Cerbyd 'heb stopio' ar ôl anafu bachgen 15 oed mewn gwrthdrawiad

safle'r digwyddiadFfynhonnell y llun, Google earth
  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 15 oed wedi cael "anafiadau sylweddol" yn dilyn gwrthdrawiad yn y Rhyl.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael gwybod am wrthdrawiad ar Ffordd Wellington yn Rhyl ddydd Sadwrn, lle cafodd cerddwr ei daro gan gerbyd.

Dywedon nhw nad oedd y car wedi stopio.

Er i'r bachgen gael anafiadau sylweddol, nid yw'r anafiadau i'w weld yn rhai bydd yn peryglu ei fywyd.

Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu, maen nhw wedi arestio dyn am droseddau'n ymwneud â'r gwrthdrawiad ac wedi canfod cerbyd y maen nhw'n credu oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Mae'r dyn hwn yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Sarjant Daniel Rees: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i roi gwybod i ni, neu i unrhyw un sydd â deunydd cylch cyfyng o gar Susuki S Cross glas yn teithio yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad i roi gwybod i ni."

Pynciau cysylltiedig