Cyhoeddi enw dyn, 31, fu farw wedi Ironman Abertawe

Llun o'r awyr o'r digwyddiad Ironman 70.3 yn Abertawe dydd sul 13 GorffennafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth yr athletwr i drafferth yn ystod rhan nofio y ras

  • Cyhoeddwyd

Mae enw dyn 31 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad Ironman yn Abertawe wedi cael ei gyhoeddi gan grwner.

Bu farw Sam Buchan, oedd o'r Alban, wedi'r ras triathlon ar 13 Gorffennaf, ar ôl iddo dderbyn gofal meddygol hanner ffordd trwy'r rhan nofio.

Cafodd yr athletwr ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw rhai dyddiau'n ddiweddarach.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd trefnwyr y ras bod eu "cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau'r athletwr".

Dyma oedd y tro cyntaf i ddigwyddiad o Gyfres Broffesiynol Ironman gael ei gynnal yn y DU.

Roedd yn cynnwys nofio 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, cwrs beicio 56 milltir o hyd ar hyd ffyrdd y Gŵyr, a ras ar droed 13.1 milltir ar hyd y Mwmbwls.

Pynciau cysylltiedig