Beth mae AI yn ei olygu i safonau'r Gymraeg?

Mae Osian Llywelyn yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio'r Swyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae'n "hanfodol" bod sefydliadau "yn parhau i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg" wrth fabwysiadu technolegau newydd, yn ôl swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn un o bynciau trafod mawr Maes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Wrecsam, ac yn ystod y dydd fe fydd y comisiynydd yn cyhoeddi polisi ar y defnydd ohono gan sefydliadau sy'n dod o dan Safonau'r Gymraeg.
Fe gafodd y safonau eu cyflwyno yn 2016 i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.
Ond mae'r maes technoleg wedi newid yn fawr ers i'r safonau ddod i rym, yn enwedig o ran y defnydd o'r Gymraeg mewn systemau AI.
Yn ôl swyddfa'r comisiynydd, fe allai'r dechnoleg alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, ac o bosib sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw mewn byd digidol.
Dywed Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio: "Mae'n bwysig bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy'n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a'i hyrwyddo yn y byd digidol.
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
Wrth i ymateb i ddatbygiadau yn y maes AI, mae Ifan Evans, cyfarwyddwr strategaeth ddigidol y corff Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweld cyfleodd, ond yn rhybuddio bod angen troedio'n ofalus.
"Mae nifer o ddoctoriaid a chyflenwyr yn cofleidio y defnydd o AI," meddai.
"Be' sy' ddim yna ar hyn o bryd yw polisi cyson ar draws Cymru gyfan ac ma' hynna yn wir am yr NHS ar draws Prydain.
"Mae cynnwrf a brwdfrydedd ond ar yr un pryd ma' rhaid cael balans yn y system iechyd ynglŷn â gofal, ystyriaeth ethigol a moesol a diogelwch."

Yng nghyd-destun y cysylltiad rhwng AI a'r Gymraeg, cyfeiriodd Ifan Evans at bwysigrwydd y dechnoleg wrth hwyluso'r cyslltiad rhwng claf a meddyg.
"Mae yn anodd gwahanu sut mae y Gymraeg yn gweithio yn y system iechyd yn gyffredinol a sut mae yn gweithio gyda technoleg gwybodaeth a deallusrwydd artiffisial.
"Dwi ddim yn credu fod deallusrwydd artiffisial yn mynd i yrru y Gymraeg yn benodol yn y system iechyd.
"Y cwestiwn yw: sut y gallwn ni hwyluso y cyswllt yna rhwng doctor a chlaf fel bod y darparwr gofal hefyd yn medru y Gymraeg."
Dysgu o systemau eraill
Mae gwersi i'w dysgu ar lefel fyd-eang, hefyd, medd Ifan Evans.
"Mae maes technoleg wybodaeth, yn enwedig deallusrwydd artiffisial, yn symud mor gyflym, mae yn synhwyrol i edrych be' sy' yn digwydd mewn systemau er'ill sy' yn mabwysiadu technoleg fel AI a sy' â mwy o ryddid a llai o reoleiddio, fel UDA, er mwyn gweld be' sy' yn digwydd.
"Wedyn dyle Cymru baratoi i ddilyn yn gyflym pan yn teimlo bod gyda ni ddigon o hyder a 'dy'n ni ddim yn teimlo bo' ni'n mynd i 'neud camgymeriad."
Ymchwilio i 'be' sy' yn gweithio yn y Gymraeg'
Mae'r cysylltiad rhwng AI a'r Gymraeg ar flaen meddwl pobl ym myd addysg hefyd.
Dywed Kara Lewis, darlithydd a chydlynydd prosiectau gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant, fod y coleg wedi sicrhau grant fel bod myfyrwyr Cymraeg ar droedle cyfartal i fyfyrwyr Saeneg o ran canllawiau'n ymwnud ag AI.

Rhaid sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio AI yn deg, medd y darlithydd Kara Lewis
"Ni yn edrych ar AI a gweld be' sy' ar gael a sut ma' defnyddio AI i helpu myfyrwyr," meddai.
"Bydd ein canllawiau ni yn helpu myfyrwyr i ddewis be sy' yn gywir a dibynadwy neu ddim yn dderbyniol. Ma' rhaid rybuddio nhw er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn defnyddio AI yn deg."
Dyw'r drafodaeth hon ddim yn un newydd i'r brifysgol, meddai, ond yn un sydd yn symud yn gyflym.
"Ma' AI yn rhan o fywydau ein myfyrwyr ni, ond ma' angen dangos bod cyfleoedd a bygythiadau o ran uniondeb academaidd. Ry'n ni ishe ymchwilio i be' sy' ar gael yn y Gymraeg a be' sy' yn gweithio yn y Gymraeg."

Wrth gyhoeddi eu strategaeth mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a'r Dirprwy Gomisiynydd Osian Llywelyn yn ymwybodol iawn bod hwn yn faes sy'n tyfu a bod sialensau i ddod.
"Ma' hwn yn faes heriol a [mae] rheoleiddwyr mewn gwahanol sectorau yn ceisio mynd i'r afael ag egwyddorion.
"Fe fydd sefydliadau yn 'neud defnydd cynyddol o AI. Ma' hynny'n cynnig cyfleoedd o ran y Gymraeg a darparu sut mae gwasanaethu yn cael eu darparu.
"Ond, ma' rhaid parchu y dechnoleg a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn briodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mai