Coleg Ceredigion yn gwadu bygythiad i ddau gampws yn sgil prynu fferm

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu fferm gwerth tua £1.8m ger Prifysgol Llanbed fel rhan o gynllun i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 ar gampws y Brifysgol.
- Cyhoeddwyd
Mae Coleg Ceredigion wedi gwadu adroddiadau bod yna fygythiad i ddyfodol y ddau gampws yn Aberteifi ac Aberystwyth.
Fe ddaw'r datganiad, dolen allanol ar eu gwefan yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i brynu fferm ger safle'r brifysgol yn Llanbed am £1.8m.
Mae'r awdurdod wedi prynu'r fferm fel rhan o gynllun i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 ar gampws y brifysgol, ble mae dysgu israddedig wedi dod i ben.
Ymhlith y cynlluniau newydd sydd wedi eu cyhoeddi, bydd cyrsiau amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu yn cael eu cynnig ar y campws.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae Coleg Ceredigion, ynghyd â Choleg Sir Gar yn perthyn i'r un grŵp a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd yn rhedeg campws Llanbed ar hyn o bryd.
Mae Coleg Ceredigion yn cynnig nifer o gyrsiau galwedigaethol ar y campws yn Aberteifi.
Mae'r safle yn cynnig cyrsiau gwaith saer, adeiladu, cynnal a chadw moduron, harddwch ac arlwyo.
'Dim cynlluniau i gau'
Yn Aberystwyth, mae'r coleg yn cynnig cyrsiau gofal anifeiliaid, iechyd, arlwyo, celf a pherfformio.
Mewn datganiad ar ei gwefan, mae Coleg Sir Gar/Coleg Ceredigion wedi dweud bod erthygl ddiweddar yn y wasg, sydd yn honni bod yna fwriad i gau'r ddau gampws, yn "anghywir".
Yn ôl y sefydliad "does dim cynlluniau i gau unrhyw un o'r campysau yng Ngheredigion, a thynnu addysg ôl-16 o Aberystwyth ac Aberteifi".
Mewn datganiad diweddarach dywedodd y coleg fod "trafodaethau yn parhau rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ganolbwyntio ar ystod o gyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol".
"Mae'n debygol y bydd mwy o fanylion am y cyfleon posib yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
"Does dim cynigion na chynlluniau ar hyn o bryd i gael gwared ar addysg ôl-16 o Aberystwyth nac Aberteifi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.