Cau 12 o siopau Carpetright yng Nghymru

Arwydd Carpetright Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cwmni y bydd dros 1,000 o swyddi yn cael eu torri

  • Cyhoeddwyd

Bydd 12 o siopau Carpetright yng Nghymru'n cau wedi i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Er i'r cwmni gael ei brynu gan gwmni Tapi, bydd mwy na 200 o siopau yn cau ar draws y DU, a mwy na 1,000 o swyddi yn cael eu torri.

Dydd Llun daeth i'r amlwg fod cwmni Tapi wedi cytuno i brynu 54 o siopau Carpetright, dau warws, y brand a'r eiddo deallusol mewn cytundeb gweinyddu.

Ond ni fydd hyn yn achub y rhan fwyaf o'r busnes, gan gynnwys prif swyddfa'r cwmni yn Essex.

Y 12 siop Carpetright fydd yn cau yng Nghymru yw:

  • Abertawe

  • Aberystwyth

  • Caerdydd - Croes Cwrlwys

  • Caerdydd - Heol Casnewydd

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Cwmbrân

  • Hwlffordd

  • Llandudno

  • Merthyr Tudful

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Wrecsam

Pynciau cysylltiedig