Pryd mae gair yn cyfri'n Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
"Geiria' newydd i'r geiriadur efallai? Osym. Lyfio. Eidial. Joio. Rili. Masif. Oes 'na fwy?"
Dyma oedd y geiriau y postiodd Derec Owen o Ynys Môn i'w dudalen Facebook fis Awst.
Ei fwriad oedd "codi sgwarnog" a thynnu coes y "keyboard warriors" meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond ar ôl dweud hynny," eglurodd, "mae 'na elfen o ddifrifoldeb yma hefyd.
"Mae'r Cymry Cymraeg wedi mynd yn ddiog ac yn ddi-fater ac yn defnyddio llawer o'r geiria' gwneud yma, nes eu bod yn dod yn naturiol bellach.
"Mae'r defnydd o'r geiria' yma i'w gweld yn fwy aml ar y cyfrynga' cymdeithasol a teimlo bod y bratiaith yn cymryd trosodd dyddia' ma.
"Dwi'n casáu ambell un yn fwy na'i gilydd – ôsym, lyfio, a llongyfs yn enwedig."
A ddylai'r geiriau gael eu hychwanegu i'r geiriadur?
Ond ai "bratiaith' ydyn nhw mewn gwirionedd?
Cysylltodd Cymru Fyw gyda Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) i weld beth sy'n gwneud gair yn gymwys i fod yn y geiriadur.
Dywedodd Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol GPC: "Be 'dyn ni’n chwilio amdano ydi tair enghraifft annibynnol fel arfer.
"Dydyn nhw ddim yn cael bod yr un awdur, a dydyn nhw ddim yn cael bod yr un testun."
Tystiolaeth
"Dyna oedd yr hen ganllaw oedd gyda ni – oni bai bod cymaint â hynny o dystiolaeth doedden ni ddim yn ystyried bod rhywbeth yn bodoli oni bai ei bod hi’n hollol amlwg, a bod pawb yn gwybod am y peth ond bo’ ni methu ffendio tystiolaeth arall.
"Ond mae’n rhaid penderfynu rhwng beth sy’n fenthyciad a beth sy’n gyfnewid cod a beth sy’n digwydd bod yn Saesneg yn cael ei ddyfynnu o fewn y Gymraeg.
"Felly os 'dyn ni’n gweld unrhyw air benthyg sydd wedi cael ei dderbyn, neu wedi ennill ei blwyf yn Gymraeg, os ydyn ni’n gweld enghraifft o hynny’n gynnar mewn cyd-destun Cymraeg 'dyn ni’n dyfynnu hynny yn y geiriadur i ddangos y broses mewn gwirionedd.
"Ein bod ni’n dangos, efallai bod yr enghraifft gynharaf 'na yn gallu bod yn enghraifft o air benthyg.
"Mae’n dangos y broses fod y gair yn gyfarwydd ac wedyn nes ymlaen mae’n cael ei lyncu mewn i’r iaith."
Mae Dr Iwan Rees yn dafodieithegydd cyfoes, ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Yn ei ymateb i eglurhad GPC am sut mae dewis geiriau benthyg i'r geiriadur, dywedodd eu bod "datblygu methodoleg gadarn ar gyfer cydnabod geiriau benthyg yn y Gymraeg".
"Mae'n amlwg nad ar hap a damwain y mae benthyceiriau yn cael eu hychwanegu, ond yn hytrach ar sail tystiolaeth gwahanol awduron a thestunau," meddai.
"Wedi dweud hynny, mae yna sawl ystyriaeth neu gymhlethdod yn codi nad oes yna atebion syml iddyn nhw."
Benthyciadau a newid cod
Newid cod yw'r arfer o gymysgu dwy iaith wahanol mewn geiriau eraill, e.e. 'hapno', '(en)joio' neu 'pract(e)isio', ac mae'r ffin rhwng hynny a benthyg geiriau'n denau iawn, yn ôl Dr Rees.
"Maent [y geiriau uchod] wedi cyrraedd y Geiriadur, felly maen nhw'n amlwg yn cael eu trin fel 'benthyciadau sydd wedi ennill eu plwyf' – hyd yn oed os oes ambell un o'r rhain ar drai ar lafar mewn gwirionedd."
"Ar y llaw arall, ac yn y cyd-destun hwnnw, mi ellid dadlau ei bod hi'n syndod nad ydi ffurfiau cyffredin eraill fel 'jympio'/‘jwmpo’ (na 'jwmp' i olygu 'naid' o ran hynny), ‘ffeitio’, ‘stres(i)o’ (er bod ‘ffeit’ a ‘strès’ yno), ‘ofyrte(i)cio’, ‘winjian’ / ‘winjio’ na 'lyfio' wedi cyrraedd y Geiriadur eto – mewn geiriau eraill, mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn eiriau benthyg dilys eto.
"Mae'r gwahaniaeth yma felly rhwng benthyciadau a chyfnewid cod yn gallu ymddangos yn ddigon mympwyol a goddrychol i siaradwyr Cymraeg ar lawr gwlad, er gwaetha'r fethodoleg wrthrychol sydd gan y GPC."
Pryd mae geiriau'n cael eu mabwysiadu?
Eglurodd, Mr Hawke o GPC: "Beth sy’n ddiddorol ydi sut mae geiriau yn cael eu mabwysiadu.
"Wy’n cofio’r gair ‘blurb’ yn arbennig, achos mae’n dangos datblygiad.
"Dwi newydd agor ‘blyrb’ yn y geiriadur ac mae’n dweud 'Broliant ysgrifenedig byr sy’n hyrwyddo llyfr, ffilm...'
"Ac wedyn yn yr enghraifft gyntaf o 1947, mae’n dweud 'fel y dywaid y ‘blurb’ y tu mewn i’r clawr...' ac mae wedi’i sgwennu mewn dyfynodau yn y Saesneg.
"Wedyn mae’r enghraifft nesaf o 1958 yn dweud 'yn y ‘blyrb’ ar ei siaced lwch…' ac mae dal mewn dyfynodau ond mae ‘y’ ynddo fe yn lle ‘u’.
"Felly mae’n dechrau cael ffurf gair Cymraeg."
"Wedyn, erbyn yr enghraifft nesaf yn 1965 mae’n sôn am “rai o’r blyrbiau doniol ar gyfer rhai o’i lyfrau.”
"Felly mae wedi cael ffurf luosog erbyn fan'na. Felly erbyn hynny mae’n air Cymraeg yn dydi?
"Does dim dyfynodau felly mae wedi cael ei dderbyn i’r iaith ac mae’n cael ei drafod fel gair Cymraeg wedyn.
"Pan fydd geiriau’n dechrau cael eu treiglo, mae’n arwydd eu bod nhw wedi cael eu normaleiddio i’r iaith.
"Ond lle mae pethau yn cadw eu ffurf wreiddiol, mae 'na amheuaeth wedyn a ydyn nhw wedi cael eu derbyn neu beidio."
Llafar yn erbyn Ysgrifenedig
Ym marn Dr Rees, mae'n rhaid ystyried a yw trefn GPC yn rhoi statws israddol i Gymraeg llafar. Dywedodd:
"Mae yna werth mawr i dystiolaeth destunol o wahanol gyfnodau. Ond mae yna beryg er hynny i holl ddeinamigrwydd yr iaith lafar gael ei ystyried yn israddol neu'n eilradd i Gymraeg ysgrifenedig, sy'n aml yn llai amrywiol.
"Mae'n siŵr gen i mai dyrchafu'r ysgrifenedig yn y modd yma sydd i gyfri' am rai bylchau yn y Geiriadur."
'Rom bach' o amrywiaeth?
"Cymerwch, er enghraifft, yr ymadrodd, 'rom bach' i olygu 'ychydig'; rhywbeth glywais i droeon ym Mhen Llŷn ac sy'n cael lle amlwg yn Capten, nofel gampus Meinir Pierce Jones.
"Yn yr un modd, does dim sôn am 'jaman' yn y Geiriadur, sef term digon cyffredin ymhlith to iau Caernarfon sydd rywsut wedi datblygu i olygu'r gwrthwyneb i 'jami' - benthyciad arall sydd ar goll - sef anlwc neu anffawd.
"Benthyciad diddorol arall sy'n absennol o'r Geiriadur ydi 'getawê', ffurf sydd wastad yn enw yn y Gymraeg ac yn dilyn 'cael', fel yn 'cael brecwast'.
"Os meddyliwch chi am hyn, mae hyn yn wahanol iawn i'r Saesneg lle mae'r get neu'r got ar y dechrau yn aml yn ferfau go iawn.
"Mewn gwirionedd, byddai cyfieithu 'cael getawê' yn llythrennol i'r Saesneg yn swnio'n Gymreigaidd iawn mewn sawl cyd-destun!"
Atebion posib
Er mwyn dyrchafu amrywiaeth Cymraeg llafar, awgrym Dr Rees ydi defnyddio corpora iaith lafar fel Corpws Siarad Prifysgol Bangor neu CorCenCC, sy'n fwy diweddar, yn enwedig wrth olrhain datblygiad rhai geiriau.
Ychwanegodd: "Yn sicr, mae cyfle i eiriadurwyr a sosioieithyddion gydweithio'n agosach ar gyfer mynd i'r afael â sawl cymhlethdod dyrys.
"Mae'n bosib hefyd y bydd gan Gymraeg ansafonol y cyfryngau cymdeithasol ran ganolog i'w chwarae wrth eiriadura yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Awst
- Cyhoeddwyd15 Awst
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023