Dirgelwch wedi i bump gael eu cludo i'r ysbyty

Bay Chambers
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i 60 o bobl adael eu cartrefi yn adeilad Bay Chambers nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio wedi i 16 person sy'n byw yn yr un adeilad ym Mae Caerdydd ddechrau teimlo'n sâl.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mewn datganiad fod eu swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r achos, a bod profion ansawdd aer wedi "diystyru'r posibilrwydd o wenwyno carbon monocsid".

Cafodd pump o bobl eu cludo i'r ysbyty a bu'n rhaid i 60 o bobl adael eu cartrefi ar ôl i 16 o drigolion ddweud eu bod yn teimlo'n sâl gyda symptomau "nodweddiadol o wenwyno carbon monocsid".

Cafodd y trigolion loches dros nos yn y Gyfnewidfa Lo wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw toc wedi 22:15 i adeilad Bay Chambers yn West Bute Street, Tre-biwt.

Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bedair injan dân, ynghyd â swyddogion arbenigol er mwyn ceisio canfod tarddiad nwy gwenwynig allai fod wedi gollwng.

Fe gafodd pump o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru am ragor o brofion, ond dywedodd Heddlu De Cymru fore Gwener eu bod oll wedi cael eu rhyddhau.

Fe fethodd y criwiau tân â chanfod "unrhyw ddeunyddiau peryglus" ac fe gafodd trigolion ddychwelyd i'w cartrefi yn yr oriau mân.

Mae'r ymholiadau i'r achos yn parhau.

'Digwyddiad mawr'

Un o'r swyddogion tân a oedd yn rhan o'r ymateb nos Iau oedd y rheolwr grŵp Mark Bowditch.

Dywedodd wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast bod y gwasanaeth wedi trin yr achos fel "digwyddiad mawr" gan fod "nifer o drigolion yn teimlo'n sâl".

Er i'w criwiau "gynnal monitro atmosfferig helaeth" gan ddefnyddio sawl darn o offer arbenigol, fe wnaeth y cyfan gofnodi lefelau "sero, ac felly roedden ni'n fwy na bodlon i drigolion fynd yn ôl i'r adeilad".

Daeth y penderfyniad hwnnw yn dilyn trafodaethau rhwng y gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill, yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dŵr Cymru.

Ychwanegodd Mr Bowditch y bydd rhagor o ymholiadau'n cael eu cynnal nawr "i ddeall beth allai fod wedi achosi i'r unigolion yma deimlo'n sâl".

Dywedodd ICC hefyd fod rhagor o brofion yn cael eu cynnal er mwyn ceisio cadarnhau achos y salwch.

Noda'r datganiad hefyd eu bod, yn dilyn trafodaethau gyda Dŵr Cymru, yn cynghori pobl i beidio ag yfed dŵr o'r adeilad sydd wedi ei effeithio, gan ychwanegu y byddai poteli dwr yn cael eu darparu i'r trigolion fel mesur rhagofalus.

Pynciau cysylltiedig