'Mwy na chlwb rygbi': Clwb Bethesda yn dathlu'r 50

Hen lun o chwaraewyr y clwb o'r cyfnod tua 1976/77Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Clwb Rygbi Bethesda ei sefydlu yn 1974

  • Cyhoeddwyd

Bydd dathliadau yn nhref Bethesda ddydd Sadwrn, wrth i'r clwb rygbi nodi hanner canrif ers ei ffurfio.

Mae'n ddathliad pwysig iawn i'r gymuned gyfan gan ei fod yn "llawer mwy na chlwb rygbi, ond yn glwb cymunedol", yn ôl y cyfarwyddwr Iain Buchanan.

I nodi'r achlysur, mae gêm arbennig wedi ei threfnu rhwng Bethesda a Thîm Academi Rygbi Gogledd Cymru XV, gyda'r gic gyntaf am 14:30 ddydd Sadwrn.

Bydd y diwrnod yn gasgliad o ddigwyddiadau gwahanol, gyda gwahoddiad i holl gyn-chwaraewyr y clwb ddod draw er mwyn hel atgofion.

Fe fydd y dathliadau'n parhau yn hwyr i'r nos hefyd, gyda band Hogia'r Bonc yn chwarae, ac mae'r trefnwyr yn dweud fod gwahoddiad i bawb.

Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr yn gobeithio croesawu rhwng 500 a 600 o bobl i'r dathliadau ddydd Sadwrn

Roedd Robert Eifion Davies, neu Spud i'w ffrindiau, yn rhan o'r gêm gyntaf erioed yn 1974.

"Cafodd y clwb ei sefydlu gan bedwar neu bump o ddynion doeth, a dwi'n cofio chwara' yn y gêm gyntaf yn erbyn Clwb Rygbi Cymry Caerdydd," meddai.

"Ar gae'r ysgol oedden ni'n chwara' bryd hynny, ac ma' nhw'n deud fod Dewi Pws yn chwara' yn y gêm honno, ond dwi ddim yn ei gofio.

"Oeddan ni driphwynt ar y blaen, a dwi'n cofio meddwl bod rhywbeth yn gorfod mynd yn rong!

"Tua 45-3 oedd y sgôr erbyn y diwedd, ond ers y gêm honno 'dna ni erioed wedi sbïo'n ôl fel clwb."

Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r tîm presennol, gydag Andrew Williams yr ail o'r chwith

Un arall sy'n edrych ymlaen at y diwrnod mawr ydy prif hyfforddwr tîm Bethesda, Andrew Williams.

Ag yntau'n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau i Rygbi Gogledd Cymru - dros 200 - cyn iddo ymddeol dwy flynedd yn ôl, dyw Andrew methu aros i wynebu ei hen dîm.

"Ma'n fraint enfawr i fi'n bersonol - nes i dreulio bron i 10 mlynedd yn chwarae i RGC, ac wedi bod yn lwcus i 'neud nifer helaeth o ymddangosiada'," meddai.

"Ma' wynebu nhw fel hyfforddwr yn rhywbeth reit sbesial, ond fydd o'n rhywbeth reit rhyfedd wynebu rhai o'n hen gyd-chwaraewyr fel hyfforddwr!

"Dwi'n ddiolchgar iawn i Bethesda, fel hogyn o Gaernarfon.

"Nhw roddodd y cyfle i fi hyfforddi, a ma' nhw wedi cefnogi fy mhenderfyniada' i."

Pynciau cysylltiedig