Tân mawr mewn depo cerbydau Cyngor Sir y Fflint

Swyddog tanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw am 20:20 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau bod tân difrifol mewn depo cerbydau nos Fawrth wedi effeithio ar "sawl cerbyd y cyngor".

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r lleoliad yn Alltami, Sir y Fflint, am tua 20:20.

Fe anfonodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bump o gerbydau i'r safle gan lwyddo i ddod â'r tân dan reolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y tân wedi effeithio ar nifer o gerbydau'r cyngor ond na chafodd unrhyw un ei anafu.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân i benderfynu ar achos y tân ac i asesu maint y difrod," medd llefarydd.

Ychwanegodd y gallai gwasanaethau sy'n cael eu gweithredu o'r depo wynebu rywfaint o oedi ond bod yna gynlluniau "i leihau unrhyw effaith ar drigolion."

Mae ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal i achos y tân.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.