Angen blaendal £36,000 i brynu tŷ cyntaf yng Nghymru - arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn gorfod aros nes eu 30au a chynilo blaendal o £36,000 ar gyfartaledd i brynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru, yn ôl arolwg.
Un o'r rheiny yw Harri Hughes, sy'n talu rhent uchel ac yn ei gweld hi’n anoddach fyth prynu tŷ wrth i gostau benthyg gynyddu.
“Mae fel ‘sa pawb o’n cenhedlaeth ni rŵan yn gweld hi’n really anodd.”
Dydd Iau cyhoeddodd Banc Lloegr y byddai'n cadw'r gyfradd llog sylfaenol yn 5.25% am y tro. Daeth hynny wedi 14 cynnydd yn olynol.
Mae asiant dai yn ardal Llangefni yn dweud i’r farchnad sefydlogi wedi cyfnod tymhestlog.
Blaendal £36,825 ar gyfartaledd
Bellach angen blaendal gwerth degau o filoedd o bunnoedd i sicrhau morgais, ac mae costau ad-dalu ar eu huchaf ers blynyddoedd.
Yn ôl astudiaeth gan fanc Halifax, 31 ydy oedran ar gyfartaledd y rhai sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru.
Maent wedi gorfod talu blaendal o £36,825 er mwyn gwneud hynny.
Ym Mae Caerdydd mae Harri Hughes a’i gariad yn rhentu fflat ac yn ceisio cynilo i brynu tŷ am y tro cyntaf.
“Mae o yn teimlo fel bo' ni’n cael ein gwthio allan bach,” meddai Mr Hughes.
“Da ni’n trio mynd i fewn a prynu a mynd ar yr ysgol ‘na, ond ar yr un pryd oherwydd fod prisiau rhent mor ddrud, da ni’n gweld hi’n anodd wedyn mynd tuag at y deposit.
"So da ni rhywle yn y canol, bach mewn limbo, ddim yn rhy siwr beth fydd y dyfodol yn dod ond gobeithio neith pethe newid yn y dyfodol.”
Yn gyffredinol mae gan brynwyr newydd fynediad at lai o fathau o forgeisi, ac mae ganddyn nhw well siawns o sicrhau morgais trwy gynilo mwy o flaendal.
Mae Harri Hughes a’i gariad yn gobeithio prynu tŷ gwerth £200,000 i £230,000 yng Nghaerdydd.
“Er mwyn bod yn gystadleuol ma' rhaid i chi godi tua 20% o hwnna, a ma' hwnna’n enfawr really, felly mae o yn job.
“Rhwng fi a nghariad, da ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu gwneud yn agos ati hi, ond mae o’n faen tramgwydd, mae’n job cael ar y funud."
Yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf fe wnaeth prisiau tai ostwng yn y mwyafrif o siroedd Cymru, yn ôl data gan y Principality, dolen allanol.
Mae’r asiant dai Melfyn Williams, o gwmni Williams and Goodwin yn Llangefni, yn dweud bod pethau wedi sefydlogi ers gweld cynnydd uchel ym mhrisiau tai wedi’r gwaethaf o’r pandemig.
Tra bod costau benthyg wedi codi, dyw Mr Williams heb weld newid mawr ymhlith y boblogaeth sydd dal am symud tŷ neu brynu am y tro cyntaf.
“Be' da ni ‘di weld, ma pobl dros y flwyddyn ddwytha ‘ma wedi just dal yn ôl ychydig.
"Maen nhw’n ailfeddwl rwan cyn neud pethau, ond yn y bon ma' nhw yn cario mlaen efo’u bywyd nhw, ma' nhw yn symud ymlaen.
“Ella dipyn bach mwy hyderus efo faint ma' nhw’n fodlon gwario ar y tŷ, ond ma’r farchnad dal yn symud a da ni nôl i farchnad be' 'swn i’n ddweud sy’n farchnad eitha arferol.”
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
Mae economegwyr yn darogan bod Banc Lloegr yn cyrraedd brig y cynnydd mewn cyfraddau llog, wedi cynnydd cyson ers dechrau 2022.
Fe fydd hynny hefyd yn dod a mwy o hyder i’r farchnad dai, yn ôl Melfyn Williams.
“Da ni’n gobeithio fyddwn ni di cyrraedd y peak rwan o lle ma' llogau’n mynd i fod, fydd lot yn dibynnu ar sut mae’r farchnad agored i gyd yn datblygu.
"Ond dwi yn credu dros cyfnod y chwe mis nesa' 'wan, mi fydd petha’n dechrau bod yn fwy stable a bydd y cyfnod yn mynd at y gwanwyn flwyddyn nesa' yn dipyn bach gwell i pawb.”