Athletwr wedi marw ar ôl cystadlu yn Ironman Abertawe

Cafodd yr athletwr broblemau yn ystod rhan nofio y ras
- Cyhoeddwyd
Mae athletwr wedi marw ar ôl cystadlu yn nigwyddiad triathlon Ironman 70.3 Abertawe penwythnos diwethaf, yn ôl y trefnwyr.
Mewn datganiad, dywedodd Ironman Cymru fod yr athletwr wedi cael gofal meddygol ar unwaith hanner ffordd drwy ran nofio'r ras ddydd Sul 13 Gorffennaf, ar ôl i swyddogion diogelwch sylwi fod yr athletwr mewn trafferth.
Cafodd yr athletwr ei gludo wedyn i'r ysbyty gan barhau i gael triniaeth bellach, ond bu farw ddydd Mercher.
Yn y datganiad dywedodd y sefydliad bod eu "cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau'r athletwr".
"Byddwn yn parhau i gynnig ein cefnogaeth iddyn nhw gan eu cadw yn ein meddyliau wrth iddyn nhw fynd trwy'r cyfnod heriol hwn" ychwanegodd y datganiad.
Dyma oedd y tro cyntaf i ddigwyddiad o Gyfres Broffesiynol Ironman gael ei gynnal yn y DU.
Roedd yn cynnwys nofio 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, cwrs beicio 56 milltir o hyd ar hyd ffyrdd arfordirol a chefn gwlad y Gŵyr, a ras ar droed 13.1 milltir ar hyd y Mwmbwls.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.