Cyhoeddi sawl rhybudd melyn am law trwm yn y de

Map y rhybudd melyn am lawFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn am law nos Fercher a dydd Iau yn berthnasol i 16 o siroedd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am gawodydd o law trwm ar gyfer rhannau o Gymru o nos Fercher tan fore Sadwrn.

Daeth y rhybudd cyntaf i rym am 21:00 nos Fercher ac ac fe fydd yn dod i ben am 23:45 nos Iau.

Mae'n berthnasol i 16 o siroedd yng Nghymru - Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Ceredigion, Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Yn ôl yr arbenigwyr, fe allai'r glaw trwm arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybudd melyn arall yn dod i rym am hanner nos ddydd Gwener

Yn ogystal, mae rhybudd melyn arall am law yn dod i rym am hanner nos fore Gwener.

Fe fydd y rhybudd yn parhau mewn grym hyd at 23:59 nos Wener.

Mae disgwyl i 14 o siroedd Cymru gael eu heffeithio; Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.

Unwaith eto mae 'na alw ar i deithwyr gymryd gofal ar y ffyrdd ac i wirio amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus.

Pynciau cysylltiedig