Enwi tad a mab o Gymru fu farw ar ôl boddi yn Awstralia

- Cyhoeddwyd
Mae enwau tad a mab o Gymru fu farw ar ôl boddi ger y Great Barrier Reef yn Awstralia wedi eu cyhoeddi.
Cafodd Robin Reed 46, a'i fab Owen, 17, oedd o Sir Caerffili eu llusgo allan i'r môr wrth nofio ar draeth yn nhref Seventeen Seventy, Queensland, lle nad oedd achubwyr bywyd yn bresennol ar 13 Ebrill.
Cafodd y ddau eu tynnu allan o'r dŵr gan hofrennydd achub yr heddlu, ond bu farw'r tad a'r mab yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth Treowen Stars FC, sydd wedi ei leoli ger Trecelyn yng Nghaerffili, gyhoeddi teyrnged ar Facebook: "Roedd Robin yn ffrind da i nifer yn Nhreowen a byddwn yn ei golli'n fawr."
Dywed y datganiad: "Newyddion trist, trist iawn am Robin Reed a'i fab Owen.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau Robin ac Owen."
'Cymuned mewn sioc'
Dywedodd llefarydd ar ran Llys y Goron Queensland fod y marwolaethau wedi cael eu hadrodd iddyn nhw.
"Gan fod ymchwiliadau'r crwner i'r marwolaethau newydd ddechrau, nid oes modd rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd."
Mewn datganiad dywedodd Cynghorydd Crymlyn, Carl Thomas: "Mae'r gymuned gyfan wedi cael sioc o glywed y newyddion trasig.
"Roeddwn yn ddigon ffodus i nabod sawl aelod o'r teulu sydd yn drist iawn yn ystod y cyfnod hwn dwi'n siŵr.
"Ar ran fy nheulu a'r gymuned gyfan hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i'r teulu gan barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn."