Etholiad 2024: Y seddi i'w gwylio

David TC Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae sedd David TC Davies yn Sir Fynwy yn un o feysydd y gad allweddol

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ledled y wlad wedi bod yn bwrw eu pleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol 2024 ddydd Iau.

Ond mewn rhai ardaloedd fe fydd y frwydr am bleidleisiau yn ffyrnicach na mewn mannau eraill.

Mae pleidiau'n canolbwyntio eu hymdrechion ar ardaloedd lle maen nhw'n meddwl y gallan nhw ennill, gan osgoi gwastraffu arian ar gymunedau lle nad oes ganddyn nhw fawr o obaith.

O'r 32 sedd yng Nghymru, mae tua 10 neu 11 o rai allweddol.

Nid yw'n golygu na fydd cynhyrfu mewn mannau eraill, ond dyma'r llefydd y byddwn yn cadw llygad barcud arnynt.

Ysgrifennydd Cymru: 'Roedd pobl eisiau newid'

Os aiff y noson yn wael i'r Ceidwadwyr, fe allai ysgrifennydd presennol Cymru, David TC Davies a thri chyn-ysgrifennydd Cymru wynebu colli eu seddi.

Ar sail arolwg ymadael a gafodd ei gynnal gan Ipos, gan gyfweld â dros 20,000 o bobl mewn 133 o orsafoedd pleidleisio ledled Prydain, mae’r BBC, ITN a Sky News yn rhagweld mai canlyniad yr etholiad cyffredinol fydd mwyafrif ysgubol i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 170 o seddi.

Nos Iau, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wrth BBC Cymru na fydd yn y Senedd ar ddiwedd noson yr etholiad.

“Ar sail yr arolwg ymadael, does dim siawns y byddwn ni’n ennill, sy’n siomedig.

"Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan y gymdeithas leol, ond y ffaith yw, roedd pobl eisiau newid.

Ar y llaw arall, fe allai noson wael i Lafur weld y blaid yn stryffaglu i adennill y tir y gwnaethon nhw golli i’r Torïaid yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn gobeithio dal eu gafael - a symud ymlaen - yng ngorllewin a gogledd Cymru.

Gogledd

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ieuan Môn Williams (Llafur), Virginia Crosbie (Ceidwadwyr), a Llinos Medi (Plaid Cymru) yn brwydro dros Ynys Môn

Aeth Gogledd Cymru o goch i las yn bennaf yn 2019, ond mae 'na dipyn o wyrdd Plaid Cymru ar waith hefyd.

Mae Ynys Môn yn frwydr dair ffordd wirioneddol rhwng y Ceidwadwr Virginia Crosbie, sydd wedi bod yn ymgyrchu’n galed ar ei record ar Wylfa; arweinydd Plaid Cymru y cyngor lleol Llinos Medi; a Ieuan Môn Williams sy'n gobeithio cipio sedd a gollwyd gan Lafur bum mlynedd yn ôl. Mae’r sedd yn un o dargedau mawr Plaid Cymru.

Gallai Dwyrain Clwyd fod yn faes brwydr go iawn gyda phleidlais Dorïaidd a allai fod yn deyrngar a materion yn ymwneud â chasglu biniau ar gyfer cyngor Llafur Sir Ddinbych, tra bod Llafur yn ymladd i adennill Wrecsam ac ennill sedd newydd Bangor Aberconwy.

De

Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yn un o ychydig o weinidogion cabinet sy'n ymladd i achub eu seddi, yn Sir Fynwy.

Mae Catherine Fookes o'r Blaid Lafur - a gafodd hwb gan ymweliad gan Syr Keir Starmer yn gynharach yn yr ymgyrch - yn gweithio'n galed i'w chipio.

Yn y cyfamser fe allai cyn-Ysgrifennydd Cymru fod dan fygythiad ym Mro Morgannwg, lle mae Alun Cairns yn wynebu Kanishka Narayan o'r blaid Lafur.

Mae polau piniwn wedi awgrymu y gallai Pen-y-bont newid yn ôl i Lafur. Yn y cyfamser, a allai Reform weld eu perfformiad gorau yng Nghymru mewn seddi fel Blaenau Gwent a Rhymni, lle perfformiodd plaid Brexit yn dda yn 2019?

Dewiswch opsiwn isod i ddechrau

Agor mewn tab newyddSee this guide in English

(Gweld y canllaw hwn yn Saesneg)

Os na allwch weld yr elfen ryngweithiol, adnewyddwch eich tudalen.

Beth mae'r pleidiau yn ei addo?

Darllenwch beth mae pleidiau gwleidyddol y DU yn ei addo yn yr etholiad hwn drwy ddewis opsiwn isod.

England

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Scotland

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Llafur Cymru

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Vaughan Gething

Blaenoriaethau allweddol
  • Rhoi hwb i dwf economaidd i sicrhau’r twf parhaus uchaf yn y G7 – gyda swyddi da a thwf cynhyrchiant ym mhob rhan o’r wlad
  • Adeiladu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol sydd yno pan fydd pobl ei angen, lle mae pawb yn byw'n dda yn hirach
  • Gwneud Prydain yn bwerdy ynni glân i dorri biliau, creu swyddi a chynnig diogelwch gyda thrydan rhad, di-garbon erbyn 2030
  • Creu Canolfan Diogelwch y Ffin gyda phwerau gwrthderfysgaeth i fynd i’r afael â smyglo pobl a gangiau masnachu pobl
  • Hanneri tor-cyfraith treisiol difrifiol a chodi hyder cyhoeddus yn y system gyfiawnder a phlismona i'w lefel uchaf
Economi
  • Sicrhau sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau clir ar drethi a pholisïau gwariant a goruchwyliaeth fwy annibynnol
  • Capio treth gorfforaeth ar 25%, disodli’r system ardrethi busnes a chyhoeddi map trywydd sy’n amlinellu trethi busnes y dyfodol
  • Sefydlu Great British Energy a Chronfa Gyfoeth Genedlaethol i fuddsoddi mewn diwydiannau ynni glân a chreu 650,000 o swyddi
  • Gwahardd contractau dim oriau sy’n "ecsbloetio"; rhoi’r gorau i ddiswyddo ac ail-gyflogi; a chyflwyno hawliau sylfaenol o'r diwrnod cyntaf o ran absenoldeb rhiant, tâl salwch ac amddiffyniad rhag diswyddiadau annheg
  • Cryfhau llais gweithwyr ar y cyd, gan gynnwys drwy undebau llafur
  • Llunio strategaeth ddiwydiannol sy’n canolbwyntio ar gryfderau’r DU a sefydlu Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol gyda chynrychiolwyr o’r holl genhedloedd a’r rhanbarthau, busnes ac undebau llafur
Costau byw
  • Addo i beidio â chynyddu treth incwm, Yswiriant Gwladol neu TAW yn ystod y senedd nesaf
  • Torri biliau ynni drwy sefydlu Great British Energy, cwmni ynni ym mherchnogaeth y cyhoedd
  • Torri biliau ynni gyda Chynllun Cartrefi Cynnes Cenedlaethol i uwchraddio pum miliwn o gartrefi mewn pum mlynedd
  • Troi’r isafswm cyflog yn gyflog byw gwirioneddol sy’n rhoi ystyriaeth i gostau byw a gwella’r broses o’i orfodi
  • Gwahardd contractau dim oriau a’r arfer o ddiswyddo ac ail-gyflogi, a rhoi mwy o hawliau i weithwyr o’r diwrnod cyntaf yn y swydd
  • Diogelu clo triphlyg pensiwn y wladwriaeth fel ei fod yn codi’n unol â chwyddiant, cyflogau neu 2.5% - pa bynnag un sydd uchaf
GIG a gofal
  • Gweithio gyda llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros y GIG yng Nghymru
  • Sicrhau na all y genhedlaeth nesaf byth brynu sigaréts yn gyfreithlon
  • Gwahardd hysbysebu bwyd sothach i blant
  • Adeiladu ar y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ac archwilio mesurau pellach i gadw pawb yn ddiogel ar-lein
  • Diwygio rheoleiddio gamblo, cryfhau amddiffyniadau a pharhau i weithio gyda'r diwydiant ar sut i sicrhau gamblo cyfrifol
  • Rhoi mwy o bwerau i grwneriaid gael mynediad at wybodaeth sy’n cael ei chadw gan gwmnïau technoleg ar ôl marwolaeth plentyn
Mewnfudo
  • Creu Canolfan Diogelwch y Ffin gyda phwerau gwrthderfysgaeth i fynd i’r afael â smyglo pobl a gangiau masnachu pobl
  • Canslo hediadau ceiswyr lloches i Rwanda a chyflogi mwy o arolygwyr a swyddogion ffin i glirio’r ôl-groniad lloches
  • Sefydlu uned ddychwelyd 1,000 person i symud ceiswyr lloches aflwyddiannus yn gynt
  • Diwygio'r system fewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau a gwahardd cyflogwyr sy'n torri cyfreithiau cyflogaeth wrth gyflogi gweithwyr o dramor
  • Lleihau mewnfudo net drwy gyflwyno cynlluniau gweithlu a hyfforddiant mewn sectorau fel iechyd ac adeiladu i roi’r gorau ar y ddibyniaeth hirdymor ar weithwyr o dramor
  • Diwygio llwybrau adsefydlu a helpu ffoaduriaid yn eu rhanbarthau cartref
Tai
  • Cefnogi cartrefi cynhesach i leihau tlodi tanwydd
  • Dod â’r system lesddaliadau i ben, gan ddeddfu cynlluniau Comisiwn y Gyfraith ar ryddfreinio lesddaliadau, yr hawl i reoli a chyfunddaliadau
  • Cymryd camau pellach i wahardd fflatiau lesddaliad newydd a sicrhau mai cyfunddaliadau yw’r ddeiliadaeth arferol
  • Mynd i'r afael â thaliadau rhent tir anfforddiadwy nad ydynt yn cael eu rheoleiddio
  • Rhoi’r gorau i ystadau tai preifat ‘fleecehold’ a chostau cynnal a chadw annheg
Amgylchedd
  • Sefydlu Great British Energy a buddsoddi mewn ynni glân - bron i holl drydan y DU i ddod o ffynonellau glân erbyn 2030
  • Uwchraddio’r Grid Cenedlaethol a diwygio’r system gynllunio i gyflymu prosiectau ynni glân
  • Sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd uniongyrchol o gynnal seilwaith ynni glân
  • Gwrthod rhoi trwyddedau i archwilio meysydd olew a nwy newydd ym Môr y Gogledd neu drwyddedau glo newydd, tra'n parhau â thrwyddedau sy'n bodoli eisoes
  • Rhoi'r gorau i werthu cerbydau petrol a diesel newydd erbyn 2030 a chyflymu'r broses o gyflwyno mannau gwefru i gerbydau trydan
  • Gwneud i gwmnïau dŵr sy'n llygru lanhau afonydd a moroedd a rhoi pwerau i'r rheoleiddiwr rwystro taliadau bonws ar gyfer penaethiaid cwmnïau
Addysg
  • Hybu sgiliau drwy droi’r ardoll brentisiaethau yn ardoll sgiliau a hyfforddiant
  • Rhoi terfyn ar doriadau treth i ysgolion preifat er mwyn buddsoddi yn ein hysgolion gwladol
  • Gweithredu i greu dyfodol diogel i addysg uwch a’r cyfleoedd y mae’n eu creu ledled y DU
  • Gweithio gyda phrifysgolion i gyflawni ar gyfer myfyrwyr a’n heconomi
Tramor ac amddiffyn
  • Parhau i ymrwymo i Nato ac arf ataliol niwclear y DU
  • Cynnal arolwg llawn o gyflwr y lluoedd arfog o fewn y flwyddyn gyntaf ac amlinellu llwybr i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o'r incwm cenedlaethol
  • Gwella llety i’r rhai sy’n gwasanaethu a sefydlu comisiynydd lluoedd arfog i wella bywyd i’r rhai sy’n gwasanaethu
  • Ceisio cael cytundeb diogelwch newydd rhwng y DU a’r UE a gwella perthnasoedd masnachu gyda’r bloc, tra’n aros y tu allan i’r undeb tollau a’r farchnad sengl
  • Rhoi’r cymorth sydd ei angen ar Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia
  • Pwyso am gadoediad yn Gaza ar unwaith a rhyddhau pob gwystl, cymorth heb ataliad i Gaza, a gwthio am gydnabyddiaeth swyddogol i Balesteina fel rhan o broses heddwch dwy-wladwriaeth
Trosedd a chyfiawnder
  • Rhoi 13,000 yn fwy o heddlu yn y gymdogaeth a swyddogion cymorth cymunedol ar y bît yng Nghymru a Lloegr
  • Adeiladu lleoedd carchar newydd er mwyn rhoi'r gorau i ryddhau'n gynnar oherwydd gorlenwi a gwella'r cydlynu rhwng gwasanaethau i dorri cyfraddau aildroseddu
  • Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda Gorchmynion Parch newydd - pwerau i wahardd oedolion sy'n troseddu'n gyson o ganol trefi
  • Rhoi unedau treisio arbennig ym mhob heddlu a chyflymu achosion o dreisio drwy'r llysoedd arbenigol
  • Mynd i’r afael â gangiau sy’n dwyn o siopau drwy ganiatáu i’r heddlu ymchwilio i achosion o ddwyn o dan £200
  • Mynd i’r afael â throseddau cyllyll, gan gynnwys dedfrydau llymach am werthu a meddu ar machetes, cyllyll zombie a chleddyfau
Trafnidiaeth
  • Sefydlu Great British Railways i wladoli rheilffyrdd i deithwyr wrth i gontractau cwmnïau preifat ddirwyn i ben
  • Creu swyddfa graffu newydd ar ran teithwyr er mwyn codi safonau
Democratiaeth
  • Rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU
  • Sefydlu Comisiwn Moeseg ac Uniondeb annibynnol newydd fel bod gweinidogion y llywodraeth yn atebol i'r safonau uchaf
  • Moderneiddio Tŷ’r Cyffredin a gwahardd Aelodau Seneddol rhag cymryd ail swyddi sy'n eu hatal rhag gweithio ar ran eu etholaethau
  • Tynnu arglwyddi etifeddol o Dŷ’r Arglwyddi a diwygio’r broses benodi, gan geisio gwella ei gydbwysedd cenedlaethol a rhanbarthol
  • Ymgynghori ar gynlluniau i ddisodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr amgen, sy’n fwy cynrychioliadol o’r rhanbarthau a’r cenhedloedd
  • Ailosod perthynas llywodraeth y DU â llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Y Ceidwadwyr Cymreig

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Andrew RT Davies

Blaenoriaethau allweddol
  • £1biliwn i drydaneiddio prif linell gogledd Cymru
  • Dod â phŵer niwclear i ogledd Cymru
  • Cyflwyno rhaglen Gwasanaeth Cenedlaethol
  • Darparu o leiaf £1 biliwn o gyllid ffyniant bro parhaus i gymunedau yng Nghymru
  • Angen caniatâd lleol ar gyfer parthau 20mya a rhoi'r hawl gyfreithiol i gymunedau lleol herio parthau sy'n bodoli'n barod
  • Torri Yswiriant Gwladol o 2c arall a dileu prif gyfradd Yswiriant Gwladol hunan-gyflogedig gyda'r uchelgais o ddod â'r dreth ddwbl i ben ar waith pan fydd amodau ariannol yn caniatáu hynny
Economi
  • Tynnu 2c ychwanegol oddi ar Yswiriant Gwladol cyflogai, ei haneru o 12% ddechrau eleni i 6% erbyn Ebrill 2027
  • Dileu prif gyfradd Yswiriant Gwladol hunangyflogedig yn gyfan gwbl erbyn 2029, gyda’r uchelgais o ddod â’r dreth ddwbl i ben ar waith pan fydd amodau ariannol yn caniatáu
  • Diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach - Cymru sydd â’r rhai uchaf ym Mhrydain – a chefnogi entrepreneuriaid ifanc i sefydlu busnes
  • Galluogi busnesau micro i dyfu gyda ‘Chynllun Sbarduno’ gan dalu Yswiriant Gwladol i’r cyflogwr am ddau weithiwr am ddwy flynedd
  • Cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd dros gyfnod nesaf y Senedd, a chreu Cynllun ‘Kickstarter’ i Fusnesau Lleol i gefnogi busnesau sy’n dechrau arni
  • Mynd i’r afael â chyfradd uchel o anweithgarwch economaidd yng Nghymru drwy greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi
Costau byw
  • Torri treth, gan roi £700 yn ôl ym mhoced y gweithiwr cyffredin yng Nghymru. Cadw’r cap ar bris ynni, gostwng ardollau biliau ynni a chreu tabl cynghrair o ddarparwyr ynni
  • Cyflwyno’r Clo Triphlyg a Mwy (Triple Lock Plus) fel bod y lwfans personol i bensiynwyr yn cynyddu gydag enillion, prisiau neu 2.5% i sicrhau bod pensiwn y wladwriaeth wastad yn rhydd rhag treth incwm
  • Gostwng y trothwy oedran o 21 am y Cyflog Byw Cenedlaethol o £11.44
  • Darparu 30 awr o ofal plant am ddim i deuluoedd sy’n gweithio gyda phlant rhwng naw mis a phum mlwydd oed yn Lloegr. Bydd llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol i alluogi hynny yng Nghymru
  • Codi cyfraddau budd-daliadau yn unol â chwyddiant
GIG a gofal
  • Gwneud Cyfamod GIG Cymru yn gyfraith er mwyn sicrhau bod arian sy’n mynd i lywodraeth Cymru o wariant iechyd ychwanegol yn Lloegr yn cael ei wario’n llawn ar iechyd yng Nghymru
  • Gweithwyr proffesiynol y GIG i dderbyn y tâl llawn fel yr argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG annibynnol, mynd i’r afael â chamdriniaeth a gwella llesiant staff
  • Gwarantu bod y GIG yn parhau i fod mewn dwylo cyhoeddus ac yn rhad ac am ddim adeg ei ddefnyddio
  • Creu rhaglen o Weithwyr wrth Gefn yn y GIG, sef cyn weithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd i wirfoddoli yn ystod cyfnodau o alw mawr
  • Sefydlu ‘gwestai gofal’ i ryddhau gwelyau mewn ysbytai i gleifion nad ydynt yn gallu mynd adref, ond nad oes angen gofal meddygol arnyn nhw mwyach
  • Cyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd i greu canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24/7, i ffwrdd o’r adran damweiniau ac achosion brys
Mewnfudo
  • Atal pobl sy’n cyrraedd yng anghyfreithlon rhag hawlio lloches yn y DU a chyflawni'r hediadau i Rwanda i rwystro mewnfudo anghyfreithlon
  • Cryfhau gorfodaeth a bod yn llymach ar smyglwyr pobl drwy weithio gyda chynghreiriaid rhyngwladol a rhoi hwb i gyllid yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Cynyddu nifer y swyddogion ar batrôl ar arfordir Ffrainc a gweithio gyda chenhedloedd gogledd Ewrop i darfu ar fasnachwyr pobl
  • Clirio’r ôl-groniad lloches a phrosesu pob hawliad yn y dyfodol o fewn chwe mis i roi'r gorau ar ddefnyddio gwestai ar gyfer mudwyr
  • Capio nifer y fisas ar gyfer mudwyr ar lefel a gymeradwyir yn flynyddol gan Aelodau Seneddol, gyda'r nifer yn gostwng bob blwyddyn yn y Senedd
  • Codi’r lefel enillion isaf ar gyfer fisas gweithiwr medrus neu deulu – a fydd yn cyrraedd £38,700 yn 2025 – yn ôl chwyddiant bob blwyddyn
Tai
  • Creu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n perfformio arafaf, gan gyflymu ceisiadau ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy
  • Datblygu cynllun cymorth i alluogi busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi, tra’n blaenoriaethu busnesau bach a chanolig i adeiladu ar dir cyhoeddus
  • Sefydlu cronfa prentisiaid cynllunio ar gyfer pob awdurdod lleol
  • Cynnal arolygon ar holl dir awdurdodau cyhoeddus i weld pa mor addas ydyw ar gyfer tai
  • Ehangu Cymorth i Brynu i gynnwys cartrefi ail law a'r rhai y mae angen eu hadnewyddu
  • Grymuso awdurdodau lleol i ddefnyddio tai gwag unwaith eto ar gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu
Amgylchedd
  • Treblu capasiti ynni gwynt ar y môr y DU, i ddarparu ynni cartref sy'n isel o ran cost a chefnogi datblygiad clystyrau diwydiannol bywiog mewn llefydd fel Gogledd Ddwyrain Lloegr, yr Alban a Chymru
  • Darparu gorsaf ynni niwclear gigawat newydd yn Wylfa yng ngogledd Cymru
  • Adeiladu’r ddau glwstwr dal a storio carbon cyntaf, wedi’u lleoli ar draws gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a Teesside a Humber, gan dorri carbon a chreu degau o filoedd o swyddi
  • Creu Swyddfa Annibynnol ar gyfer Gwarchod yr Amgylchedd er mwyn i lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill fod yn atebol ar yr amgylchedd
  • Cynyddu’r gyllideb ffermio ar gyfer y DU gyfan £1 biliwn yn ystod y Senedd, gan sicrhau ei bod yn codi yn unol â chwyddiant bob blwyddyn
  • Parhau i glustnodi cyllid amaeth fel ei fod yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gymunedau ffermio a gwledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ochr yn ochr â Chronfa Arloesedd Ffermio newydd gwerth £20m ledled y DU
Addysg
  • Recriwtio mwy o athrawon i leihau maint dosbarthiadau drwy ad-dalu ffioedd dysgu ar gyfer athrawon sydd wedi treulio pum mlynedd yn dysgu yng Nghymru
  • Gwarantu blwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro neu athrawes sydd newydd gymhwyso
  • Creu llinell gymorth i athrawon i leihau trais mewn ysgolion
  • Adfer targedau darllen, ysgrifennu, rhifedd a sgiliau digidol
  • Archwilio cyfleoedd i gyflwyno diwygiadau gan gynnwys ysgolion ac academïau rhydd
Tramor ac amddiffyn
  • Cynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o GDP erbyn 2030 a lansio ymgyrch i bob un o gynghreiriaid Nato wneud yr un peth
  • Cynnal ein cefnogaeth i Wcráin, lle mae £7.6 biliwn o gymorth milwrol wedi’i roi ers 2022
  • Adeiladu chwe llong ryfel newydd o’r radd flaenaf
  • Cryfhau sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y DU drwy roi’r sicrwydd amlflwyddyn er mwyn cynhyrchu’r offer sydd ei angen pan fydd ei angen, gydag o leiaf £10 biliwn o fuddsoddiad mewn cynhyrchu arfau, y bydd y mwyafrif ohono’n cael ei wario yn y DU dros y ddegawd nesaf
  • Cyflymu’r broses o foderneiddio ein lluoedd arfog a buddsoddi mewn technoleg sy’n fanteisiol ar faes y gad modern
  • Cynyddu cyllid Ymchwil a Datblygu i isafswm o 5% o'r gyllideb amddiffyn, ynghyd â 2% ychwanegol i fanteisio ar yr ymchwil a datblygu hwnnw, gan gyflymu buddsoddiadau mewn systemau arfau newydd
Trosedd a chyfiawnder
  • Pasio deddfau newydd llym i sicrhau cyfiawnder, gan gynnwys sicrhau bod y troseddwyr mwyaf difrifol, fel y rhai sy'n lladd plant, yn treulio eu bywydau o dan glo
  • Rhoi swyddog plismona cymunedol newydd ym mhob cymuned ledled Cymru
  • Rhoi pwerau ac offer newydd i swyddogion heddlu ddal troseddwyr, gan gynnwys technoleg fel adnabod wynebau a phwerau i gipio cyllyll ac olrhain eiddo sydd wedi'i ddwyn. Cefnogi’r heddlu yn y defnydd cyfreithlon a phroffesiynol o rym, ochr yn ochr â system atebolrwydd deg a chymesur
  • Trwyddedu swyddogion heddlu ar gyfer rolau arbenigol, fel rydyn ni eisoes yn ei wneud ar gyfer swyddogion drylliau. Byddwn yn deddfu i sicrhau bod swyddogion yn cael eu fetio’n briodol yn ystod eu gwasanaeth ac y gellir diswyddo’r rhai sy’n methu
  • Deddfu i greu troseddau newydd ar gyfer sbeicio, creu delweddau ffugiad dwfn o naturol rywiol (deepfake) a thynnu delweddau personol heb ganiatâd
Trafnidiaeth
  • Darparu arian cyfatebol i lywodraeth Cymru er mwyn ail-ystyried ffordd liniaru’r M4 a thrydydd croesfan y Fenai yn ogystal â gwelliannau ehangach i’r A55 a'r A483 o amgylch Wrecsam
  • Darparu cyllid i Gyngor Mynwy i ddatblygu cynlluniau ffordd osgoi Cas-gwent a blaenoriaethu ffordd osgoi Pant-Llanymynech
  • Ymrwymo £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru a sicrhau bod Cymru yn dechrau derbyn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer y prosiect o arbedion HS2 yn Lloegr
  • Blaenoriaethu datblygiad croesfan Pencoed a bwrw ymlaen â'r gwaith ar brif linell rheilffordd de Cymru, i ddarparu gorsafoedd a gwasanaethau newydd
  • Ehangu’r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru, gwrthdroi'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya drwy ofyn am ganiatâd lleol ar gyfer parthau 20mya a rhoi'r hawl gyfreithiol i gymunedau lleol herio parthau presennol
  • Caniatáu adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru. Atal cyflwyno taliadau ar ffyrdd. Uwchraddio’r A55, yr A40 a chreu llefydd i basio ar hyd yr A470
Democratiaeth
  • Gwrthdroi ehangu’r Senedd o 60 i 96 o aelodau
  • Cyflwyno deiseb diddymu ar gyfer etholwyr pan fydd eu haelod o’r Senedd islaw'r safonau a ddisgwylir ganddyn nhw

Plaid Cymru

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Rhun ap Iorwerth

Blaenoriaethau allweddol
  • Sicrhau £4 biliwn sy’n ddyledus i Gymru o HS2 i wella trafnidiaeth gyhoeddus a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol
  • Mynnu cyllid teg i Gymru o San Steffan er mwyn buddsoddi yng ngweithlu’r GIG yng Nghymru a recriwtio 500 o feddygon teulu. Cyflwyno strategaeth ganser newydd i ganfod a thrin canserau’n gynt a dod â ‘r loteri cod post i ben o ran triniaethau
  • Helpu 330,000 o deuluoedd yng Nghymru gyda’r argyfwng costau byw drwy gynyddu Budd-dal Plant £20 yr wythnos
  • Unioni annhegwch economaidd drwy gynyddu trethi ffawdelw (windfall) a datganoli Ystad y Goron i greu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant
Economi
  • Pwyso ar y DU i ail-ymuno â marchnad sengl ac undeb tollau’r UE
  • Gosod targedau newydd, uchelgeisiol ar gyfer economi Cymru i ddeall yn well effaith penderfyniadau polisi a dewisiadau buddsoddi
  • Diwygio ardrethi busnes, creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol hyd braich i Gymru sy’n blaenoriaethu’r broses o dyfu, cefnogi a chadw busnesau o Gymru. Diwygio Banc Datblygu Cymru fel y gall gymryd mwy o gyfranddaliadau ecwiti mewn busnesau sy’n dod i’r amlwg ac elwa ohonynt a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith
  • Cynyddu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru a chael gwared ar y cyfyngiadau wrth reoli ei gyllideb
  • Cefnogi gweithwyr dur, diogelu cynhyrchu dur yng Nghymru a phwyso i wladoli gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Costau byw
  • Datganoli pwerau i osod bandiau treth incwm, gwneud treth ar enillion cyfalaf â threth incwm yn gyfartal, gosod treth ffawdelw (windfall) ar gwmnïau ynni ac ailosod cap ar fonws bancwyr
  • Pwyso i ehangu’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i gynnwys holl ddisgyblion ysgolion uwchradd y wladwriaeth
  • Cael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn, chynyddu budd-dal plant £20 yr wythnos. Cyflwyno strategaeth newydd ar dlodi plant yng Nghymru gyda thargedau clir a wiriwyd yn annibynnol
  • Ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i gredyd cynhwysol ddarparu’r lleiafswm sydd ei angen ar gyfer bywydau bob dydd unigolion a theuluoedd
  • Datganoli pwerau dros fudd-daliadau lles, cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau sydd heb eu hawlio a chreu Taliad Plant Cymru sy’n seiliedig ar un yr Alban
  • Cyflwyno tariff cymdeithasol ynni i aelwydydd sy’n gwario swm anghymesur ar filiau ynni
GIG a gofal
  • Gweithio i sicrhau bod ein GIG yn cael ei ariannu’n iawn drwy fodel ariannu newydd tecach i Gymru sy'n seiliedig ar anghenion – gan alluogi i gyflog llawn holl staff y GIG yng Nghymru gael ei adfer a gwrthwynebu preifateiddio gwasanaethau’r GIG
  • Adfer cyllid meddygon teulu i 8.7% o gyllideb iechyd Cymru, a recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol ar draws y wlad dros ddau dymor llywodraeth Cymru
  • Adolygu llywodraethiant y GIG yng Nghymru, gan geisio cryfhau goruchwyliaeth ac atebolrwydd a chyflwyno diwygiadau i sicrhau na chaiff byrddau iechyd eu tynnu o fesurau arbennig am resymau gwleidyddol
  • Mynnu bod Ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn cael ei sefydlu
  • Parhau i weithio i gyflwyno Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig, gan gynnwys mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal a ‘blocio gwelyau’. Codi’r cyflog byw gwirioneddol £1 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • Creu ‘contract canser’ newydd i Gymru er mwyn dal a thrin canserau’n gynharach
Mewnfudo
  • Cael gwared ar gynllun Rwanda, gan greu llwybrau diogel a chyfreithlon i geiswyr lloches gael mynediad i’r DU, a dod â’r system ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ i ben
  • Cymru a’r DU yn parhau i fod yn aelod o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop, gan fod yn rhwym i benderfyniadau'r llys atodedig a chynnal hawliau dynol
  • Cadw’r fisa llwybr graddedigion i annog pobl i astudio, i fyw ac i weithio yng Nghymru
  • Datganoli pwerau mewnfudo allweddol i Gymru, gan gynnwys y rhestr o alwedigaethau i leiafrifoedd, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei fisâu ei hun
Tai
  • Ymgorffori hawl i dai digonol yn y gyfraith, gwahardd troi allan heb fai a galluogi mesurau blaengar i reoli rhenti
  • Datblygu cynllun i sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu hehangu’n sylweddol ym mhob rhan o’r wlad, drwy ddefnyddio ffrydiau ariannu cyhoeddus a phreifat a gweithio gyda chymunedau i ddarparu'r gymysgedd iawn o dai
  • Creu canolfannau rhagoriaeth ym maes adeiladu ac ôl-osod. Diogelu a gwella cadwyni cyflenwi lleol a llafur yng Nghymru fel bod elw’r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru yn gallu aros yng Nghymru
  • Cefnogi mesurau newydd i reoli nifer yr ail gartrefi. Cefnogi ehangu Cynllun Peilot Dwyfor sy’n caniatáu i awdurdodau lleol brynu ail gartrefi a llety gwyliau
Amgylchedd
  • Ailddatgan ein hymrwymiad i gyrraedd targedau sero net yng Nghymru erbyn 2035 a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030. Mynd ar drywydd pwerau i gyflwyno treth carbon yng Nghymru. Creu gwaith gwerth chweil, ystyrlon a theg yn y sectorau gwyrdd a sero net sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys ail-sgilio a chefnogi gweithwyr a phrentisiaid o Gymru yn y sectorau hyn
  • Datganoli pwerau llawn dros Ystad y Goron, fel bod Cymru a’i chymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy newydd ar y môr, drwy greu Cronfa Gyfoeth Sofren i Gymru
  • Parhau i gefnogi datblygiad cwmni ynni cenedlaethol i Gymru, gan sicrhau perchnogaeth gymunedol dros brosiectau ynni adnewyddadwy
  • Buddsoddi mewn cynyddu capasiti’r grid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Datganoli pwerau llawn dros ddŵr, cryfhau pwerau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru dros ddympio carthion a chodi pris teg ar aelwydydd am ddŵr
  • Rhoi feto i Gymru yn erbyn cytundebau masnach sy’n tanseilio cymunedau amaethyddol Cymru, a chyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd sy’n cynnig sefydlogrwydd a chynaliadwyedd i funesau fferm
Addysg
  • Parhau i adeiladu tuag at wasanaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg cenedlaethol, rhad ac am ddim, ar gyfer plant 12 mis oed nes eu bod yn gymwys am addysg llawn amser
  • Sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg wrth adael ysgol
  • Sicrhau setliad ariannol newydd a theg i Gymru, er mwyn i ni allu buddsoddi yn ein hysgolion, gan gynnwys y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chymorth iechyd meddwl
  • Buddsoddi yn ein gweithlu, gan sicrhau bod athrawon a staff cymorth yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi er mwyn gwella lefelau recriwtio a chadw
  • Cynnal archwiliad sgiliau i nodi meysydd o flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi mewn prentisiaethau ac addysg bellach a chynnig cyflog byw i brentisiaid
  • Cyflwyno setliad cyllido newydd i brifysgolion Cymru, gan gynnwys adolygu'r model presennol o gyllid myfyrwyr ac annog mwy o fyfyrwyr i astudio yng Nghymru
Tramor ac amddiffyn
  • Mynd ar drywydd annibyniaeth i Gymru ac ail-dderbyn Cymru fel aelod llawn o’r UE. Tan hynny, pwyso ar y DU i ail-ymuno â’r farchnad sengl ac undeb tollau’r UE
  • Galw am gadoediad heddychlon yn Gaza, rhyddhau’r holl wystlon a thrafod i ddod â’r gwrthdaro i ben. Cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth, cam hanfodol tuag at heddwch yn y rhanbarth
  • Cefnogi hawl pobl Wcráin i amddiffyn eu hunain ac uniondeb tiriogaethol eu cenedl rhag ymosodiadau Rwsia. Cefnogi Cymru fel Cenedl Noddfa i’r holl ffoaduriaid sy’n ffoi rhag gwrthdaro
  • Mynnu yr ymgynghorir â’r Senedd cyn i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau i gymryd rhan mewn gweithredu milwrol y tu hwnt i’r DU. Gwrthwynebu system arfau niwclear Trident a’i adnewyddu
Trosedd a chyfiawnder
  • Mynnu bod pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli’n llawn ac ar unwaith, a chreu ysgrifennydd cabinet dros gyfiawnder yn llywodraeth Cymru
  • Gwrthdroi toriadau cyllid i heddluoedd Cymru drwy gael gwared ar fformiwla Barnett a sicrhau model cyllido sy’n adlewyrchu anghenion Cymru
  • Creu swyddfa newydd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru, i gynrychioli dioddefwyr troseddau ac i sefyll dros eu hawliau
  • Galw am ymchwiliad llawn i farwolaethau diweddar yng Ngharchar EF y Parc, ac i ddod â’r ddarpariaeth carchardai preifat i ben
  • Adolygu dedfrydau byr a chefnogi gostyngiad ym mhoblogaeth carchardai yng Nghymru a dull adferol o gyfiawnder yn y gymuned
  • Mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a chasineb at fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, a sicrhau bod menywod a merched yn cael eu credu gan y system cyfiawnder troseddol, a chynyddu nifer yr euogfarnau llwyddiannus am droseddau trais domestig a stelcio
Trafnidiaeth
  • Sicrhau bod Cymru yn derbyn y £4 biliwn sy’n ddyledus iddi o HS2 – prosiect i Loegr yn unig - i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwladoli a buddsoddi yn ein gwasanaethau bysiau
  • Adolygu a gwrthdroi toriadau i gymorthdaliadau, a chynnig cymorth ar gyfer gwasanaethau bysys hyblyg ac ‘ar alw’ lle mae llwybrau bysiau confensiynol yn llai ymarferol
  • Cadw’r Pàs Bys i Bobl Hŷn yng Nghymru ac ymchwilio i gynllun tebyg ar gyfer pobl ifanc
  • Mynnu ar ddatganoli pwerau dros wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
  • Cefnogi buddsoddiad mewn llwybrau teithio llesol a sicrhau bod newidiadau i bolisi ffyrdd yn digwydd ar yr un pryd â mwy o fuddsoddiad yn ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus
Democratiaeth
  • Creu Comisiwn Cenedlaethol newydd i wella iechyd ein democratiaeth, ymchwilio i’r amrywiaeth lawn o opsiynau ar gyfer dyfodol gwleidyddol ac economaidd Cymru ac ymgysylltu â dinasyddion Cymru mewn trafodaeth barhaus am yr opsiynau hyn
  • Paratoi papur gwyrdd am y llwybr tuag at annibyniaeth a pharhau i fynd â’r dadleuon gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd dros annibyniaeth i bob rhan o Gymru
  • Datganoli’r hawl i benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru – a galw am refferendwm ar annibyniaeth – i Senedd Cymru
  • Cyflwyno pleidleisiau yn 16 oed yn etholiadau San Steffan, dileu deddfau adnabod pleidleiswyr newydd a pharhau i bwyso am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer pob etholiad
  • Sicrhau cydraddoldeb o ran cynrychiolaeth rhywedd ym myd gwleidyddiaeth ac annog mwy o gynrychiolaeth o unigolion BAME ym myd gwleidyddiaeth

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Jane Dodds

Blaenoriaethau allweddol
  • Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac inswleiddio cartrefi i dorri biliau a sbarduno adferiad economaidd cryf
  • Gwahardd carthion rhag cael eu rhyddhau i afonydd a moroedd
  • Adfer perthynas y DU ag Ewrop
  • Cyflwyno system bleidleisio gyfrannol i ethol Aelodau Seneddol
Economi
  • Lansio strategaeth ddiwydiannol i roi sicrwydd i fusnesau a’u hannog i fuddsoddi mewn technolegau newydd
  • Buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, arloesedd, hyfforddiant a sgiliau ar draws y DU gyfan i hybu twf economaidd
  • Lleihau rhwystrau masnach a meithrin perthnasoedd cryfach â phartneriaid masnachu agosaf y DU
  • Gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu polisïau a phartneriaethau ar y cyd i hybu twf ar draws y DU gyfan
  • Rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol - gwariant o ddydd i ddydd i beidio â bod yn fwy na'r arian a godir mewn trethi dros y tymor canolig
  • Gwrthdroi toriadau treth i fanciau a diwygio treth ar enillion cyfalaf
Costau byw
  • Torri biliau ynni gydag ynni adnewyddadwy rhad a chymhellion treth i gyd-fynd â mesurau arbed ynni mewn cartrefi
  • Mynd i'r afael â thlodi plant drwy ddileu'r terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau
  • Gosod targed o ddod â thlodi dwfn i ben o fewn degawd, a sefydlu comisiwn annibynnol i argymell cynnydd blynyddol mewn credyd cynhwysol i sicrhau bod cymorth yn cwmpasu hanfodion bywyd, fel bwyd a biliau
  • Diogelu clo triphlyg pensiwn y wladwriaeth fel ei fod yn codi yn unol â chwyddiant, cyflogau neu 2.5% - pa un bynnag sydd uchaf a sicrhau bod merched a anwyd yn y 1950au yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu digolledu'n briodol
  • Cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol i fynd i’r afael â chostau bwyd cynyddol
  • Cael cyfraddau morgeisi o dan reolaeth drwy reoli’r economi yn ofalus
GIG a gofal
  • Rhoi mwy o gymorth i filiynau o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys cynnydd yn y Lwfans Gofalwr
  • Cyflwyno ardoll ar elw cwmnïau tybaco i helpu i ariannu gofal iechyd a gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu
  • Diogelu plant rhag dod i gysylltiad â bwyd sothach drwy gefnogi awdurdodau lleol i gyfyngu ar hysbysebion awyr agored a chyfyngu ar hysbysebion teledu i’r trothwy ar ôl naw o’r gloch
  • Ymestyn yr ardoll ar ddiodydd meddal i ddiodydd sudd a llaeth sy’n uchel mewn siwgr wedi’i ychwanegu
  • Rhyddhau amser yr heddlu, lleihau ôl-groniadau yn y llysoedd, mynd i’r afael â gorlenwi carchardai a lleihau’r niwed o gamddefnyddio cyffuriau drwy ddargyfeirio pobl sy’n cael eu harestio am feddu ar gyffuriau at ddefnydd personol i gael triniaeth lle bo’n briodol
  • Gwneud profiad gofalu yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Mewnfudo
  • Trosglwyddo pwerau dros fisâu gwaith, myfyrwyr o dramor a lloches o’r Swyddfa Gartref i adrannau eraill
  • Buddsoddi mewn swyddogion, hyfforddiant a thechnoleg i fynd i'r afael â smyglo, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern
  • Gweithio gydag Europol ac awdurdodau Ffrainc i stopio’r gangiau sy’n gysylltiedig â chroesi’r Sianel yn anghyfreithlon
  • Cael gwared ar gynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda, a darparu llwybrau diogel a chyfreithlon tuag at loches i ffoaduriaid
  • Creu uned benodedig i gyflymu penderfyniadau lloches a mynd i’r afael â’r ôl-groniad o achosion
  • Caniatáu i geiswyr lloches weithio os ydyn nhw wedi bod yn aros dros dri mis am benderfyniad
Tai
  • Adeiladu 380,000 o gartrefi y flwyddyn ar draws y DU gydag o leiaf 150,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, gyda 10 o ardd-ddinasoedd a datblygiadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned
  • Diddymu lesddaliadau preswyl a rhoi cap ar rhenti tir ar lefel enwol
  • Cyflwyno rhaglen uwchraddio brys 10 mlynedd i wneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w gwresogi
  • Rhoi terfyn ar gysgu allan o fewn pum mlynedd, a chael gwared ar y Ddeddf Crwydraeth sy’n gwneud sawl math o ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr yn drosedd
Amgylchedd
  • Rhoi’r gorau i ollwng carthion mewn afonydd a moroedd drwy drawsnewid cwmnïau dŵr yn gwmnïau budd cyhoeddus a chreu rheoleiddiwr newydd
  • Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy fel bod 90% o drydan y DU yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030
  • Cymryd y camau sydd eu hangen i gyrraedd sero net - i roi'r gorau i ychwanegu at gyfanswm y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer - erbyn 2045
  • Ei gwneud yn rhatach ac yn haws i yrwyr newid i gerbydau trydan i leihau allyriadau a llygredd aer
  • Gosod targedau rhwymol i wrthdroi dirywiad ein hamgylchedd naturiol
  • Cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chynwysyddion bwyd a diod, gan weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau cysondeb ar draws y DU
Addysg
  • Hybu niferoedd prentisiaethau drwy ddisodli'r ardoll brentisiaethau bresennol gydag ardoll sgiliau a hyfforddiant
  • Adrodd ar lif myfyrwyr rhyngwladol ar wahân i amcangyfrifon o fudo hirdymor
Tramor ac amddiffyn
  • Gweithio i wrthsefyll y cynnydd byd-eang mewn awdurdodaeth drwy hyrwyddo’r gorchymyn rhyngwladol rhyddfrydol, sydd wedi'i seilio ar reolau, a chefnogi sefydliadau rhyngwladol fel y cenhedloedd unedig, y Gymanwlad, Nato a’r Llys Troseddol Rhyngwladol
  • Cynnal cefnogaeth y DU i Nato a chynyddu gwariant ar amddiffyn ym mhob blwyddyn o'r Senedd, gydag uchelgais i wario o leiaf 2.5% o GDP ar amddiffyn
  • Gwrthdroi toriadau i’r Fyddin, gydag uchelgais tymor hwy i gynyddu niferoedd arferol y milwyr
  • Sicrhau bargen deg i filwyr sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr
  • Cynnal arf ataliol niwclear y DU gyda phedair llong danfor, gan ddarparu ataliad parhaus ar y môr, tra'n ceisio mynd ar drywydd proses ddiarfogi fyd-eang amlochrog
  • Rheoli’r broses o allforio arfau i wledydd sydd â hanes o hawliau dynol gwael
Trosedd a chyfiawnder
  • Rhoi gwarant gyfreithiol y bydd yr heddlu'n mynychu pob bwrgleriaeth ac yn ymchwilio iddyn nhw’n drylwyr
  • Gwell plismona cymunedol, gyda swyddogion yn canolbwyntio ar atal a datrys troseddau – yn enwedig trais rhywiol a throseddau treisgar eraill
  • Buddsoddi yn y system cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad yn y llysoedd
  • Gwella adsefydlu mewn carchardai a chryfhau’r broses o oruchwylio troseddwyr yn y gymuned
  • Sicrhau bod y broses cyfiawnder troseddol yn cefnogi menywod a merched sydd wedi goroesi trais
  • Gwneud casineb yn erbyn menywod yn drosedd casineb a rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu i erlyn pob trosedd gasineb
Trafnidiaeth
  • Rhewi prisiau rheilffyrdd a symleiddio’r broses docynnau ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • Ehangu’r broses o drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Prydain, gwella ac ail-agor gorsafoedd a chyflwyno rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr
  • Gwella’r seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan
  • Creu rhwydweithiau beicio a cherdded newydd a chynyddu’r cyllid i gynghorau er mwyn cynnal ac atgyweirio ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio cyfredol
  • Buddsoddi mewn ymchwil a datblygu er mwyn gwneud y DU gyda’r gorau yn y byd o ran hedfan di-garbon, a chymryd camau i leihau’r galw am hedfan
  • Diwygio trethiant hediadau rhyngwladol i ganolbwyntio ar y rhai sy'n hedfan fwyaf, tra’n lleihau costau i gartrefi cyffredin sy'n cymryd un neu ddau o hediadau dwy-ffordd rhyngwladol y flwyddyn
Democratiaeth
  • Cwblhau cam nesaf datganoli yng Nghymru drwy weithredu gweddill argymhellion Silk yn sylweddol drwy leihau nifer y pwerau a neilltuwyd i San Steffan, a chynyddu pwerau benthyg
  • Datganoli cyfrifoldeb am wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i Gymru, gyda chyllid teg a llywodraethiant ar y cyd ar wasanaethau trawsffiniol
  • Datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau prawf, carchardai a phlismona
  • Datganoli Toll Teithwyr Awyr i drin Cymru yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon a thrin Maes Awyr Caerdydd yn yr un modd â'r meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr
  • Cyflwyno cyfansoddiad ysgrifenedig ar gyfer Deyrnas Unedig ffederal gyda lleisiau cryf ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Cyflwyno system bleidleisio gyfrannol i ethol ASau, a rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio a chael gwared ar y cynllun ID i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU

Wales

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Northern Ireland

Reform UK

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Caroline Jones

Blaenoriaethau allweddol
  • Codi lwfans treth personol i £20,000 y flwyddyn a throthwy’r gyfradd 40% i £70,000
  • Codi trothwy treth gorfforaeth i £100,000 a thorri’r gyfradd o 25% i 20%, gyda gostyngiad i 15% o flwyddyn tri
  • Cael gwared ar y targedau Sero Net
  • Gwladoli 50% o’r cwmnïau cyfleustodau allweddol, gyda'r 50% arall yn eiddo i gronfeydd pensiwn y DU
  • Sicrhau bod yr heddlu'n canolbwyntio ar atal troseddu a dal troseddwyr
  • Sicrhau bod Llu Ffiniau’r DU yn gwarchod ein ffiniau
Economi
  • Codi trothwy treth gorfforaeth i £100,000 a thorri’r gyfradd o 25% i 20%, gyda gostyngiad i 15% o flwyddyn tri
  • Cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • Cyflwyno treth cludo ar-lein o 4%
  • Codi’r swm y mae'n rhaid i fusnesau ei ennill cyn codi TAW i £120,000 a dod ag ad-daliad TAW yn ôl i dwristiaid
  • Cael gwared ar ddeddfau sy'n niweidio cynhyrchiant, gan gynnwys rhai cyfreithiau cyflogaeth
  • Diwygio a symleiddio’r system drethi
Costau byw
  • Codi lwfans treth personol i £20,000 y flwyddyn a throthwy’r gyfradd 40% i £70,000
  • Caniatáu i gyplau priod drosglwyddo 25% o’u lwfans treth fel na fyddai un person yn talu treth ar y £25,000 cyntaf a enillwyd
  • Cael gwared ar TAW ar filiau ynni a thorri toll tanwydd 20c y litr
  • Cael gwared ar dreth etifeddiant ar bob ystad o dan £2 miliwn
  • Rhoi'r dewis i rieni flaenlwytho budd-daliadau plant ar gyfer plant un i bedair oed, gan roi'r dewis i rieni dreulio mwy o amser gyda'u plant
GIG a gofal
  • Rhoi hwb i staffio gyda chyfradd treth incwm sylfaenol o sero ar gyfer staff yn y sector am dair blynedd a hyfforddi staff newydd
  • Torri rhestrau aros drwy ddefnyddio darparwyr annibynnol a thramor
  • Cyflwyno rhyddhad treth o 20% ar ofal iechyd preifat ac yswiriant iechyd i annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau amgen i’r GIG
  • Cyflwyno cynllun talebau i gleifion sy’n eu caniatáu i bobol fynd yn breifat os nad yw terfynau amser am driniaethau yn cael eu bodloni
  • Darparu mwy o welyau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a’r GIG yn gyffredinol
  • Lansio comisiwn brenhinol i ddyfodol y system gofal cymdeithasol
Mewnfudo
  • Rhewi mewnfudo, ar wahân i’r rhai sydd â sgiliau hanfodol fel yn y maes iechyd
  • Mynnu fod rhaid bod yn y wlad am bum mlynedd cyn hawlio budd-daliadau
  • Cynyddu yswyriant cenedlaethol y cyflogwr i weithwyr dramor o 13.8% i 20% i ran fwyaf o fusnesau
  • Allgludo troseddwyr tramor ar unwaith ar ddiwedd eu dedfryd a thynnu dinasyddiaeth oddi ar fewnfudwyr sy’n cyflawni troseddau difrifol
  • Gweithredu polisi casglu a dychwelyd i Ffrainc ar gyfer pobl sy’n croesi mewn cychod bach, ar ol gadael y Confensiwn ar Hawliau Dynol
  • Creu Adran Fewnfudo, gan gadw'r sawl sy'n cyrraedd yn anghyfreithlon dan glo, a phroses chwim i ddelio ag achosion
Tai
  • Diwygio’r system gynllunio a chyflymu’r broses o adeiladu tai newydd ar safleoedd tir llwyd
  • Blaenoriaethu pobl leol am dai cymdeithasol nid pobl a anwyd dramor
  • Annog mwy o bobl i ddod yn landlordiaid drwy gael gwared ar newidiadau i drethi landlordiaid a gyflwynwyd rhwng 2017-21, dan yr enw Adran 24
  • Hybu hawliau rhentwyr drwy wella’r broses o fonitro’r rheolau presennol a thrwy wella prosesau gorfodi ac apelio
  • Annog defnydd o dechnoleg adeiladu newydd fel adeiladu modiwlaidd
Amgylchedd
  • Cael gwared ar dargedau sero net
  • Trethu’r diwydiant ynni adnewyddadwy swm llawn yr arian y mae'n ei dderbyn mewn cymorthdaliadau
  • Cyflymu’r broses o chwilio am nwy ac olew ym Môr y Gogledd, ailddechrau pyllau mwyngloddio brig a datgloi cronfeydd nwy siâl
  • Adeiladu tyrbinau nwy cylch cyfun o effeithlonrwydd uchel
  • Cyflymu’r broses o gomisiynu adweithyddion niwclear
  • Adeiladu cronfeydd dŵr newydd a rhoi’r gorau i ryddhau carthion i afonydd a moroedd
Addysg
  • Cyflwyno Cwricwlwm 'gwladgarol' sy'n cyflwyno gwersi am Ymerodraeth Prydain ochr-yn-ochr ag esiamplau tu hwnt i Ewrop
  • Sicrhau bod yn rhaid i ysgolion gael cyfleusterau toilet o’r un rhyw, a gwahardd 'ideoleg traws-rywiol'
  • Cael gwared ar gyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr ac ymestyn y cyfnod ad-dalu i 45 mlynedd
  • Torri cyllidebau prifysgolion sy’n caniatáu rhagfarn wleidyddol neu’n tanseilio rhyddid barn
  • Dyblu nifer yr Unedau Cyfeirio Disgyblion fel y gall mwy o fyfyrwyr treisgar ac aflonyddgar gael eu cadw o ysgolion
  • Gorfodi prifysgolion i gynnig cyrsiau gradd dwy flynedd
Tramor ac amddiffyn
  • Diddymu deddfau sy’n dal i fod yn seiliedig ar reoliadau’r UE a rhoi’r gorau i’r trefniadau masnach newydd ar ôl Brexit, sy’n cael ei alw’n Fframwaith Windsor
  • Cynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn y drydedd flwyddyn ac i 3% o fewn chwe blynedd
  • Cynyddu cyflogau ar draws y lluoedd arfog
  • Creu Adran Cyn-Filwyr i warchod y rhai sydd yn y lluoedd arfog rhag hawliadau sifil a hawliau dynol
  • Torri'r gyllideb Cymorth Dramor o 50%
  • Plismona'r moroedd a sicrhau fod llongau bysgod o dramor yn meddu ar drwydded
Trosedd a chyfiawnder
  • Cynyddu nifer swyddogion rheng flaen yr heddlu 40,000 dros bum mlynedd
  • Cael gwared ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn raddol, a dileu swyddi cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Dull dim-goddefgarwch tuag at droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cyflwyno dedfrydau oes gorfodol i'r sawl sy'n troseddu'n ddifrifol am yr eildro
  • Creu 10,000 o leoedd newydd mewn carchardai dros bum mlynedd
  • Newid y dffiniad o drosedd casineb, gan godi'r trothwy cyn bo ymchwiliad yn dechrau
Trafnidiaeth
  • Cael gwared ar weddill HS2
  • Gwahardd holl Barthau Allyriadau Isel (Ulez) a Chymdogaethau Traffig Isel
  • Cyflymu'r seilwaith trafnidiaeth sydd wedi'i gyhoeddi, gan ganolbwyntio ar ardaloedd ger y mor, Cymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr
Democratiaeth
  • Gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
  • Disodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr lai a rhoi’r gorau i benodiadau gwleidyddol
  • Cynnal refferendwm ar gyflwyno system bleidleisio gyfrannol ar gyfer Ty'r Cyffredin
  • Cyfyngu pleidleisio drwy'r bost i'r henoed, yr anabl a'r sawl sy'n methu gadael y ty, er mwyn atal twyll
  • Diwygio'r gwasanaeth sifil drwy gyflwyno penodiadau gwleidyddol o’r sector preifat
  • Gwarantu rhyddid gyda Deddf Hawliau Prydeinig

Plaid Werdd Cymru

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Anthony Slaughter

Blaenoriaethau allweddol
  • Blaenoriaethu gweithredu ar gyfer adferiad hinsawdd a bioamrywiaeth ar draws ein polisïau am ddull ‘Pontio Teg’, gan gefnogi pobl drwy’r newid
  • Cyllid teg i’r GIG yng Nghymru, i warchod ac adfer system GIG a gofal cymdeithasol sy’n gwbl gyhoeddus ac wedi’i hariannu’n briodol, gan gynnwys gofal personol am ddim
  • Mynd i’r afael â gorelwa (profiteering), llygredd a biliau uchel yn ein cyfleustodau a’n gwasanaethau cyhoeddus drwy fynd â nhw yn ôl o dan reolaeth y wladwriaeth neu newid i fodel busnes cymdeithasol gyda gofynion cymdeithasol ac amgylcheddol cryf
  • Cynyddu Credyd Cynhwysol £40 yr wythnos, cael gwared ar y cap trydydd plentyn, darparu budd-daliadau tecach i'r rhai sy'n dibynnu ar bensiynau'r wladwriaeth, adfer gwerth budd-daliadau anabledd, diwygio profion busneslyd a rhoi’r gorau i dargedu gofalwyr dros fudd-daliadau
  • Ymgyrchu dros Gymru annibynnol
  • Gweithio tuag at gadoediad yn Gaza ar unwaith, cefnogi cais De Affrica yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, rhyddhau’r holl wystlon, rhoi’r gorau i werthu arfau i Israel a chydnabod talaith Palesteina yn llawn
Economi
  • Codi trothwy treth gorfforaeth i £100,000 a thorri’r gyfradd o 25% i 20%, gyda gostyngiad i 15% o flwyddyn tri
  • Cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • Cyflwyno treth cludo ar-lein o 4%
  • Codi’r swm y mae'n rhaid i fusnesau ei ennill cyn codi TAW i £120,000 a dod ag ad-daliad TAW yn ôl i dwristiaid
  • Cael gwared ar ddeddfau sy'n niweidio cynhyrchiant, gan gynnwys rhai cyfreithiau cyflogaeth
  • Diwygio a symleiddio’r system drethi
Costau byw
  • Helpu pobl gyda’r newidiadau sy’n digwydd mewn cymdeithas drwy ‘Bontio’n Deg’, a’n cefnogi ni i gyd drwy'r argyfwng presennol a'r newidiadau angenrheidiol ar gyfer economi wyrddach
  • Gwneud y system nawdd cymdeithasol yn ddigonol gyda chynnydd o £40 yr wythnos i’r credyd cynhwysol, a budd-daliadau tecach i’r rheini sy’n ddibynnol ar bensiwn y wladwriaeth
  • Mynd i’r afael â’r niferoedd uchaf erioed o blant mewn tlodi, drwy gael gwared ar y cap budd-daliadau ar gyfer y trydydd plentyn a rhoi’r gorau i drethu pensiwn y wladwriaeth
  • Adfer gwerth budd-daliadau anabledd a diwygio profion busneslyd fel PIP (taliadau annibyniaeth personol) a rhoi’r gorau i dargedu gofalwyr a phobl anabl dros fudd-daliadau
  • Cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn yr hirdymor i roi cyfle i bawb dechrau neu newid busnes, astudio, hyfforddi a byw eu bywydau mewn urddas
  • Cyllid teg i Gymru i alluogi awdurodau lleol i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel
GIG a gofal
  • Cyllid teg i’r GIG yng Nghymru, i warchod ac adfer system GIG a gofal cymdeithasol sy’n gwbl gyhoeddus ac wedi’i hariannu’n briodol, gan gynnwys gofal personol am ddim
  • Hwb ar unwaith i gyflogau staff y GIG, gan gynnwys adfer cyflogau nyrsys a meddygon i helpu i recriwtio a chadw staff
  • Mae adfer cyllidebau iechyd y cyhoedd yn allweddol i atal yn gynnar, diagnosis cynnar a gwella ansawdd bywyd, tra hefyd yn lleihau'r baich ar y GIG
  • Mynediad i bawb at wasanaeth deintyddol y GIG a chyllid ar gyfer hybiau cymunedol a gofal deintyddol sylfaenol
  • Cynyddu’r cyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl a therapïau iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gellir cael mynediad atyn nhw o fewn 28 diwrnod
  • Cymru i fod yn rhan o gomisiwn y DU-gyfan i gytuno ar ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ran cymorth ar ddibyniaeth a diwygio cyfreithiau cyffuriau’r DU
Mewnfudo
  • Croesawu ac amlygu cyfraniadau mewnfudwyr a ffoaduriaid i gymdeithas
  • Rhoi’r gorau i’r ‘amgylchedd gelyniaethus’ a chynnig llwybrau diogel at loches i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth
  • Caniatáu i'r rhai sy'n ceisio lloches ac amddiffyniad i weithio wrth benderfynu ar geisiadau
  • Disodli’r Swyddfa Gartref gydag Adran Fudo newydd sydd ar wahân i’r system cyfiawnder troseddol
  • Rhoi’r gorau i gadw mudwyr oni bai eu bod yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd
  • Amddiffyn y Ddeddf Hawliau Dynol, aelodaeth y DU o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop a mynediad uniongyrchol parhaus i'w egwyddorion mewn llysoedd domestig
Tai
  • Cyflwyno Siarter i ddiogelu mannau gwyrdd ar gyfer cymunedau, lleihau allyriadau hinsawdd a darparu tai gwirioneddol fforddiadwy, ynghyd â’r buddsoddiad sydd ei angen mewn iechyd lleol, trafnidiaeth a gwasanaethau eraill
  • Adeiladu o leiaf 12,000 o dai newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ddatrys yr argyfwng tai, bydd angen i’r rhan fwyaf fod yn dai cymdeithasol
  • Rheoli rhenti yng Nghymru i ddiogelu tenantiaid a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen dynol sylfaenol sy’n fforddiadwy i bawb, gan gynnwys yr ‘Hawl i Rentu’ ar gyfer y rhai sy’n cael trafferth gyda thaliadau morgais
  • Cynllun ar unwaith i gartrefu pobl ddigartref fel a gyflwynwyd yn llwyddiannus yn y Ffindir
  • Sicrhau bod yr holl gynllunio ar gyfer tai newydd yn ystyried effeithiau hinsawdd fel llifogydd yn y dyfodol, yn bodloni safonau amgylcheddol cadarn ac yn cynnwys paneli solar a/neu bympiau gwres ym mhob cartref newydd
  • Buddsoddiad mawr mewn effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod ynni gwyrdd mewn adeiladau hŷn drwy gynllun Cronfa Economaidd Trawsnewid Gwyrdd
Amgylchedd
  • Sefydlu Comisiwn System Fwyd i gynhyrchu bwyd iach, maethlon am brisiau fforddiadwy gyda chyflogau teg i dyfwyr
  • Gweithio gyda ffermwyr i gynllunio system daliadau sy’n cefnogi’r broses o bontio tuag at ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur, gan leihau plaladdwyr a chyflwyno atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer problemau fel llifogydd a llygredd
  • Sicrhau bod natur sy'n diflannu bob yn dipyn yn dod i ben yng Nghymru drwy gadwraeth a gwella bioamrywiaeth ac iechyd pridd ar gyfer afonydd glanach ac ecosystemau sydd wedi'u hadfer
  • Creu Comisiwn newydd ar Warchod Anifeiliaid a Chynefinoedd gyda rheolaethau ar ffermio mewn ffatrïoedd, defnydd arferol o wrthfiotigau ac anffurfio anifeiliaid
  • Cael gwared ar yr holl fudd-daliadau olew a nwy a chanslo holl brosiectau tanwydd ffosil newydd ac ynni niwclear newydd
  • Cymunedau i elwa o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol (mae’r maes hwn wedi’i ddatganoli’n rhannol) a datganoli Ystadau’r Goron i gyflenwi refeniw i ddatgarboneiddio a chynhyrchu cynaliadwy yn yr economi leol
Addysg
  • Diwygio’r arolygydd addysg Estyn i gefnogi pob plentyn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i gyrraedd eu potensial wrth ddod â phrofion lle mae llawer yn y fantol i ben mewn ysgolion
  • Buddsoddiad anferth mewn adeiladau ysgolion gan gynnwys ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau ynni adnewyddadwy
  • Mynd i’r afael â thlodi plant eang yng Nghymru gyda chinio ysgol maethlon am ddim i bob plentyn gan gynnwys yn ystod y gwyliau
  • Gweithio tuag at fodel prifysgol newydd ar gyfer y DU gyfan gan gydnabod addysg uwch ac addysg bellach a dysgu gydol oes i bawb fel grymoedd ar gyfer lles cymdeithasol sy’n hanfodol i ddemocratiaeth
  • Cefnogi pob myfyriwr drwy adfer grantiau a diddymu ffioedd dysgu
  • Cyllid teg i sicrhau y gall pobl yng Nghymru fyw eu bywydau yn Gymraeg, o'r ysgol, hyd at addysg bellach
Tramor ac amddiffyn
  • Ail-ymuno â’r UE fel partner masnachu a gwleidyddol o bwys pan fydd yr amser a’r amodau’n iawn
  • Gweithio gyda Nato i roi fwy o bwyslais ar adeiladu heddwch byd-eang sydd ei angen ar gyfer cytundebau hinsawdd ac ymrwymiad i beidio â defnyddio arfau niwclear yn y lle cyntaf
  • Cynyddu cymorth rhyngwladol i 1% o incwm gwladol gros (GNI) erbyn 2033 i helpu gwledydd sydd ar reng flaen newid hinsawdd peryglus gyda stormydd difrifol, llifogydd, tirlithriadau a thymheredd yn codi
  • Cynyddu cyllid hinsawdd yn ne’r byd i 1.5% o GNI erbyn 2033 gyda £21.6 biliwn ychwanegol y flwyddyn yn cael ei roi gan y gronfa Colled a Difrod hinsawdd newydd
  • Parhau i gefnogi Wcráin wrth iddo wrthsefyll ymosodiad Rwsia
  • Gweithio tuag at gadoediad yn Gaza ar unwaith, cefnogi cais De Affrica yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, rhyddhau’r holl wystlon, rhoi’r gorau i werthu arfau i Israel a chydnabod talaith Palesteina yn llawn
Trosedd a chyfiawnder
  • Datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn gyda buddsoddiad mawr i adnewyddu’r system llysoedd a mynd i’r afael â’r ôl-groniad ym maes cyfiawnder
  • Adfer ffydd a hyder yn yr heddlu gyda phroses sgrinio a hyfforddiant iawn
  • Cael gwared ar ‘Prevent’ a mynd i’r afael â throseddau casineb hiliol, casineb at fenywod, islamoffobia a gwrth-semitiaeth
  • Cael gwared ar Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a mathau eraill o ddeddfwriaeth sy’n erydu’r hawliau i brotestio a rhyddid mynegiant
  • Cynnal Strategaeth Weithredu i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben
  • Ymgyrchu dros hunan-ID ar gyfer pobl draws ac anneuaidd
Trafnidiaeth
  • Cynyddu cymorthdaliadau cyhoeddus blynyddol ar gyfer teithio ar drên a bws gyda theithiau bws am ddim i rai dan 18 oed, gan sicrhau bod pob cymuned yn gysylltiedig ac yn gallu ffynnu
  • Dod â seilwaith rheilffyrdd yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus fel gwasanaeth hanfodol, gan helpu i ddatgarboneiddio teithio
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Cymru a chefnogi trydaneiddio, gan gynnwys y gallu i wefru cerbydau trydan drwy ddefnyddio cyllid HS2 sy’n ddyledus i Gymru
  • Cefnogi strydoedd diogel a theithio llesol gyda buddsoddiad mawr ledled y DU mewn llwybrau beiciau a llwybrau troed
  • Atal ehangu capasiti meysydd awyr newydd fel cyfrannwr mawr at newid hinsawdd, ynghyd â gwahardd teithiau awyr domestig ar gyfer teithiau a fyddai’n cymryd llai na 3 awr ar drên
Democratiaeth
  • Bydd ASau y Gwyrddion yn pwyso ar y DU i ddod yn ddemocratiaeth fodern, weithredol sydd yn cynrychioli amrywiaeth ein cymdeithasau
  • Disodli system y cyntaf i’r felin yn etholiadau San Steffan a chynghorau gyda system bleidleisio cymesur
  • Disodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr etholedig
  • Dod â’r angen am ID i ben wrth bleidleisio a llygredd gwleidyddol
  • Mae Plaid Werdd Cymru yn ymgyrchu am Gymru annibynnol gyda’i gyfansoddiad democrataidd a’i senedd annibynnol ei hun
  • Pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed a hawliau pleidleisio sy’n seiliedig ar breswylfa

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth

Proffil arweinydd y blaid
Arweinydd

Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Dewiswch bwnc sydd o ddiddordeb i chi
Dewiswch bleidiau i gymharu'r hyn maen nhw'n ei ddweud
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif chwip llywodraeth y DU, Simon Hart, yn sefyll yn sedd Caerfyrddin

Canolbarth a Gorllewin

Mae Caerfyrddin yn un o’r brwydrau tair ffordd go iawn, er efallai yn frwydr rhy bell i brif chwip y Ceidwadwyr, Simon Hart.

Pe bai'n colli, byddai'n un o ergydion mawr y noson i'r Torïaid.

Mae ffermio a pheilonau - cyfrifoldeb llywodraeth Lafur Cymru - wedi bod yn faterion lleol mawr, y mae Plaid Cymru wedi bod yn ceisio manteisio arnynt. Mae'r ddwy blaid wir eisiau ennill y sedd hon.

Mae Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn frwydr tair ffordd arall. Mae’n cael ei hamddiffyn gan Weinidog y Ceidwadwyr yn Swyddfa Cymru, Fay Jones gyda Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hyderus o’u siawns.

A oes gormod o dybiaeth ynghylch natur Llafur-gefnogol Cwm Tawe, wedi'i hychwanegu at yr etholaeth o dan newidiadau ffiniau? Neu a fydd pleidleiswyr yng Nghwm Tawe yn gwneud dewis gwahanol ar ôl blynyddoedd o fyw mewn sedd Lafur ddiogel?

Cadwch lygad ar Ganol a De Sir Benfro, lle mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Ceidwadol arall, Stephen Crabb yn gweithio i ddychwelyd i San Steffan. Mae Llafur wedi dewis ymgeisydd nad yw'n lleol sydd wedi cefnogi Vaughan Gething yn gyhoeddus.

Mae safle tirlenwi dadleuol Withyhedge, sy'n eiddo i roddwr ariannol dadleuol i'r prif weinidog, yn yr etholaeth - ffaith y mae Mr Crabb wedi'i defnyddio dro ar ôl tro wrth ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar bapur, Maldwyn a Glyndŵr yw sedd Gymreig fwyaf diogel y Torïaid, ond pwy a ŵyr ar ôl i’w hymgeisydd Craig Williams gael ei ddal yn y sgandal gamblo. Nid yw Llafur erioed wedi cipio’r sedd hon, hyd yn hyn.

Gallwch weld rhestrau llawn o ymgeiswyr ar gyfer yr holl seddi uchod yma.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Pynciau Cysylltiedig