Canrif ers geni'r awdur nodedig, Islwyn Ffowc Elis
- Cyhoeddwyd
Mae 17 Tachwedd yn nodi 100 mlynedd ers geni un o'r awduron mwyaf dylanwadol yn yr iaith Gymraeg, Islwyn Ffowc Elis.
Roedd ei gyfraniad i ddiwylliant llenyddol Cymru yn helaeth a phellgyrhaeddol.
Mae Dr T. Robin Chapman yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn arbenigwr ar fywyd a gyrfa Islwyn Ffowc Elis.
Felly, sut fath o ddyn oedd Islwyn Ffowc Elis? "Eithriadol wylaidd a chymwynasgar," meddai Dr Chapman.
"Efallai mai dyna oedd ei wendid mwyaf yn ogystal â'i brif rinwedd: yr awydd i blesio a mynd o'i ffordd i helpu."
Yn ogystal â bod yn nofelydd, roedd Islwyn Ffowc Elis hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog, darlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith.
'Llenor poblogaidd a deallusol'
O edrych ar ei yrfa, beth sy’n sefyll allan fel y themâu mae o’n ei bwysleisio, a sut mae o’n plethu'r rhain i mewn i’w waith?
"Mae'n tyfu allan o'i gymwynasgarwch," meddai Dr Chapman, "y thema sy'n dod i'r meddwl o hyd yw synnwyr dyletswydd. Roedd am fod yn llenor poblogaidd (llenydda dros yr iaith) ac yn llenor mwy deallusol.
"Roedd am gael llonydd ond yn teimlo'r un pryd y dylai fod yn gwneud mwy dros Blaid Cymru a'r Eisteddfod a'r Academi Gymreig. Gadawodd y weinidogaeth am ei fod yn methu dal y straen, ond teimlai ei fod wedi bradychu ei rieni a'i gyd-weinidogion."
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei lyfr Cysgod y Cryman, ac i ryw raddau y dilyniant, Yn Ôl i Leifior - ydych chi’n meddwl bod peryg o anghofio am ei yrfa ehangach?
"Yn bendant iawn. Bu'n gyd-olygydd papur newydd Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, a bu'n gyfrifol am drefnu ymgyrch etholiadol Gwynfor Evans pan enillodd sedd Caerfyrddin yn 1966; cyfansoddodd gannoedd o ganeuon; lluniodd a chynhyrchodd ddwsinau o ddramâu radio.
"Paratôdd gyfieithiad o Efengyl Mathew a throsodd nofelau o Eidaleg a Norwyeg; cynhyrchodd ei siâr o waith beirniadol. Gellid ymhelaethu. Rhwng popeth, rhan gymharol fechan o'i fywyd oedd ei nofel enwog."
Mae gwaith Islwyn Ffowc Elis, a Cysgod y Cryman yn enwedig, yn parhau’n boblogaidd hyd heddiw - pam fod hyn? Dywed Dr Chapman:
"Yn gyntaf, ac mae'n beth hawdd peidio â rhoi sylw dyledus iddo, oherwydd ei bod yn edrych mor debyg i nofelau poblogaidd Saesneg y cyfnod. Mae llawer o'i darllenwyr yn wreiddiol wedi sôn am y profiad corfforol o ddal y gyfrol yn eu dwylo a theimlo'r wefr o ddarllen rhywbeth mor normal a chyfoes yn Gymraeg.
"Yn ail, am fod Islwyn yn gwybod sut i greu cymeriadau y gellir eu cyfuno. Mae newydd fy nharo bod Harri Vaughan, prif gymeriad Cysgod y Cryman ac Yn Ôl i Leifior, yn cysylltu ag agos i hanner cant o bobl yn ystod y nofel, rhwng teulu a ffrindiau coleg, cymdogion a chydnabod. Yn yr ymwneud cymhleth hwnnw y mae apêl y nofel."
'Gosod ei stamp'
Sut mae crisialu stamp Islwyn Ffowc Elis ar ddiwylliant Cymru? Mae Dr Chapman yn dweud bod hyn yn gwestiwn anodd.
"Gosododd ei stamp yn yr ystyr o adael gwaddol," dywed Dr Chapman.
"Mae pawb yn gwybod am Hen Wraig y Bala, ac mae'r enw Lleifior (bathiad Islwyn ei hun) i'w weld ar gartrefi ledled Cymru. Ceir cyfeiriad ato (er mai gwell peidio â dweud mwy na hynny) yn Dal y Mellt (y nofel a chyfres S4C).
"Fodd bynnag, er mwyn deall ei arwyddocâd ehangach, rhaid nodi paradocs. Nid yw Islwyn Ffowc Elis bellach yn bresenoldeb yn niwylliant Cymru; symudodd y diwylliant hwnnw yn ei flaen.
"Ond fe greodd yr amodau a ganiataodd i'r symud hwnnw ddigwydd. Sefydlodd y Gymraeg fel cyfrwng diwylliant cyfoes, poblogaidd - a hanfod y cyfoes a'r poblogaidd yw newid. Rhoddodd hwb i'r diwylliant a gadael iddo redeg yn ei flaen hebddo."
Bu farw Islwyn Ffowc Elis ar 22 Ionawr, 2004, ond mae ei ddylanwad ar lenyddiaeth Cymru mor gryf heddiw ag erioed, ac yn debygol o barhau am genedlaethau i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2024