BBC Cymru 100: Cipolwg ar waith gwirfoddolwyr Llanw Llŷn

Papurau bro Llanw Llŷn wedi'u plyguFfynhonnell y llun, Llanw Llŷn
  • Cyhoeddwyd

Y papurau bro aeth a bryd Hywel Gwynfryn yn ei ddewis o archif ar raglen Bore Cothi yn ddiweddar. Ar ddechrau’r clip hwn, mae Hywel yn dyfynnu John Roberts Williams a ddisgrifiodd twf y papurau bro fel “gwyrth newyddiadurol yr 20fed ganrif.”

Disgrifiad,

Clip o raglen Hywel Gwynfryn pan aeth i sgwrsio â'r bobl sy'n gyfrifol am bapur Llanw Llŷn

Eleni roedd y papur bro yn dathlu 50 mlynedd o gyhoeddi. Cafodd papur bro Caerdydd, Y Dinesydd, ei gyhoeddi ar Ebrill y 6ed 1973. Ond yn 1986 y papur bro Llanw Llŷn aeth a’i fryd. Adeg hynny roedd 150 o bapurau bro yn bodoli. Mae 58 o bapurau bro dal i gael eu cyhoeddi yng Nghymru heddiw ac mae Llanw Llŷn yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd.

Yn y bennod arbennig hon o Rhaglen Hywel Gwynfryn (1986), bu’r cyflwynydd yn crwydro’r penrhyn yn siarad gyda’r tîm gwirfoddol oedd yn gofalu am Llanw Llŷn.

Ymhlith y bobl roedd o’n siarad â nhw oedd Ann Owen, Helen Hughes, Dr. Dewi Rhys, Owen Roberts, Nerys Williams, Gwenan Jones ac Alwyn Ellis a mwy – pob un ohonynt yn gysylltiedig â Llanw Llŷn mewn rhyw ffordd.

Os ydych chi eisiau clywed rhai o atgofion Hywel o’r clip, gallwch wrando ar Bore Cothi ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig