Cyngor Conwy wedi gwario £2m ar storfa lorïau sy'n parhau yn wag

Parc Masnach MochdreFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cyngor Conwy arwyddo prydles ar gyfer tair uned mewn parc busnes ym Mochdre yn 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Conwy wedi gwario miliynau o bunnau ar storfa ar gyfer lorïau biniau a graenu sy'n parhau'n wag oherwydd bod y llawr yn rhy wan.

Fe wnaeth Cyngor Conwy arwyddo prydles 35 mlynedd o hyd ar gyfer tair uned mewn parc busnes ger Bae Colwyn yn 2016.

Dechreuodd y cytundeb ym mis Mai y flwyddyn honno, ac mae'r awdurdod lleol wedi gwario £2m hyd yma - gyda chost o tua £20,000 y mis i drethdalwyr.

Mae Cyngor Sir Conwy wedi cael cais am sylw.

Daeth i'r amlwg fod y llawr ym Mharc Masnach Mochdre yn rhy wan i ddal y cerbydau, meddai’r Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.

Ond pan ddaeth y cyngor i wybod, roeddynt eisoes yn talu £240,000 y flwyddyn mewn rhent.

Gallai’r gost i’r awdurdod lleol gynyddu i o leiaf £3.6m cyn y daw'r cyfle cyntaf i dorri’r brydles yn 2031.

Mae'r cyngor hefyd wedi gwario bron i £300,000 ar gyngor cyfreithiol yn ymwneud â'r brydles.

'Mae'r sefyllfa yn warth'

Gofynnodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders am wybodaeth yn ymwneud a gwariant y cyngor drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Disgrifiodd y sefyllfa fel "gwarth" a galwodd ar y rhai sy'n atebol i gael dwyn i gyfrif.

Ychwanegodd: “Pan rydych chi’n meddwl na allai’r sefyllfa i Gyngor Conwy fynd yn waeth, rydyn ni’n darganfod nawr eu bod wedi bod yn talu cannoedd o filoedd am gyngor cyfreithiol ar brydles sydd yn dal yn weithredol wyth mlynedd yn ddiweddarach."

Mae Cyngor Conwy mewn dadl gyfreithiol gyda pherchnogion y tir, R.R Sea Strand Limited, er bod y brydles yn wreiddiol wedi’i arwyddo gyda Conygar Investment Company PLC.

Mewn datganiad blaenorol yn 2021, cyfaddefodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol nad oedd y brydles “wedi bod yn destun yr un broses lywodraethu” â chytundebau mawr eraill a’u bod yn parhau i drafod y brydles gyda pherchennog y safle.