Ateb y Galw: Non Mererid Jones
- Cyhoeddwyd
Non Mererid Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Daw Non o Bwllheli ac mae hi'n gweithio fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Non newydd ryddhau ei nofel gyntaf yn ddiweddar sef Merch y Wendon Hallt.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017 a daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 gyda’r nofel hon.
Mae Non wrth ei bodd yn syrffio, rhedeg a threulio amser gyda'i theulu.
Dyma ddod i'w hadnabod ychydig yn well.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Mae gen i dipyn o atgofion ‘cyntaf’ (rhwng 2 a hanner a 3 oed) ond dwi ddim yn siŵr pa un oedd y cyntaf un. Dwi'n cofio ogla adeilad Frondeg lle'r oedd llyfrgell Pwllheli ac ysgol feithrin y dre ar ddechrau'r 90au: y seti bach plastig, crwn i blant (rhai coch ac oren) yn y llyfrgell, llyfrau Sali Sws yr Octopws a Ffranc y Cranc a Neli'r Pysgodyn Jeli, a'r llawenydd o'n i'n ei deimlo wrth wibio o gwmpas yr ysgol feithrin mewn car bach coch a melyn.
Dwi'n cofio mwynhau bob eiliad hefyd o gael gwisgo i fyny fel Mursen y gath a sipian carton o Ribena ar gefn lori yng ngharnifal y dre (Rala Rwdins oedd thema fflôt yr ysgol feithrin).
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Ateb plwyfol braidd ond lan môr Marian y De / West End, Pwllheli - mae’n edrych yn wahanol bob dydd.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Y noson pan anwyd y mab. Er fy mod i wedi cael nosweithiau gwirion bost yn ystod fy ieuenctid, mae'r noson honno yn fwy byw i mi nag unrhyw un o'r nosweithiau hynny.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Blêr. Lletchwith. Bodlon.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae ‘na lwyth o ddigwyddiadau sydd o hyd yn gwneud i mi wenu a chwerthin wrth sbio yn ôl (troeon trwstan ac anturiaethau ieuenctid ffôl!).
Dwi’n cofio poeni yn hogan ifanc y baswn i’n anghofio sut deimlad oedd bod yn ifanc, ond dwi yn cofio, ac mae hynny’n gwneud i mi wenu.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Och, lle dwi’n cychwyn? Y peth cyntaf sy’n dod i’r cof ydi sillafu Albatross fel Albert Ross pan o’n i ym Mlwyddyn 3 yn yr ysgol gynradd.
Roedd yr athrawes yn meddwl bod hyn yn uffernol o ddoniol, mor ddoniol nes bod rhaid iddi sôn wrth Mam a Dad am y camsillafiad yn y noson rieni.
Dwi’n cofio eistedd yng nghefn y car ar y ffordd adra y noson honno, yn methu dallt pam oeddan nhw’n gofyn i mi ‘Pwy ydi Albert Ross?’ ac yn chwerthin.
Mi ddalltais yn y diwedd, do, ac mi o’n i’n marw o gywilydd yr holl ffordd adra.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn ddiweddar.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Gormod o lawer. Dwi’n tindroi, yn un ddrwg am adael pethau tan y funud olaf ac yn gorfeddwl bob dim - bob gair, bob gweithred.
A dwi’n gadael llwyth o gwpanau budur o gwmpas y tŷ.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mae’r cwestiwn hwn yn anodd ac mae’r ateb yn gyfnewidiol ac yn dibynnu ar sut dwi’n teimlo ar y pryd.
Heddiw, dwi’n teimlo fel dweud mai Lloffion gan T. H. Parry-Williams ydi fy hoff lyfr. Ond roedd yr ateb yn wahanol ddoe ac mi fydd yr ateb yn wahanol eto yfory.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Gan nad ydw i’n mynd allan o gwbl y dyddiau hyn, mi faswn i’n licio trefnu noson allan efo ffrindiau da (ond heb ordrefnu ’chwaith, achos dydi’r nosweithiau hynny byth cystal).
A Dylan Thomas ella, i ofyn iddo faint o Gymraeg oedd ganddo gan fy mod i wedi treulio blynyddoedd yn ysgrifennu traethawd PhD sy’n crybwyll hynny.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi ddim yn berson enigmatig felly mae’n anodd meddwl am ateb diddorol i’r cwestiwn hwn.
Felly mi wna i rannu’r ffaith hollol boring fy mod i’n gwneud ymdrech i wylio Eastenders bob Dolig, a does gen i ddim math o gywilydd am hynny.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Heblaw am ddiolch o galon wrth bobol a dweud wrth y sawl dwi’n eu caru fy mod i’n eu caru nhw, mi faswn i’n codi’n gynnar iawn, ac yn mynd i syrffio i Borth Neigwl achos fasa gen i’m ofn torri fy ffêr eto wrth wneud hynny.
Mi faswn i’n cael brecwast a choffi neis mewn caffi wedyn ar fy mhen fy hun a sgwennu cofnod mewn rhyw lyfr nodiadau am fy Niwrnod Olaf.
Mi faswn i’n treulio gweddill y diwrnod efo fy nheulu: mynd i’r parc, mynd i’r traeth i hel cregyn (‘ffosils’).
Mi faswn i’n rhedeg o gwmpas y dre ar ôl iddi dwllu er mwyn ffarwelio â’r hen le.
Ac mi faswn i’n eistedd ar sil y ffenest efo fy mab yn sbio ar y lleuad a’r sêr am y tro olaf.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae gen i filoedd ar filoedd o luniau ar fy ffôn ac mae’n amhosib dewis un fel y llun pwysicaf! Ond mae’n debyg mai’r lluniau pwysicaf ydi lluniau candid sy’n dal eiliadau annwyl a thyner e.e. lluniau o ‘nheulu: fy mab ar ysgwyddau fy Nhad, fy mab yn hel mwyar duon efo fy Mam, ac ati.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Faswn i’m isio byw bywyd neb arall, ond mi faswn i’n licio gwybod sut mae’n teimlo i fod yn berson hyderus.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023