Y daearegwr Dyfed Elis-Gruffydd wedi marw yn 80 oed
- Cyhoeddwyd
Yn 80 oed, bu farw'r daearegwr a'r awdur Dr Dyfed Elis-Gruffydd.
Roedd yn byw ym mhentref Llechryd ger Aberteifi.
Ar un adeg roedd e'n un o olygyddion a chyfarwyddwyr cyhoeddi Gwasg Gomer.
Dywedodd John Lewis o Wasg Gomer fod Dr Elis-Gruffydd yn "berson arbennig iawn" a fod ganddo "wybodaeth eang mewn cymaint o feysydd".
Treuliodd gyfnod yn bennaeth adran gyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bu hefyd yn bennaeth Amgueddfa Wlân Cymru, ac yn ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Roedd yn arwain teithiau cerdded a bu'n gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd - cymdeithas sy'n trefnu teithiau cerdded i wahanol rannau o Gymru.
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni Radio Cymru.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain gan astudio Daeareg a Geomorffoleg.
Testun, traethawd ei ddoethuriaeth oedd hanes rhewlifol Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr.
Am chwe blynedd bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae'n awdur ar sawl cyfrol gan gynnwys Mynd am Dro, 100 o Olygfeydd Hynod Cymru, Preselau, Y - Gwlad Hud a Lledrith, The Rocks of Wales a'r Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear.
Mae enw Dyfed Elis-Gruffydd hefyd i’w weld ymhlith yr ymgynghorwyr golygyddol, ynghyd â’r cyfranwyr a’r cyfieithwyr a gyfrannodd at baratoi Gwyddoniadur Cymru a Geiriadur Cymraeg Gomer.
'Gwybodaeth eang mewn sawl maes'
Wrth gofio amdano dywedodd John Lewis o Wasg Gomer: "Newyddion trist am Dyfed oedd mor boblogaidd ac uchel ei barch yma yn Gomer.
"Ymunodd Dyfed â Gwasg Gomer fel ein golygydd cyntaf llawn amser yn y 1980au cynnar ac hefyd ar ôl cyfnod byr yn gwneud gwaith ymchwil am y diwydiant gwlân yn Amgueddfa Drefach Felindre.
"Yn fuan ar ôl ei apwyntiad, sylweddolais ein bod wedi denu person arbennig i’r swydd - nid yn unig yr oedd yn drwyadl wrth ei waith ond fe enillodd barch awduron am ei farn a’i awgrymiadau adeiladol.
"Ar yr un pryd, roedd yn ffefryn gyda’r gweithlu er weithiau roedd angen gwneud newidiadau hwyr cyn argraffu llyfr.
"Cefais y fraint o gydweithio’n hapus ag ef yn ystod ei yrfa yma ac yn ddiau roedd yn berson arbennig iawn ac yn gyfuniad prin o un a oedd ganddo wybodaeth eang mewn cymaint o feysydd ond ar yr un pryd yn gwbl ddiymhongar.
"Bu’n gyfrifol am olygu nifer o lyfrau poblogaidd ac efallai yr un oedd yn falch ohono oedd Lleuad yn Olau gan T Llew Jones, cyfrol 'fodern' liwgar ar adeg y cyhoeddi.
"Roedd llyfrau i ddysgwyr hefyd yn agos i’w galon gan iddo ragweld bod rhain yn allweddol i ddyfodol yr iaith."
Roedd â'i fryd ar grwydro Cymru, arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a chrwydro tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop.
Mae'n gadael gwraig, Siân. Collodd ei ddiweddar wraig Robina, mewn damwain ffordd.