Croeso, diolch, poody - geiriau Cymraeg newydd yn y geiriadur Saesneg

- Cyhoeddwyd
Croeso, pwdu, nos da a shwmae... Dyma rai o'r termau Cymraeg sydd wedi cael eu hychwanegu i'r fersiwn ddiweddaraf o Eiriadur Saesneg Rhydychen, neu'r Oxford English Dictionary.
Mae'r geiriadur yn cynnwys dros 500,000 o eiriau ac ers Medi llynedd yn cael ei ddiweddaru pedair gwaith y flwyddyn i adlewyrchu twf yr iaith dros y byd.
Mae'r ychwanegiadau diweddaraf yn cynnwys termau newydd o Gymru, y Caribî, Dwyrain Affrica a Seland Newydd.
Nawr yn eu plith mae 'na dermau y bydd siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd iawn gyda nhw.
Mae'r geiriau yn cael eu hychwanegu am fod cofnod o'u defnydd mewn "gwahanol ffynonellau" o ysgrifennu Saesneg, a bod hynny i'w weld dros "gyfnod rhesymol o amser".
Y termau Cymraeg a Chymreig newydd:
croeso
diolch
nos da
poody (pwdu)
scram
shwmae
nobbling
Mae sawl gair cyfarch yn y rhestr eleni yn ogystal a'r gair poody, neu pwdu yn y Gymraeg. Mae'r enghraifft cynharaf o'r gair yma yn dyddio o 1986.
Mae'r geiriadur yn ei ddisgrifio fel gair "bwmerang" - gair sy' wedi ei fenthyg o'r Saesneg i iaith arall ac yna wedi ei fenthyg yn ôl i'r Saesneg.
Mae poody yn dod o'r gair Cymraeg pwdu, sy' wedi dod o'r gair Saesneg pout.

Roedd Sioned a Fin o gyfres Race across the World wedi tynnu sylw at y dywediad 'in a poody' drwy ddefnyddio'r term mewn cyfweliad
Hefyd wedi'i gynnwys mae'r gair scram - berf o'r 18fed a'r 19eg ganrif.
Mae'r cofnod cyntaf o diolch yn dod o 1856 a nos da o 1862.
Ychydig yn hwyrach mae'r defnydd cyntaf o'r gair croeso, 1942, ac mae shwmae yn dyddio o 1926.
Hefyd yn ran o fersiwn ddiweddaraf y geiriadur mae nobbling (1998) sy'n golygu fod hi'n oer iawn ac yn ddefnydd unigryw Cymreig o air Saesneg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd7 Awst