Rhannu profiadau o fagu Cymry Cymraeg dramor

Gwledydd tramorFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Sut mae llwyddo i drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf tra’n byw dramor? Dyna un o’r cwestiynau mae Gwasg Carreg Gwalch yn gobeithio’u hateb drwy glywed profiadau teuluoedd o Gymru sydd yn byw ym mhob cwr o’r byd.

Mae’r wasg yn chwilio am deuluoedd i gyfrannu at lyfr fydd yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesa, ac mae ‘na apêl ar i unrhyw un sydd eisiau cyfrannu i gysylltu â nhw.

Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore dydd Mawrth, dywedodd Sioned Erin, golygydd y gyfrol, ei bod eisoes wedi'i phlesio â’r ymateb: “Mae ‘na bethau arbennig wedi dod yn barod.

“Rydyn ni wedi cael ymateb gan deuluoedd o Seland Newydd, Brwsel, De Affrica, yr Eidal, Gwlad Pwyl, Hong Kong, Slofacia a Fflorida. Mae 'di bod yn arbennig yn barod."

Sut mae trosglwyddo'r iaith?

Y nod yn ôl Sioned Erin, ydy mynd ar ôl gwerth iaith: ”Dim jest gwerth yr iaith rŵan, ond y parhad hefyd.

“Os ydych chi’n meddwl am iaith fyw, rhaid i ni feddwl am y genhedlaeth nesaf.

“Beth ydyn ni eisiau ei weld ydy sut mae pobl - er gwaetha’r caledu sy’n eu hwynebu nhw dramor - yn gallu llwyddo i drosglwyddo’r iaith yn iaith fyw at y genhedlaeth nesa', a beth allwn ni wedyn ddysgu o hynny yma yng Nghymru.

“Un o brif ddibenion mynd ar ôl y gyfrol yma ydy darganfod a ydy ymrediad daearyddol a lot o ffactorau eraill yn cael effaith ar y broses o drosglwyddo."

Mae Sioned Erin wedi cael profiad personol o ddod i gysylltiad â Chymry dramor: “Dwi’n dechrau gweithio’n rhan amser efo Ysgol Sadwrn ar hyn o bryd, sy’n dysgu Cymry ledled y byd, a do’n i ddim wedi sylweddoli cymaint oedd allan yna.

“Felly mae o wedi bod yn agoriad llygad yn ystyr gorau’r gair i mi hefyd.

“Mae o’n arbennig clywed amdanyn nhw, a’u dyfalbarhad nhw i drosglwyddo a sicrhau bod yr iaith yn iaith fyw, ac yn iaith ffyniannus hefyd."

Y gobaith yw cyhoeddi’r gyfrol erbyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, ac mae croeso i unrhyw un sydd am rannu eu profiadau gysylltu â Gwasg Carreg Gwalch cyn 10 Hydref.