Ymchwilio i lofruddiaeth dynes 45 oed yng Nghaerdydd

Heol Caerffili, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo ar Heol Caerffili toc wedi hanner nos fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i lofruddiaeth, ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Heol Caerffili am tua 00:30 fore Mawrth yn dilyn adroddiadau bod dynes 45 oed wedi marw.

Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae swyddogion yn parhau ar y safle tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Pynciau cysylltiedig