Sioc wrth ofalu am gi teulu a roddodd enedigaeth i 14 o gŵn bach

Y ci Ffynhonnell y llun, Rhian Boxall
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Tilly enedigaeth i 14 o gŵn

  • Cyhoeddwyd

Cafodd menyw a oedd yn edrych ar ôl ci ei brawd dipyn o sioc pan wnaeth y ci roi genedigaeth i dros ddwsin o gŵn bach yn ddirybudd.

Pan gytunodd Rhian, 47, a'i theulu, i ofalu am y ci doedd Tilly ddim hyd yn oed yn disgwyl, ond fe ddatgelodd sgan yn ddiweddarach ei bod yn disgwyl tua hanner dwsin o gŵn bach.

Gyda'r perchennog ar wyliau, fe roddodd y ci enedigaeth i 14 o gŵn bach wythnos yn gynnar.

Dywedodd Rhian, sy'n gweithio fel rheolwr marchnata, ei bod wedi profi "ystod o emosiynau" wrth i 14 o gŵn bach gyrraedd dros gyfnod o 15 awr, gyda dau ohonyn nhw yn farw-anedig.

"Ro'n i ar bigau'r drain a heb gysgu winc am ddwy noson," meddai'r fenyw 47 oed o Lanharan, Rhondda Cynon Taf.

Llun o gi bachFfynhonnell y llun, Rhian Boxall
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd un o'r cŵn eu geni yn yr ardd

Allan o'r 12 iach fe ddaeth Rhian o hyd i un ohonyn nhw yn yr ardd.

Fe dderbyniodd gyngor gan filfeddyg i rwymo'r ci hwnnw mewn tywel a defnyddio gwres cynnes o sychwr gwallt i gynyddu tymheredd y ci yn raddol.

Bu'r teulu cyfan yn helpu i ofalu am y ci - gŵr Rhian, Steve, 48, a'u plant, William, 10 a Nia sy'n saith.

Fel teulu, maen nhw wedi penderfynu eu bod am fabwysiadu un o'r cŵn unwaith y maen nhw ychydig yn hŷn.

Dywedodd Rhian fod y milfeddyg wedi dweud wrth ei brawd, Meirion, 51, mai Medi 3 oedd disgwyl i'r gŵn bach gyrraedd - ar y cynhara'.

Ond roedd gan Tilly syniadau eraill mae'n debyg.

Llun o Nia a William yn dal cwn bachFfynhonnell y llun, Rhian Boxall
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nia sy'n saith a William sy'n 10 helpu hefyd

Fe wnaeth Meirion - perchennog Tilly ei chasglu o dŷ Rhian ychydig oriau ar ôl cyrraedd adref o wyliau teuluol.

"Ro'n i wedi synnu," meddai Meirion.

"Roedd mor rhwystredig bod i ffwrdd," er ei fod yn cydnabod ei fod yn ddiolchgar i'w chwaer am helpu Tilly.

Llun o Tilly a chŵn bachFfynhonnell y llun, Rhian Boxall