Haf 'boncyrs' Bwncath
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Torf o 11,000 yn Llwyfan y Maes, cloi Tafwyl, Y Sesiwn Fawr a Maes B, cyd-ganu efo Iwcs, Eden a Bryn Fôn, ac 80 gig yn y dyddiadur eleni. Dipyn o flwyddyn i Bwncath.
Ac wrth gael cyfle i edrych yn ôl ar haf bythgofiadwy, mae’r grŵp yn cydnabod y bydd rhaid i bethau newid yn 2024.
“Allwn ni ddim parhau yn gwneud o fel yma,” meddai Robin Llwyd, gitarydd y grŵp.
“Dwi ddim yn difaru o gwbl, mae o wedi bod yn ffantastig ond mae o’n fater rŵan o orfod edrych ar ôl ein hunain a pharchu be’ ‘da ni wedi llwyddo i wneud.”
Mae'r twf ym mhoblogrwydd Bwncath yn amlwg o wybod beth oedd eu gobeithion nôl yn Hydref 2019 pan gyhoeddwyd mai ym Moduan fyddai Eisteddfod Genedlaethol 2023.
“Roedd Twm (Elis, y drymiwr) newydd ymuno efo ni a 'nath o ddeud adeg hynny 'faswn i wrth fy modd jest chwarae yn Boduan achos bod o’n home turf',” meddai Robin.
“A ninna' i gyd yn deud 'ia fasa chwarae ym Maes yn B yn big deal, fasa fo reit cŵl'. Mae'r ffaith bod ni wedi gallu cyrraedd yna heb sôn am chwarae’r noson ola’ a chloi'r holl beth wedi bod yn wych rili.”
Ers sawl blwyddyn bellach mae’r band wedi bod gweithio’n galed i ddod yn un o grwpiau mwya’ poblogaidd Cymru. Maen nhw’n chwarae gig o leia’ unwaith bob penwythnos ar hyd a lled Cymru - 70 gig llynedd, a 10 yn fwy yn y calendr eleni.
Yn Eisteddfod Tregaron 2022 y band oedd yn cloi’r nos Sadwrn yn y Tŷ Gwerin ac fe gafodd nhw slot amser te ganol wythnos ar Lwyfan y Maes.
Eleni, fe gysylltodd y Steddfod nôl ym mis Ionawr i gynnig y prif slot nos Sul ar Lwyfan y Maes a chloi Maes B. Digon o amser iddyn nhw baratoi at y brifwyl a’r holl wyliau haf eraill. Digon o amser i hel meddyliau hefyd.
Meddai Robin: “Gan fod ni’n chwarae ar lwyfan mwy o’n i’n teimlo bod angen rhoi sioe iawn ohoni. Teimlo pwysau i ryw raddau.
“Nes i deimlo fo fwy efo Tafwyl achos roeddan nhw wedi bod yn sôn bod o'n mynd i fod ar y teledu a ballu wedyn roedd ‘na ryw pwsh wedyn bod ni’n gorfod rhoi sioe.
"Wnaethon ni gyd ddechrau poeni 'chydig bach achos da ni ddim yn gimici iawn felly roeddan ni’n meddwl be' allwn ni neud?”
Yr ateb oedd gwahodd dau gerddor profiadol i chwarae gyda nhw dros yr haf – Gethin Griffiths a Gwilym Bowen Rhys – a chael artistiaid gwadd i ymuno efo nhw am rai caneuon, gan ddechrau gyda Iwcs yn Tafwyl, ac yna Eden a Bryn Fôn yn yr Eisteddfod.
“Roeddan ni’n teimlo bod angen boostio’r sŵn a 'neud o'n rywbeth mwy arbennig achos bod o’n headline act a llwyfan mwy, i roi rhywbeth gwell ymlaen,” meddai’r prif leisydd Elidyr.
“O’n i’n teimlo bod o’n bwysig… i ryw ddangos parch at artistiaid sydd 'di bod yn llwyddiannus yn y gorffennol – rhyw nod o barch iddyn nhw bod ni’n ddiolchgar o’r ysbrydoliaeth i sgwennu caneuon a gwneud miwsig a cario 'mlaen rhywsut y traddodiad – roedd o’n neis.
"Mae ‘na bobl eraill fasa ni wedi gallu dewis ac ella wnawn ni yn y dyfodol, ond nhw ddaeth i'n meddwl ni gynta’. Efo Bryn Fôn ac Iwcs roedd y syniad wedi dod achos 'da ni’n 'neud caneuon nhw mewn sets, felly dyna oedd y syniad i gael yr artistiaid gwreiddiol i ganu efo ni – dipyn o brofiad deud gwir. Fasa fo ddim wedi gallu bod yn well.”
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023
Ar ôl Tafwyl a Sesiwn Fawr lwyddiannus roedd ‘na edrych ymlaen at Foduan.
Wrth gerdded o gwmpas y Maes yn ystod dydd Sul cynta'r Eisteddfod roedd y band yn dweud bod dipyn o gyffro am eu perfformiad ar Lwyfan y Maes gyda'r nos.
Ond er eu bod nhw'n disgwyl noson dda roedd maint y dorf - a thorri record yn ôl y sôn - yn sioc.
Meddai Elidyr: “Do ni’m yn disgwyl hynny achos y meddylfryd oedd gen i oedd 'mod i’n edrych mlaen at Maes B fel y gig mwya’ so pan 'nath o ddigwydd dydd Sul - do'n i’m yn disgwyl i’r nos Sul yna i deimlo fel gig mwya’ y Steddfod.
“Dwi’n meddwl bod o wedi 'neud lot o wahaniaeth bod ni wedi gwneud hynny ym Mhen Llŷn achos fanna oeddan ni’n cael pobl yn dilyn ni i'n gigs cynta’.
"Am y flwyddyn gynta’ Pen Llŷn oedd hanner y gigs o leia’ - yn 2015/2016 roeddan ni’n gneud lot ym Mhen Llŷn felly mae o’n braf bod gymaint o gefnogaeth i ni yna a ma’ hynny wedi dangos yn Steddfod, bod llwyth o bobl leol sy’n gwybod amdana ni jest wedi dod am y diwrnod neu am y gig. Mae hynny’n braf.”
“Roedd o’n teimlo fwy nag erioed fel gŵyl fawr serious,” ychwanega Robin.
“Mae’r llwyfan ei hun yn amazing, ma’r scale yna a’r goleuo ac mae’r cyfle i gael chwarae ar lwyfan fel yna yn anhygoel o ran y gwagle, o ran y sain a’r safon. Mae o’n codi chdi fel unigolyn i gyrraedd y safon a ti’n teimlo bod chdi’n gorfod ypio dy gêm.
“Dwi’n meddwl jest o ran yr oedrannau roedd o'n braf i'w weld - y gwahaniaeth oedrannau oedd yn mynd o'r ffrynt i'r cefn.
"Un peth 'nath ddal fy llygad i oedd o’m mlaen i roedd gen i dad ifanc a’i blentyn ar ei ysgwyddau, a’r ferch yma oedd yn gwisgo jymper ‘Fel hyn da’ ni fod’ ac yn gwybod bob gair. Roedd hwnna yn eitha boncyrs i’w weld."
Roedd gan y band gigs eraill yn ystod wythnos y Steddfod – yn cynnwys Caffi Maes B, Maes D, Tŷ Gwerin, llwyfan S4C a gig Cymdeithas yr Iaith yn Nefyn – ac yn mynd i’w gwelyau yn gynnar i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu perfformio’n iawn drwy’r wythnos, hyd at noson ola’r Steddfod.
Dywedodd Elidyr: “Roedd Maes B yn grêt mewn ffordd arall – roedd egni'r crowd yn wych. Dwi’n meddwl achos bod nhw’n griw 'fengach a dwi’n meddwl bod nhw’n agosach ata' ni – roedd o’n teimlo felly beth bynnag.
"Pan ti’n agosach at y gynulleidfa ti’n gweld pan maen nhw’n canu efo chdi a mwy o deimlad o angerdd – maen nhw’n dipyn pellach i ffwrdd yn Llwyfan y Maes a ti’n uwch.”
Mae’r ddau yn meddwl eu bod wedi gweld ffrwyth llafur gigio’n gyson eleni, gan fod mwy o bobl yn ymwybodol ohonyn nhw ac wedi dod i’w cefnogi, a’u bod yn fwy tyn fel band ac yn gallu dygymod efo’r pwysau o chwarae ar lwyfannau mawr.
Ond ar ôl cymaint o waith caled, gydag aelodau’r band hefyd efo jobsys 9-5 yn ystod yr wythnos, mae’r band ar drobwynt ac yn gorfod ystyried y ffordd orau ymlaen.
Mae Robin er enghraifft yn dad i blentyn ifanc, yn gweithio i gwmni teledu, yn gwneud trwch o’r gwaith gweinyddol o ran bwcio gigs ac ati, ac wedi symud tŷ llynedd.
Mae aelodau eraill Bwncath hefyd efo gofynion gwahanol yn eu bywyd personol ac o fewn y band ac maen nhw wedi bod yn ystyried cyflogi asiant neu dîm sain yn ddiweddar.
Opsiwn arall ydi gwneud llai o gigs bychan, a mwy o gigs mwy – er y byddai hynny’n anodd i’r aelodau gan eu bod nhw’n mwynhau teithio Cymru a chyfarfod ffans mewn bob math o leoliadau.
Meddai Robin: “Mae holl beth wedi bod yn boncyrs rili.
“Mae’n teimlo fel bod ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd lle ydan ni, ond mae’n galluogi ni i i fedru dewis mwy ynglŷn â pha mor aml ydan ni’n chwarae, lle, a faint ydan ni’n godi.
“Pan mae’r momentwm ar dy ochr di ti’n cario 'mlaen ac mae o’n fater o raid a ti’n mynd efo fo, ond dwi’n meddwl bod y peak wedi ei gyrraedd rŵan o ran y prysurdeb ac mae’n amser rŵan i ni drio cael y balans am y cyfnod nesa a’i fwynhau o.”