Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gylchfan ger yr A55

Cylchfan Black CatFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y cylchfan Black Cat yng Nghyffordd Llandudno, meddai'r heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghyffordd Llandudno.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad rhwng beic modur Suzuki gwyn a glas a Range Rover Sport du ar y cylchfan Black Cat ar yr A547, ger yr A55, am 11:30 bore Sadwrn.

Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle ac mae'r ffordd yn parhau ar gau wrth i'r llu gynnal eu hymchwiliadau.

Dywedodd Sarjant Alun Jones o'r Uned Troseddau Ffyrdd: "Rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i'r teulu yn yr amser anodd hwn.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a stopiodd i gynorthwyo yn y fan a'r lle, gan gynnwys llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad oedd ar ddyletswydd.

"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio neu'n cerdded yn y cyffiniau ac a allai fod â lluniau ffôn symudol neu dashcam i gysylltu â ni.

"Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd i ganiatáu i'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymchwiliad cychwynnol, a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig