IVF: 'Anodd ond 'nelen i fe i gyd eto er mwyn cael plant'

Ifan Morgan ac Elis Gwyn o Lansawel ger LlandeiloFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Morgan ac Elis Gwyn o Lansawel ger Llandeilo - y ddau wedi'u geni ar ôl triniaeth IVF

  • Cyhoeddwyd

Does neb yn gallu dirnad pa mor emosiynol anodd a chostus mae triniaeth ffrwythlondeb IVF yn gallu bod, medd tair sydd wedi siarad â Cymru Fyw.

Mae nifer wedi bod yn rhannu eu profiadau wrth i rai o gystadleuwyr cyfres Traitors y BBC ddweud eu bod wedi mynd ar y rhaglen er mwyn ceisio ennill arian i dalu am y driniaeth.

Mae ffigyrau diweddaraf yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol yn dangos bod llai yng Nghymru wedi derbyn y driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd ers y pandemig.

Cooper ddaeth gyntaf ac wedyn Ralffi wedi triniaeth IVFFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Sharlaine, mam Cooper a Ralffi, dudalen ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi cyfle i bobl rannu profiad

Mae Sharlaine Quick-Lawrence a'i gŵr Carwyn o Grymych wedi cael dau o blant wedi triniaeth IVF.

Gan bod "yr holl broses yn gallu bod yn anodd iawn ar adegau" mae Sharlaine wedi sefydlu grŵp Facebook fel rhywle i bobl rannu eu profiadau.

"O'n i'n teimlo bod neb yn helpu fi, neb yn gwrando. Na'i gyd ti'n gallu meddwl amdano," meddai Sharlaine.

"Aethon ni mewn i gael y rownd gyntaf - o'dd e'n absolutely awful gan fod popeth oedd yn gallu mynd o'i le wedi mynd o le.

"O'dd e'n horrific – nes i grio am dri mis solid fi'n credu. Na'th hwnna gymryd lot mas o fi yn feddyliol a benderfynon ni gael brêc.

"O'n i wedi bod pum mlynedd a hanner i gyd a wedyn 'nes i ddarllen y llyfr The Secret gan Rhonda Byrne a na'th hwnna newid meddylfryd fi ac o'dd ail rownd ni'n amazing… a gathon ni Cooper yn 2017."

Sharlaine Quick-Lawrence a'r teuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sharlaine Quick-Lawrence ei bod yn hynod o bwysig siarad am y profiad o gael triniaeth IVF

Rhwng 2018 a 2019 fe dalodd y Gwasanaeth Iechyd am driniaeth ffrwythlondeb i 37% o'r rheiny oedd ei eisiau - 2,270 o bobl yng Nghymru.

Ond rhwng 2021 a 2022 fe wnaeth y nifer ostwng i 29%, sef 1,655 o bobl.

Dywedodd Sharlaine bod y cyfan yn gallu bod yn gostus iawn, a'i bod wedi gorfod mynd yn breifat i gael Ralffi – eu hail blentyn.

"Ni'n lwcus. Gathon ni Cooper ar yr NHS ond wedyn o'n ni'n siarad am ddau frozen embryo transfer – mae rheina'n £2,500 yr un," meddai.

"Ond mae costau ar ben hynna i gyd – teithio i Gaerdydd o hyd, a gan bo' 'da fi progesterone rili isel o'n i ar rywbeth o'r enw lubion – o'dd rhaid i fi gael tair dos ac o'dd bil meddyginiaeth fi yn £300 yr wythnos.

"O'n i hefyd yn cael acupuncture a reflexology.

"O'dd Carwyn a fi yn eistedd lawr y diwrnod o'r blaen ac yn trio meddwl, toto fe lan, ma'n insane – ma'n crazy.

"Er i ni gael y cyntaf ar yr NHS ni dal wedi gwario miloedd ar filoedd ar gael nhw."

Ifan Morgan ac Elis GwynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Ifan Morgan ei eni yn 2015, ac Elis Gwyn ar y seithfed cynnig yn niwedd 2019

Lle mae angen clinigol, dywed Llywodraeth Cymru bod modd i fenywod gael dau gylch o IVF am ddim o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae nifer o feini prawf.

Gan bod gan ei chyn-ŵr blant yn barod, roedd yn rhaid i Amanda Jones o Lansawel ger Llandeilo fynd yn breifat.

Dywedodd fod y cyfan yn bwysau ar y berthynas ac yn gostus.

Fe gafodd Ifan Morgan ei eni yn 2015, ac Elis Gwyn ar y seithfed cynnig yn niwedd 2019.

"Roedd y gost dros £20,000 fydden i'n meddwl - chi'n gweithio er mwyn safio arian, arbed lot o bethe er mwyn safio arian er mwyn cael plant," meddai Amanda.

"Ro'n i'n gorfod cymryd amser off gwaith i fynd i apwyntiadau.

"Roedd yn rhaid i fi deithio lawr i Lantrisant – weithiau am gyfarfod pum munud neu sgan cyflym o'r uterus - trafaelio 60 milltir.

"Peidiwch cael fi'n wrong – 'nelen i fe i gyd eto er mwyn cael plant, ond mae'n anodd."

Amanda Jones a'r plantFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Amanda Jones bod y triniaethau IVF wedi bod yn straen ar ei pherthynas hi a'i gŵr

Ychwanegodd Amanda: "So pobl yn ystyried pa mor anodd yw hi.

"Na'th y berthynas chwalu 'da ni achos fi'n credu o'dd y gŵr wedi cael plant ac o'dd e'm yn rhwydd i fi ddala.

"O'n i'n teimlo pwysau... o'n i'n teimlo mai fi oedd ar fai.

"'Nes i stopo smygu dwy flynedd cyn i fi ddechrau, o'n i ddim yn yfed am gyfnod, o'n i'n trio 'neud pob dim. Ond loteri yw e - os chi'n lwcus, chi'n lwcus.

"Y gost wedyn - mynd mewn i ddyled ar credit cards achos o'n i'n cael un triniaeth ar ôl y llall.

"O'n i heb dalu am y driniaeth gynta' pan o'n i'n mynd am y drydedd driniaeth, ond desperation yw hwnna i fod yn fam."

'Methu ymdopi o gwbl'

Wedi colli dau fabi yn y groth ar ôl beichiogi'n naturiol, roedd Mared Thomas a'i gŵr Huw o Langefni yn gymwys i gael triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Mared yn dweud ei bod hi'n bwysig i bawb wybod pa mor anodd yw'r daith.

Tua 28% o driniaethau sy'n llwyddo, ac mae yna restr aros hir.

Rhodri Neirin ac Elain GwenlliFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Rhodri Neirin ac Elain Gwenlli ym Mawrth 2021

Aflwyddiannus fu'r tri trosglwyddiad cyntaf o'r embryos, ond fe lwyddodd y pedwerydd.

"Na'thon ni ddechrau'r driniaeth bron i bedair blynedd ar ôl i ni gychwyn trio. Ga'thon ni gychwyn yn diwedd," meddai Mared.

"Ar ôl bod yn isel am gyfnod hir a rhoi bywyd ar pause, mae rhywun yn cyrraedd pwynt nad ydyn nhw'n gallu bod yn rhesymol.

"O'n i methu ymdopi o gwbl bod gen i ddim rheolaeth dros y canlyniad – o'n i'n trio pob dim.

"O'n i'n darllen llyfrau, o'n i wedi cael gwared ar y plastig yn y gegin, o'n i'm yn gwisgo nail varnish, o'n i'm yn yfed caffîn, o'n i'n trio mynd yn gluten free.

"O'dd dim byd yn 'neud gwahaniaeth ac ar ôl beichiogi ddwywaith yn reit sydyn o'dd y cyfan yn chwalu fy mhen i'n fwy byth."

Rhodri Neirin ac Elain GwenlliFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae geni Rhodri Neirin ac Elain Gwenlli fel ennill y loteri, medd eu rhieni

Ond ym Mawrth 2021 daeth Rhodri Neirin - wedi'i enwi'n rhannol ar ôl sefydlydd y GIG Aneurin Bevan - ac Elain Gwenlli i lonni'r aelwyd.

"Dwi a'r gŵr yn dweud yn aml 'does dim pwynt i ni drio'r loteri dim mwy – dan ni wedi curo'r loteri'.

"'Dan ni wedi cael bachgen a merch – mae'r ddau ohonyn nhw'n iach a 'dan ni wedi bod yn ofnadwy o lwcus."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.