond dwi wedi bod yn gweithio yn galed yma hefyd.
“Cant y cant byddwn i yn dod 'nôl yma. Mae teimlad bach hyfryd yn yr ŵyl, sai’n gwybod os mae’r haul ydi e ond mi fyswn i wir yn caru dod 'nôl yma. Dwi jest yn caru bod ymysg pobl a dod i adnabod pobl a siarad gyda phobl achos dyna ydw i wir yn caru 'neud.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023