Geraint Thomas yn ymuno â her seiclo i Ffrainc

Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y reidwyr, sy'n codi arian i ymgyrch Head for Change, adael clwb rygbi Cymry Llundain ddechrau'r wythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, wedi ymuno â beicwyr sydd wedi cyrraedd Lyon yn Ffrainc ar ôl her 500 milltir i elusen.

Fe wnaeth y reidwyr, sy'n codi arian i ymgyrch Head for Change, adael clwb rygbi Cymry Llundain ddechrau'r wythnos ar gyfer yr her bum niwrnod.

Yn eu plith roedd cyn-chwaraewyr rygbi Cymru, Alix Popham ac Ian Gough.

Wedi iddo orffen y Vuelta a Espana yn gynharach yn y mis, fe wnaeth Thomas ymuno â'r criw am ran olaf y daith wrth iddyn nhw gael eu croesawu yn Lyon.

Mae Head for Change yn elusen gafodd ei sefydlu i hyrwyddo iechyd yr ymennydd o fewn chwaraeon, ac maen nhw'n cynnig cymorth i gyn-chwaraewyr rygbi a phêl-droed sydd yn dioddef o gyflyrau niwrolegol o ganlyniad i anafiadau'r pen.

Mae Popham, 43, yn wyneb blaenllaw yn yr ymgyrch, ar ôl datgelu yn 40 oed ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar o ganlyniad i'r ergydion a gafodd tra'n chwarae.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Alix Popham, 43, ddatgelu dair blynedd yn ôl ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar

Gyda'r her feicio nawr ar ben, mae'r sylw'n troi at yr ornest hollbwysig yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn y ddinas ddydd Sul rhwng Cymru ac Awstralia.

"Roedd y tridiau cyntaf yn erchyll," meddai Popham wrth adlewyrchu ar yr her.

"Roedd gyda ni bopeth yn cael ei daflu atyn ni - gwynt, glaw - roedd e'n 800km anodd.

"Ond 'dyn ni wedi cyrraedd i'r haul, a gobeithio cawn ni fuddugoliaeth i Gymru fory i gwblhau pethau."

'Ffydd yn y bois'

Ychwanegodd y bydd yr £8,800 sydd eisoes wedi ei godi yn gwneud gwahaniaeth i'r ymgyrch.

"Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth, a bydd yr arian sy'n cael ei godi o'r her yma'n mynd tuag at y rhaglen addysg rydyn ni'n ei baratoi."

Ychwanegodd Thomas ei fod yn falch o fod wedi chwarae ei ran.

"Saith awr a hanner ar y beic ddoe, chwech heddiw - ond mae'r bois wedi bod yn grêt, mae wedi bod yn hwyl.

"Ni wedi cael cwpl o ddiodydd, falle ambell un yn ormod ddoe!

"Ond ni'n edrych ymlaen [i'r gêm nos Sul] nawr - 100%, mae gen i ffydd yn y bois a bydd e'n grêt i weld."