Tafarnau'n dal i gau, ond awgrym bod pethau'n gwella

PeintFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod dros 6% o dafarnau wedi cau yng Nghymru ers 2019 - canran uwch nac yn Lloegr a'r Alban.

Mae ymchwil newydd y British Beer and Pub Association (BBPA) yn dweud bod mwy na phump tafarn yr wythnos wedi cau yng Nghymru a Lloegr y llynedd.

Ond mae ystadegau swyddogol y Swyddfa Ystadegau (ONS) yn dangos erbyn heddiw bod cyfradd y tafarndai sy'n cau yn arafu.

Y llynedd yng Nghymru fe gafodd y gloch ei chanu am y tro olaf mewn 18 tafarn tra bod 63 wedi cau eu drysau yn 2023.

Trethi uchel

Un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant yw trethi rhy uchel yn ôl Torrin Maclauchlan o Gymdeithas Tafarnau a Chwrw Cymru.

"Mae angen diwygio trethi busnes yma yng Nghymru i adlewyrchu y tirlun busnes modern," meddai.

"Hefyd mae'r dreth ar gwrw deirgwaith yn uwch yn y DU nac yn Ewrop, ac mae hynny hefyd yn cael effaith negyddol ar fragwyr, tafarnau a'r cwsmeriaid."

Ond er bod y gwydr yn edrych yn hanner gwag mae yna le i fod yn fwy gobeithiol am y dyfodol hefyd.

Mae Freddie Scrace newydd ailagor tafarn y Prince of Wales yn Nhredegar ar 8 Mehefin. Mae e eisioes yn rhedeg dwy dafarn arall yn yr ardal.

"Ro'n ni'n nerfus yn cymryd yr awennau mewn tafarn newydd. Mae cymaint o dafarnau yn cau.

"Dyw tafarn sydd ar gau ddim yn adlewyrchu yn dda ar gymuned, felly mae'r ymateb yn lleol wedi bod yn ffafriol iawn wedi i ni ail agor," ychwanegodd.

Pobl ifanc yn yfed llai

Mae'r BBPA yn amcangyfrif bod angen i dafarnwr godi £5.01 am beint er mwyn gwneud elw o 12c ac maen nhw yn galw ar Lywodraeth San Steffan i leihau'r dreth fel ei bod yn cyfateb i'r dreth ar gyfartaledd yng ngweddill Ewrop.

Er hynny mae'r Prince of Wales yn ffynnu dan ei pherchennog newydd.

"Mae hi wedi bod yn brysur y dyddiau diwethaf. Be' dwi'n sylwi nawr yw bod pobl ifanc yn yfed llai y dyddiau yma.

"Pan yn ifanc ro'n i a'm ffrindiau yn mynd i'r clybiau nos ar ôl y dafarn. Ond rwy'n' meddwl bod aros yn y dafarn yn siwtio'r to iau yn well."

Mae Torrin Maclauchlan o Gymdeithas Tafarnau a Chwrw Cymru hefyd yn cydnabod nad yw'r darlun yn un cwbl anobeithiol i'r diwydiant.

"Mae poblogrwydd cwrw alcohol isel neu ddi-alcohol wedi bod yn help i ddenu cwsmeriaid newydd i dafarnau Cymru.

"Mae cynnyrch arloesol y bragdai llai hefyd yn plesio."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi gostwng y dreth ar gwrw a seidrau sy'n cael eu gwerthu o'r pwmp o 1.7%.

Y nod, meddai llefarydd, yw rhoi cymorth i'r diwydiant lletygarwch.

Pynciau cysylltiedig