Tywysoges Cymru yn gwella ond 'ddim allan ohoni eto'

Catherine, Tywysoges CymruFfynhonnell y llun, Matt Porteous
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Dywysoges ei bod yn cael dyddiau da a drwg wrth i'w thriniaeth cemotherapi barhau

  • Cyhoeddwyd

Mae Catherine, Tywysoges Cymru yn dweud ei bod yn "dod ymlaen yn dda" mewn neges bersonol ynghylch ei hiechyd, a bydd yn cymryd rhan yn ei digwyddiad cyhoeddus cyntaf ers ei diagnosis canser ddydd Sadwrn.

Fe ychwanegodd mewn datganiad o Balas Kensington y bydd ei thriniaeth cemotherapi yn parhau am ychydig fisoedd.

"Dydw i ddim allan ohoni eto," meddai, "fel y gwyddai unrhyw un sy'n mynd trwy gemotherapi, mae yna ddyddiau da a dyddiau drwg".

Fe fydd yn bresennol yn seremoni flynyddol cyflwyno'r faner (Trooping the Colour) - sydd hefyd yn nodi pen-blwydd swyddogol y Brenin - yn Llundain.

Dywed y Dywysoges ei bod yn gobeithio mynychu rhai digwyddiadau dros yr haf a'i bod wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith o adref.

Yn ystod seremoni ddydd Sadwrn, fe fydd yn rhan o orymdaith mewn gyda'i phlant, ac fe fydd hefyd yn ymuno â'r teulu i gyfarch y dorf o falconi Palas Buckingham.

Yn ôl llefarydd ar ran y Brenin Charles, mae'r Brenin "wrth fy modd y bydd y dywysoges yn gallu dod i'r digwyddiad".

Cafodd llun newydd o'r dywysoges, a gafodd ei dynnu yn Windsor, ei ryddhau gyda'r datganiad.

Dyma'r diweddariad swyddogol cyntaf ynghylch ei chyflwr ers iddi recordio fideo ym mis Mawrth yn trafod ei diagnosis.

Pynciau cysylltiedig