Nathan James Dearden yn ennill Tlws y Cyfansoddwr
![Nathan James Dearden](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/6e21/live/db7a58e0-57aa-11ef-8478-bbf86831c097.jpg)
Daw Nathan James Dearden o Donyrefail yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Nathan James Dearden sydd wedi ennill Tlws y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Cyflwynir y Tlws i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr, gan ddefnyddio delweddau o Rondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.
Roedd trefn y gystadleuaeth yn wahanol eleni, gyda'r beirniaid wedi llunio rhestr fer o dri chyfansoddwr o'r 37 ymgeisiodd ar gyfer y wobr.
Y tri hynny oedd Tomos Williams o Aberystwyth, Lowri Mair Jones o Bontypridd, a Nathan James Dearden o Donyrefail.
Fe fuon nhw yna yn cydweithio gyda John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru i greu cyfansoddiadau newydd.
Bu'r tri yn ymarfer gyda cherddorion proffesiynol, ac fe berfformiwyd y darnau a gyfansoddwyd ganddynt ar lwyfan y Pafiliwn fel rhan o'r seremoni.
![Lowri Mair Jones a Tomos Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1800/cpsprodpb/47b8/live/fa35e250-5745-11ef-9e29-df2f4a679521.png)
Lowri Mair Jones a Tomos Williams oedd y ddau gyfansoddwr arall ar y rhestr fer
Pwy ydy Nathan James Dearden?
Mae Nathan James Dearden o Donyrefail yn Rhondda Cynon Taf yn gyfansoddwr, arweinydd ac addysgwr.
Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei berfformio a'i gynnwys gan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw Ewrop ac mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y Deyrnas Unedig a thramor.
Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, arweinydd y Consort Lleisiau Newydd a chadeirydd Cyngor Cymru a Mentor gydag Academi Ivor.
Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill mae lleoliad Passion, sy'n cyfuno côr, ensemble siambr ac adrodd straeon digidol ymdrechol mewn partneriaeth â Chôr Royal Holloway.
![John Rea](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1800/cpsprodpb/1246/live/10c4a1f0-57af-11ef-b8c8-7199c1f5e15c.png)
John Rea fu'n traddodi'r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Cyflwynir y wobr o £750 gan John a Janice Samuel, Sidcup, Sir Caint, er cof am rieni John - David Hopkin a Gwenllian Samuel, Abernant, Aberdâr.