Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd ym Môn

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025 ym mhentref Porthllechog ger Amlwch brynhawn Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar Ynys Môn ddydd Gwener.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A5025 yn ardal Porthllechog ger Amlwch tua 13:30.
Un cerbyd yn unig oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef Nissan Micra coch.
Roedd y car yn cael ei yrru o gyfeiriad Amlwch, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ac fe wrthdarodd â wal.
Dywedodd y llu bod ambiwlans awyr yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad a bod dyn oedd yn teithio yn y car wedi marw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd y ddynes oedd yn gyrru'r car ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gyda mân anafiadau.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion i gysylltu â nhw.