Dyn wedi marw ar ôl achos o drywanu yng Nghaerdydd

Cafodd yr heddlu eu galw i Richards Terrace yn ardal Y Rhath brynhawn Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn 68 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu ar Richards Terrace yn ardal Y Rhath tua 17:50 ddydd Mercher.
Fe gafodd y dyn 68 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond bu farw yno.
Dywedodd Heddlu'r De bod dyn 40 oed wedi cael ei arestio yn y fan a'r lle, a'i fod bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a'i gadw dan y ddeddf iechyd meddwl.
Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.