Prynu fferm ger Prifysgol Llanbed i gefnogi cyrsiau galwedigaethol

Llun o campws Prifysgol Llambed ochr yn ochr â llun o ffermdy Llettytwppa.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau eu bod wedi prynu fferm sy'n ffinio â champws Prifysgol Llanbed

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu fferm gwerth tua £1.8m ger Prifysgol Llanbed fel rhan o gynllun i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 ar gampws y Brifysgol.

Ymhlith y cynlluniau newydd sydd wedi eu cyhoeddi, bydd cyrsiau amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu yn cael eu cynnig ar y campws.

Dywedodd y Cyngor a'r Brifysgol y bydd y cyrsiau galwedigaethol yn seiliedig ar sgiliau sy'n 'hanfodol' i economi wledig Cymru.

Benthyciad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi galluogi'r Cyngor Sir i brynu'r fferm, adnodd 'hynod o bwysig' yn ôl eu harweinydd.

Llun o arwydd fferm Llettytwppa
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl gwefan cwmni gwerthu eiddo, roedd y fferm ar werth am dros £1.8m

Fis Ionawr, cyhoeddodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y byddai 200 mlynedd o addysgu israddedig yn dod i ben yn Llanbedr Pont Steffan.

Doedd cynnal seilwaith campws y brifysgol "ddim yn gynaliadwy", medden nhw, gyda dim ond 92 o fyfyrwyr israddedig.

Bu protestio yn y dref ac yn y Senedd, gyda chyrsiau'r dyniaethau'n cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin ym mis Medi 2025.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu yn bod yn edrych ar gynlluniau i ddatblygu cyfleuster hyfforddiant galwedigaethol ar gampws y brifysgol yn Llanbed.

Llun o Bryan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd prynu fferm Llettytwppa yn hanfodol i gefnogi'r cyrsiau amaethyddol a garddwriaethol yn ôl Bryan Davies

Ar y pryd, ni chafwyd manylion ynghylch pa fath o hyfforddiant fyddai'n cael ei gynnig ar y safle, gyda'r camau i ganfod cyfleoedd yn rhai "cynnar iawn'", yn ôl y cyngor a'r brifysgol.

Erbyn hyn, mae cyrsiau amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer dyfodol y campws.

Fe gadarnhaodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Bryan Davies, eu bod wedi prynu fferm 150 erw hefyd fel datblygiad cysylltiedig - fferm sy'n ffinio â champws y Brifysgol.

Yn ôl yr arweinydd, roedd pryniant fferm Llettytwppa yn hanfodol i gefnogi'r cyrsiau amaethyddol a garddwriaethol, cyrsiau ôl-16 sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd o fewn y sir wledig, meddai.

"Yng Ngheredigion, y prif ddiwydiant sydd gyda ni yw amaeth a thwristiaeth felly mae'n hynod, hynod bwysig ein bod ni'n bwrw ymlaen gyda hwn.

"Dwi'n gwybod o brofiad personol ein bod ni'n colli lot o bobl ifanc, nid yn unig i siroedd arall, ond tu draw i'r ffîn hefyd.

"Mae hwnna'n effeithio'r ethos a'r economi leol" meddai.

Ychwanegodd, "os allwn ni gynnal y cyrsiau hyn, nid yn unig ydyn ni'n cadw pobl ifanc, ni'n mynd i ddenu pobl ifanc o ardaloedd arall" ond hefyd yn helpu crefftwyr yr ardal i "gael yr hyfforddiant perthnasol, er mwyn cadw'r busnesau yna i fynd."

Nid oedd y Cyngor yn barod i ddatgelu faint wnaethon nhw dalu am y fferm, ond yn ôl gwefan cwmni gwerthu eiddo, roedd y fferm, sydd tua hanner milltir o ganol y dref, ar werth am dros £1.8m.

'Cynnig cyfleoedd, nid cystadlu'

Yn ôl yr arweinydd, benthyciad gan Lywodraeth Cymru wnaeth alluogi'r Cyngor Sir i brynu'r eiddo.

"Beth ni'n gallu cael mas ohono fe? hwnna yw'r peth pwysig" meddai, "gyda'r cyswllt a'r lleoliad mor agos i'r campws."

Er bod colegau mewn siroedd eraill yn cynnig cyrsiau amaethyddiaeth ôl-16, cynnig cyfleoedd ac nid cystadlu yw'r nod yn ôl yr arweinydd.

"Gallwn ni gyfeirio at Gelli Aur sydd hefyd o dan faner y Drindod Dewi Sant" meddai, "so ni moin damsgen ar ben traed y sefydliad hynny o gwbl felly bydd yn rhaid i ni gynnig rhywbeth gwahanol- gwartheg, defaid, moch, beth bynnag".

Mae yna fwriad hefyd i ddarparu cyrsiau galwedigaethol eraill a rhaglenni sy'n seiliedig ar sgiliau dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y Cyngor yn ystyried y posibiliadau ynghylch darparu cyfleusterau cymunedol ychwanegol hefyd ar y safle.

Maen nhw'n glir, serch hynny, na fydd Safon Uwch yn cael eu darparu ar y campws, ac felly ni fydd y campws yn cystadlu â'r ddarpariaeth academaidd a gynigir yn chweched dosbarth ysgolion y sir ychwaith.

Llun o Emlyn Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna "barch aruthrol" tuag at y campws a'r Brifysgol meddai Emlyn Doyle

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Emlyn Dole, bod dymuniadau triphlyg - y Cyngor, y Brifysgol a'r gymuned yn eistedd ochr yn ochr â'i gilydd, a'u bod i gyd yn awyddus i weld y cynlluniau'n cael eu gweithredu "cyn gynted ag y bo modd".

"Ni'n hollol ymwybodol o arwyddocad y campws yma a'r Brifysgol yng nghyd-destun addysg uwch yng Nghymru, yr elfen hanesyddol, ac mae yna barch aruthrol i hynny" meddai.

"Ond hefyd y sylweddoliad yna o'r economi leol, ein cefnogaeth ni i'r dref a'r economi wledig, ac fel mae hynny yn gweithio yng nghyd destun y campws a'r addysg sy'n cael ac fydd yn cael ei barhau i ddysgu yma.

"Mae hynny yn wirioneddol gynhyrfus i ni fel Prifysgol" meddai.

Yn ôl y Brifysgol, bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf i drafod y cynlluniau ac i ystyried sut y maen nhw'n cyd-fynd â'r syniadau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a'r Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol gafodd ei gynnal gan y Brifysgol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig