Lluniau: Llewyrch yr Arth yn goleuo'r gogledd nos Fawrth
- Ffynhonnell y llun, Ruth Davies/BBC Weather Watchers

Disgrifiad o’r llun, Llanddulas
1 o 8
- Cyhoeddwyd
Roedd goleuadau Llewyrch yr Arth i'w gweld yn glir mewn sawl man yn y gogledd nos Fawrth.
Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd ac i eraill Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth.
Mae'n bosib y bydd cyfle i weld y goleuadau eto nos Fercher, gyda hynny yn fwyaf tebygol ar draws hanner gogleddol y DU, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Bydd siawns i'w gweld ymhellach i'r de hefyd, os ydy'r awyr yn dywyll ac yn glir o gymylau.
Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul - stormydd solar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






