Iechyd meddwl: Gallai pethau wedi bod yn well gyda help cynnar
- Cyhoeddwyd
Mae dynes ifanc oedd yn byw gydag anhwylder bwyta yn dweud y byddai ei phrofiad hi wedi gallu bod yn wahanol iawn petai hi wedi cael y cymorth angenrheidiol ynghynt.
Roedd Lara Rebecca, sy'n 24 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yn ymateb i adroddiad sy'n galw am “weithredu ar unwaith” i wella’r ddarpariath gofal iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc Cymru.
Dywedodd Lara: "Os bydden nhw wedi helpu fi yn gynharach, bydde hynna wedi helpu achos nathon nhw aros am fisoedd a misoedd ac o'n i'n gwaethygu."
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen”.
Maen nhw’n nodi bod gwelliannau wedi bod ond yn “cydnabod bod lle i wella eto”.
Cafodd dros 400 o bobl ifanc, rhieni, a gweithwyr proffesiynol eu holi fel rhan o’r adroddiad rhwng yr arolygiaethau iechyd, gofal ac addysg yng Nghymru.
O’r 215 o bobl ifanc gymrodd ran, roedd dros hanner yn teimlo nad oedden nhw’n gwbod ble i droi am gymorth.
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
Wrth siarad am ei phrofiad hi, mae Lara Rebecca yn dweud bod ganddi broblemau ers pan oedd hi'n ifanc.
Eglurodd ei bod "wedi dioddef chydig gyda phryder, panic attacks... o'n i'n really isel, o'n i'n isolatio fy hunan ac mewn ffordd i geisio ymdopi gyda'r emosiynau, 'nes i ddechre dioddef gyda anhwylder bwyta".
Mae'n dweud bod yr anhwylder bwyta wedi datblygu "fel ffordd o geisio cael rhyw fath o control yn ôl".
'Nes i golli Lara'
"O'dd e'n really anodd achos pryd o'n i'n ifanc o'n i'n really bubbly ac yn hoffi karate, yn hoffi mynd i'r gerddorfa a wedyn nes i just disintegratio bach a colli lot o hyder a colli Lara i fod yn onest," meddai.
Mae'n dweud bod y sefyllfa wedi "gwaethygu" ac "wedi cymryd dros fy mywyd".
"Ar y dechrau o'n i ddim eisiau help achos o'n i just eisiau dioddef ar ben fy hunan ond pryd nath y sefyllfa waethygu, o'dd e'n anodd i geisio cael yr help achos o'n i ddim yn cael fy ystyried yn ddigon sâl i gael yr help oedd ar gael."
Wrth siarad am y cymorth dderbyniodd hi, dywedodd Lara nad oedd digon o ffocws ar yr elfennau seicolegol, ond yn hytrach "wastad yn ffocws ar y bwyd a'r pwysau ac anghofio bod fi'n dioddef yn seicolegol hefyd".
"Dwi'n falch bo fi wedi recoverio a dwi'n iachus ac yn hapus nawr ond falle galle pethe wedi bod yn ychydig yn wahanol os bydden i wedi cael y support yn gynharach."
'Mae pethau'n gwella'
Mae’r adroddiad, ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn yn nodi bod gormod o bobl ifanc Cymru’n cael profiadau tebyg i Lara.
Maen nhw hefyd yn codi pryderon am ddiffyg cyllid a diffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau.
Mae Lara yn cytuno gyda chasgliadau'r adroddiad.
"Mae 'na gymaint mwy o drafodaeth am iechyd meddwl ond mae angen bod yn fwy actionable gyda'r trafodaeth yna nawr.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo'n hyderus a chyfforddus i siarad am eu hiechyd meddwl yn gynnar, cyn i bethau ddatblygu yn waeth."
Mae Lara yn annog eraill sy'n mynd drwy gyfnod anodd i siarad.
"Mae gymaint o unigolion yn dioddef - dydych chi ddim ar ben eich hun - a weithiau dyw pobl ddim yn siarad lan achos dydyn nhw ddim yn credu bod sefyllfa nhw'n ddigon gwael ond mae pawb yn haeddu support a mae pawb yn haeddu i'w problemau gael eu cydnabod.
"Dwi'n iachus ac yn hapus nawr ond dwi dal yn cymryd camau proactive i sicrhau bod fy iechyd meddwl mewn lle positif. Dwi dal yn mynd i therapi, dwi dal yn neud routines bach i sicrhau bod fy iechyd meddwl mewn lle positif."
Mae hi bellach yn astudio ar gyfer gradd meistr ac mae ganddi bodlediad sy'n trafod iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta, er mwyn ceisio helpu eraill.
"Mae pethau'n gwella. Mae 'na amseroedd tywyll ond gyda amser, gyda cariad, gyda teulu, gyda help, mae pethau'n gwella."
'Ddim yn gwybod lle i droi'
Dywedodd Rhys Jones o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mai'r hyn "sy’n destun pryder yw bod dros hanner y bobl ifanc na'th gysylltu â ni, wedi sôn bo nhw ddim yn gwbod ble i droi i gael cymorth am iechyd meddwl, a nifer fawr pan ma' nhw’n trio cael mewn i’r gwasanaethau iechyd meddwl ddim yn gwbod ble i fynd".
Eglurodd mai'r "hyn ni’n neud yn yr adroddiad hyn yw tynnu sylw at y ffactorau a’r risgiau o gwmpas hyn ac yn galw ar y cyd am fwy o waith a mwy o sylw i sicrhau bod pob plentyn a phobl ifanc yng Nghymru yn medru derbyn gofal sy’n amserol ac yn addas i’w anghenion nhw ledled Cymru".
'Lle i wella'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ddiolchgar i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn am yr adolygiad yma.
"Mae'n dangos y gwaith sy'n cael ei wneud i ostwng amseroedd aros a datblygiadau cadarnhaol mewn ysgolion i gefnogi pobl ifanc.
"Er hynny, mae'n amlwg fod ardaloedd lle mae angen parhau i wneud gwelliannau.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn gallu cael y cefnogaeth maen nhw angen, pan maen nhw ei angen."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021