'Twyll adeiladwr yn uffern - bydd carchar yn rhybudd i eraill'

Andy a Denise Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Mae Denise ac Andy nawr wedi gorfod ail-forgeisio a defnyddio'u cynilion ymddeol er mwyn talu i drwsio'r problemau

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl gafodd eu rhoi "drwy uffern" gan adeiladwr twyllodrus eu cartref wedi dweud bod y dinistr a adawodd wedi bod yn "dor-calon" iddyn nhw ac eraill.

Cafodd Michael Anderson, 76, o Borthcawl ei garcharu am dair blynedd a hanner ar ôl cyfaddef iddo dwyllo chwe pherson am gyfanswm o £260,000.

Yn eu plith oedd Andy a Denise Fitzgerald, welodd eu hymddeoliad delfrydol ger y môr yn cael ei chwalu ar ôl iddyn nhw anafu eu hunain yn ceisio cywiro gwaith sâl Anderson.

Dywedodd dynes arall, Jessica Reader, ei bod hi eisiau rhoi diwedd ar bethau ar ôl colli dros £130,000 i Anderson ar gyfer ei chartref ecogyfeillgar - ond fod ei ddedfryd o garchar wedi dod â chyfiawnder o ryw fath.

Cartref Andy a Denise Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartref ymddeoliad Andy a Denise Fitzgerald i fod yn barod o fewn blwyddyn, ond mae dal angen rhywfaint o waith bum mlynedd yn ddiweddarach

Roedd Andy a Denise yn byw yn Lloegr pan wnaethon nhw gyflogi Anderson i adeiladu cartref i ymddeol iddo ar y traeth ym Mhorthcawl yn 2019.

Roedd Denise yn awyddus i ddychwelyd i Gymru, ac fe wnaeth Anderson hyd yn oed drefnu llety rhent dros dro iddyn nhw gan addo bod y gwaith bron wedi gorffen.

Ond pan gyrhaeddodd y cwpl, roedd hi'n amlwg yn syth bod "llawer o broblemau" angen eu datrys, gan gynnwys y to a'r teras tu allan.

Wedi misoedd o ofyn i Anderson drwsio pethau, fe ddywedodd yr adeiladwr ei fod wedi rhedeg allan o arian, er iddo addo y byddai'r tŷ yn barod o fewn blwyddyn.

'Roedd e'n gwybod y byddai'n gwneud hyn'

"Roedd e'n dorcalonnus," meddai Andy.

"Ond roeddwn i'n flin erbyn y pwynt yna hefyd, fod e wedi'n twyllo ni.

"Roedd e'n gwybod y byddai'n gwneud hyn ers sbel. Felly roedd e'n anodd iawn."

Bu'n rhaid i Andy a Denise ddefnyddio'u pensiwn a'u harbedion i drwsio'r camgymeriadau - gan chwalu eu gobaith o ymddeol heb forgais.

Er i'r llys ddweud mai £43,000 oedd swm y twyll yn eu herbyn, mae'r cwpl yn dweud bod eu colledion bellach yn llawer mwy na hynny.

Cartref Andy a Denise Fitzgerald
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Andy a Denise Fitzgerald anafiadau wrth wneud gwaith atgyweirio yn y tŷ

Fe wnaeth y ddau hefyd anafu eu cefnau wrth geisio gwneud rhywfaint o'r gwaith eu hunain, ar ôl rhedeg allan o arian i dalu eraill.

Roedd hynny'n ergyd fawr i Denise yn enwedig, a hithau'n gyn-seiclwr cystadleuol.

"Nawr alla i ddim beicio, alla i ddim rhedeg, felly dwi wedi gorfod rhoi'r gorau i'r freuddwyd o wneud triathlon," meddai.

"I fi roedd hwnna mor bwysig yn feddyliol, i gadw fy hun yn gall. A dwi ddim wedi gallu gwneud dim o hynny."

'Cwmwl du o'n cwmpas'

Mae'r profiad wedi rhoi straen ar berthynas Denise ac Andy hefyd, gyda Denise yn dweud wrth y llys fod Anderson yn "fwli" oedd wedi "rhoi ni drwy uffern... [a] byth wedi ymddiheuro".

"Sut 'dyn ni wedi aros yn gwpl, dwi ddim yn gwybod," meddai.

"Mae wedi bod yn gwmwl du o'n cwmpas ni o hyd, a dim ffordd o'i osgoi."

Jessica Reader
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jessica Reader yn un arall o'r rheiny gafodd ei thwyllo gan Mike Anderson, gan dalu dros £130,000 iddo am ei thŷ eco-gyfeillgar

Jessica Reader oedd un arall o ddioddefwyr Mike Anderson, ar ôl talu dros £130,000 iddo adeiladu cartref bach ecogyfeillgar ar dir yng Ngwenfô ger Caerdydd.

"Roedd e'n ymddangos mor broffesiynol, yn dweud ei fod wedi bod yn y diwydiant adeiladu ers 50 mlynedd," meddai Jessica.

Ond daeth i'r amlwg bod addewid i orffen y tŷ erbyn Mai 2021 - deufis yn unig ar ôl dechrau'r gwaith - byth am ddigwydd, gyda phroblemau difrifol i'r to yn brif bryder.

"Roedd e jyst fel cragen syml gydag ychydig o ffelt drosto, a phlastig du dros y to, [oedd yn waeth] pan oedd y glaw yn dechrau dod i mewn, a'r tywydd yn oeri," meddai.

tŷ Jessica Reader
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anderson wedi addo gorffen adeiladu tŷ Jessica Reader o fewn deufis

"Roedd e'n cario 'mlaen dweud 'na i sortio fe i ti, paid â phoeni'."

Ond ddigwyddodd hynny fyth, gyda Jessica yn gorfod dringo ar y to ei hun er mwyn tynnu ac ailosod y gorchudd, yn dibynnu ar y tywydd.

Mae hi bellach wedi gwario degau o filoedd yn rhagor er mwyn i adeiladwyr newydd drwsio'r difrod, gan dalu am hynny gyda shifftiau ychwanegol yn ei gweithle milfeddygaeth, ac etifeddiaeth a gafodd.

Ond mae'r profiad wedi gadael ei ôl ar Jessica, a ddywedodd wrth y llys yn ei datganiad effaith dioddefwr ei bod hi wedi dymuno rhoi diwedd ar bethau ar adegau, gan ddyheu i'r to "ddisgyn i mewn" er mwyn dod â'r cyfan i ben.

'Nes i chwalu'n deilchion'

"Nes i chwalu'n deilchion," meddai.

"Alla i ddim disgrifio pa mor erchyll oedd e ar y pryd... pan mae rhywun yn gwneud hynny i chi yn fwriadol.

"Erbyn hynny doedd gen i ddim arian ar ôl i wneud unrhyw beth amdano. Roedd yr adeilad yn cwympo'n ddarnau.

"Roedd pethau eraill yn digwydd yn fy mywyd, ac roedd e'n deimlad mor anobeithiol.

"Does dim byd gwaeth na theimlo mor ddi-rym mewn sefyllfa fel yna, lle does dim rheolaeth gennych chi dros beth allwch chi ei wneud."

Gwaith heb ei orffen yng nghartref Jessica Reader
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd tyfiant ddod drwy'r lloriau er bod gwaith ar y seilwaith i fod i atal hynny, meddai Jessica

Yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd Anderson ei gyhuddo o bedwar achos o dwyll, a thri throsedd gwarchod cwsmer.

Ar ôl pledio'n euog, cafodd ei ddedfrydu ar 28 Ebrill yn Llys y Goron Caerdydd i dair blynedd a hanner yn y carchar.

Fe wnaeth ei wraig Sandra Anderson, 66, bledio'n euog i fod ag eiddo troseddol yn ei meddiant, sef £35,000 gan ddau ddioddefwr arall, Andrea a Richard Booth.

Cafodd ddedfryd o 18 wythnos wedi ei ohirio.

Llwydni ar y to
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeiladwyr eraill bellach wedi eu cyflogi i ddatrys problemau fel lleithder a llwydni yn y to, oherwydd safon gwaith Anderson

Clywodd y llys bod cyfanswm twyll Anderson yn £263,000, ond bod ganddo asedau gwerth tua £200,000 allai nawr fod yn agored i gamau i adfer enillion troseddol.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Eugene Egan ei fod wedi gadael "llanast ar ei ôl", gan weithredu'n "anonest a blêr" wrth ddangos nad oedd yn poeni am ei gwsmeriaid.

"Mewn iaith pob dydd, fe wnaethoch chi eu twyllo nhw," meddai. "Rydych chi wedi chwalu bywydau a breuddwydion pobl."

Ychwanegodd: "Mae achosion fel hyn yn chwalu ymddiriedaeth y cyhoedd."

'Ysgytwad' i adeiladwyr amheus eraill

Er hynny, daeth y ddedfryd yn sioc i ddioddefwyr Anderson oedd yn y llys i'w glywed.

"Roedd e'n dweud 'does neb wedi cael fi, fyddwch chi ddim yn cael fi - does dim pwynt," meddai Denise.

"Felly roedden ni'n hapus iawn gyda'r ddedfryd gafodd e."

Dywedodd ei gŵr Andy y byddai'n "ysgytwad" i unrhyw adeiladwyr amheus eraill.

"Falle nad yw e mor amlwg i rai nawr bod modd i chi osgoi cael eich dal," meddai.

"Falle bydd hyn yn rhybudd i bobl, fel nad yw eraill yn cael eu heffeithio yn yr un modd."

Michael Anderson a'i wraig SandraFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mike Anderson ei garcharu am dair blynedd a hanner, tra bod ei wraig Sandie wedi cael dedfryd o 18 wythnos wedi'i ohirio

Mae Jessica Reader eisiau gweld newid i'r gyfraith, er mwyn rheoleiddio'r diwydiant adeiladu yn well.

"Doeddwn i ddim yn sylwi nes beth ddigwyddodd i mi bod unrhyw un yn gallu galw eu hunain yn adeiladwr," meddai.

"Ac os oes unrhyw beth yn digwydd, maen nhw'n gallu cau lawr a dechrau eto dan enw gwahanol, falle mewn lle gwahanol. Felly mae'n anodd iawn."

Ond i Andy, roedd gweld Anderson yn cael ei garcharu yn ddiwedd pennod o ryw fath.

"Petai e wedi cerdded i ffwrdd gyda rhywbeth ysgafnach, fydden i ddim yn teimlo'r un peth," meddai.

"Ond i deimlo bod rhyw fath o gyfiawnder yna... mae'n beth da iawn."