Cyhuddo dyn o geisio herwgipio mewn parc poblogaidd yng Nghaerdydd

Parc Fictoria, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Fictoria yn Nhreganna ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio herwgipio wedi i blismyn gael eu galw i barc yng Nghaerdydd.

Ychydig cyn 12:00 ddydd Iau, 3 Gorffennaf, aeth swyddogion o Heddlu'r De i Barc Fictoria wedi nifer o alwadau pryderus am ymddygiad dyn yn yr ardal sblasio i blant.

Mae'r dyn 34 oed, Moynul Janu, sydd heb gartref sefydlog, wedi cael ei gadw'n y ddalfa.

Mae Mr Janu wedi'i gyhuddo o ddwy drosedd yn ymwneud â herwgipio a dwy drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Dywedodd yr heddlu fod rhai pobl yn poeni fod dyn wedi bod yn tynnu lluniau neu'n recordio plant - ond ychwanegon nhw nad oedd gan Mr Janu unrhyw ddyfeisiadau o'r fath pan gafodd ei archwilio gan swyddogion.

Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad neu wedi gweld rhywbeth amheus i gysylltu gyda nhw.