Amseroedd aros am driniaeth canser yn 'argyfwng'

Claf yn derbyn triniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd 53.4% o achosion lle mae rhywun yn cael ei hamau o gael canser driniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen canser yn dweud bod yr amseroedd aros hir am driniaeth yn "argyfwng".

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod rhestrau aros ac amseroedd aros am driniaeth canser ar eu hail lefel uchaf ar gofnod.

Yn ôl Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, doedd y ffigyrau ddim yn syndod iddo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser.

Dywedodd Mr Pugh wrth raglen Politics Wales BBC Cymru ei fod yn credu bod pobl yn aros yn hirach nag y dylen nhw a bod hynny cael effaith aruthrol ar gleifion a'u teuluoedd.

"Ry' ni'n gweld pobl sydd wedi cael diagnosis a bellach yn aros am driniaeth. Maen nhw'n gorfod delio â gymaint o bethau - fel yr effaith ariannol a'r effaith ar eu gwaith.

"Mae'r effaith seicolegol a'r effaith ar y teulu hefyd yn ychwanegu at y pryder.

"Chi ddim yn cael canser ar eich pen eich hunan, mae’n effeithio’ch teulu chi."

Ychwanegodd Mr Pugh: "Mae’n bwysig pan y' chi’n cael triniaeth, eich bod chi’n gweld dechreuad rhywbeth... pan chi’n aros, mae pawb arall yn y tŷ yn gorfod cymryd hwnna arnyn nhw.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi dweud nad yw'r sefyllfa o ran rhestrau aros yn ddigon da

Ym mis Chwefror dechreuodd 53.4% o achosion lle mae rhywun yn cael ei hamau o gael canser driniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau, o'i gymharu â 54.7% yn y mis blaenorol.

Dyma'r ail ffigwr gwaethaf ar gofnod, ond yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, mae rhywfaint o welliant wedi bod o ran lleihau'r cyfnodau aros hiraf am driniaeth.

Mae 97% o gleifion bellach yn aros llai na dwy flynedd yn ardaloedd chwech o'r saith bwrdd iechyd.

'Pam ydyn ni'n aros?'

Mae elusen Cymorth Canser Macmillan yn cefnogi cleifion, ond mae'r galw yn enfawr ar hyn o bryd.

Yn ôl Mr Pugh, mae amseroedd aros wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd ac rydyn ni bellach wedi cyrraedd pwynt argyfyngus.

"Mae 'Pam ydyn ni'n aros?' yn gwestiwn da i Lywodraeth Cymru achos dyna mae cleifion yn gofyn i ni," meddai.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu'r atebion i gleifion gan fod bron i 50% ohonyn nhw'n aros."

'Buddsoddi'n helaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella diagnosis a mynediad at ofal o ansawdd uchel.

"Rydym hefyd wedi lansio rhaglen genedlaethol i gefnogi gwellhad mewn amseroedd aros canser gyda £2m y flwyddyn am dair blynedd.

"Mae mynediad at driniaeth canser yn flaenoriaeth ac mae timau a rheolwyr clinigol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gweithio'n galed i wella perfformiad."

Ond mae gan Mr Pugh ffydd yn y Prif Weinidog newydd ac mae eisiau gweld mwy o gydweithio rhwng y byrddau iechyd.

"Rwy'n credu y gallwn ni wella, ond mae'n rhaid i ni fod yn onest... Allwn ni ddim meddwl y gall y gweithlu presennol gyflawni hyn ar ei ben ei hun.

"Mae angen cefnogaeth y llywodraeth, i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni'n gyflym."

"Mae Vaughan (Gething) yn ymroddedig iawn tuag at ganser ac mae'n gwybod am y problemau."

Mwy ar Politics Wales ar BBC 2 Cymru am 1000 ddydd Sul, ac ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig