Offeiriad yn cyfaddef anfon negeseuon hiliol i sgwrs neo-Natsïaidd

Ysgrifennodd Mark Rowles amryw o negeseuon sarhaus am Fwslimiaid a phobl ddu
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Mae offeiriad Catholig wedi ei ddedfrydu ar ôl cyfaddef trafod bomio mosgiau a saethu pobl ddu yn eu pennau.
Fe wnaeth y Tad Mark Rowles, 57, gyfaddef anfon y negeseuon ar wefannau neo-Natsïaidd ar ôl cael ei arestio gan heddlu gwrthderfysgaeth.
Cyfaddefodd dri chyhuddiad o anfon negeseuon bygythiol neu sarhaus gan ddefnyddio ap Telegram, ym mis Mai a mis Mehefin y llynedd.
Cafodd Rowles, sydd o Eglwys Gatholig Sant John Lloyd yng Nghaerdydd, ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.
Cafodd orchymyn cymunedol 12 mis, a bydd yn gorfod cwblhau 150 awr o wasanaeth cymunedol a 12 diwrnod o weithgarwch adsefydlu yn y cyfnod.
Mae llefarydd ar ran yr Eglwys Gatholig yng Nghymru wedi cadarnhau nad ydy Rowles wedi bod yn gweithio ers i'r honiadau ddod i'r amlwg, gan ddweud ei bod hi'n "ddrwg iawn gennym am unrhyw niwed y mae hyn wedi'i achosi".

Cafodd Mark Rowles ei ddefrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau
Cafodd Rowles ei arestio yn ystod ymchwiliad gan heddlu gwrthderfysgaeth i weithgarwch asgell dde eithafol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Defnyddiodd Rowles y ffugenw "skinheadlad1488", gan ymuno ag ystafell sgwrsio o'r enw Aryan Reich Killers.
Ysgrifennodd amryw o negeseuon sarhaus am Fwslimiaid, gan gynnwys neges y dylid "bomio mosgiau".
Clywodd y llys ei fod wedi disgrifio ei hun ar ei broffil fel "skinhead neo-Natsïaidd" oedd yn berson unig.
Y llun ar y proffil oedd dyn gwyn ifanc yn gwisgo gorchudd wyneb, gyda baner yr Almaen a'r geiriau "y llwybr ar y dde o hyd".

Mewn grŵp arall fe ddefnyddiodd Rowles derm eithriadol o hiliol, ac ysgrifennodd y "dylent gael eu crogi neu eu saethu".
Dywedodd yr erlynydd, Rob Simkins, fod y negeseuon yn "elyniaeth ar sail crefydd a hil".
Fe wnaeth yr heddlu olrhain yr offeiriad trwy'r ap Telegram a'i ffôn symudol.
Mewn trafodaeth arall soniodd am ethnigrwydd pobl Llundain, gan ddweud y byddai "ychydig o fwledi i'w hymennydd yn helpu".
'Ffantasi rhywiol'
Yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu, dywedodd Rowles wrth swyddogion nad oedd yn berson hiliol a'i fod wedi ymuno â'r grwpiau oherwydd ei fod yn unig.
Honnodd fod ganddo ffantasi rhywiol am chwarae rôl.
Wrth amddiffyn, dywedodd Jacqui Seal ei bod hi'n "amlwg bod hwn yn achos pryderus".
"Trwy gydol ei oes yn yr Eglwys Gatholig, nid ydy o erioed wedi bod yn destun cwyn na chamau disgyblu. Nid oes ganddo unrhyw euogfarnau blaenorol."
Ychwanegodd Ms Seal fod Rowley wedi bod yn mynd i gwnsela ers mis Ionawr a'i fod mewn cyswllt gyda'i gwnselydd.
Cafodd Rowley orchymyn i dalu £199 mewn costau.
Mae llefarydd ar ran Archesgobaeth Caerdydd-Menevia wedi cadarnhau nad ydy Rowles wedi bod yn gweithio o fewn y weinidogaeth ers i'r honiadau ddod i'r amlwg.
Ychwanegodd y llefarydd bod ei weithredoedd yn rhai "trist iawn" ac maen nhw wedi ymddiheuro am unrhyw niwed a gafodd ei achosi.
"Rŵan bod y broses statudol wedi'i chwblhau, bydd yr Eglwys yn cynnal ei hadolygiad priodol ei hun."