Y Scarlets: 15 mlynedd arall i ad-dalu benthyciad

Tim rygbi'r sgarlets
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i ymestyn y cyfnod sydd gan ranbarth rygbi'r Scarlets i ad-dalu benthyciad o £2.6m.

Roedden nhw i fod i dalu'r arian y gwnaethon nhw ei dderbyn yn 2007 yn ôl erbyn 1 Ebrill 2023.

Maen nhw bellach wedi cael estyniad o 15 mlynedd, sy'n golygu na fydd angen iddyn nhw ad-dalu'r arian tan 2038.

Mae disgwyl i'r Scarlets wneud colled o £4m eleni.

Dywedodd Nigel Short, cyn-gadeirydd y rhanbarth ac aelod o'r bwrdd, wrth gynghorwyr y byddai'r clwb wedi gorfod mynd yn fethdalwyr "os fyddai'r benthyciad yn cael ei alw 'nôl" nawr.

Fe wnaeth aelod o'r cabinet, y cynghorydd Alun Lenny, gyflwyno'r cynnig, gan honni nad yw'r benthyciad "wedi costio ceiniog i drethdalwyr Sir Gaerfyrddin."

Dywedodd Mr Lenny fod y rhanbarth eisoes wedi talu'r llog o £1.3m ar y benthyciad gan ddweud fod y rhanbarth yn "rhan fawr o ochr gymdeithasol ac economaidd" y sir.

'Cyfnod o ailstrwythuro'

Fe siaradodd cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack yn ystod y cyfarfod.

Dywedodd fod y Scarlets "yng nghanol cyfnod o ailstrwythuro er mwyn dychwelyd i fod yn fwy sefydlog".

Dywedodd fod y rhanbarth yn gwneud elw cyn Covid, ond bod y pandemig wedi effeithio arnyn nhw.

Dywedodd eu bod eisoes wedi cyflwyno mesurau i arbed arian, gan gynnwys haneru cost cynnal y prif dîm.

Dywedodd Nigel Short ei fod yn derbyn bod y cais i ymestyn y benthyciad yn "ofyn mawr" i'r cyngor mewn cyfnod anodd yn ariannol.

Fe alwodd y Cynghorydd Martyn Palfreman ar y Cynghorydd Alun Lenny i sicrhau na fydd y cynnig yn effeithio ar y ffordd mae gwasanaethau'r cyngor yn cael eu hariannu.

Dywedodd Mr Lenny na fydd hynny yn "peryglu cyllid ar gyfer prosiectau eraill".

Dywedodd Mr Short fod y Scarlets yn bwriadu ad-dalu'r arian cyfalaf a'r llog wrth i'r busnes ddod yn fwy sefydlog.

Pynciau cysylltiedig