Rhybudd i bobl beidio â chyffwrdd creadur peryglus ar draethau Cymru

Chwysigen y MôrFfynhonnell y llun, Melissa Brown
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chwysigen y Môr ei gweld ar draeth Freshwater West yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd i bobl beidio â chyffwrdd creadur peryglus sydd wedi ymddangos ar nifer o draethau Cymru yn ddiweddar.

Mae nifer o bobl wedi gweld Chwysigod y Môr, neu Portuguese Man O' War, sy'n edrych yn debyg i slefren fôr, ar draethau ym Môn, Gwynedd a Sir Benfro.

Os yw unigolyn yn cyffwrdd y creadur, mae eu gwenwyn yn medru brifo yn ddifrifol, a dylai'r person hwnnw gael cymorth meddygol yn syth.

Mae Gwylwyr y Glannau yn annog pobl i gysylltu â'r Swyddfa Forwrol os yw pobl yn dod ar eu traws ar draeth.

Y creadurFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images

Ar ôl i un o'r anifeiliaid gael ei weld ger Rhosneigr, Ynys Môn, mae Gwylwyr y Glannau yna hefyd yn annog perchnogion cŵn i fod yn wyliadwrus.

Mae'r creaduriaid morol yn gallu cael eu cario gan geryntau o ddyfroedd cynhesach yr Iwerydd i lannau'r DU, yn enwedig ar ôl stormydd.

Pynciau cysylltiedig